Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

27/07/2012


Gwylwyr yr Arfordir

Mae'r National Coastwatch Institution  gyda dwy orsaf wylio (Porthdinllaen a Morfa Bychan), a gorsaf newydd fydd yn agor ym Mhwllheli yn 2013.  Mae angen gwirfoddolwyr i'w hyfforddi fel gwylwyr yr arfordir; i helpu gyda thasgau gweinyddol ac i godi arian.

06/07/2012


CYMYDMAEN CYF – CANOLFAN FENTER GONG MEINCIAU BOTWNNOG

Cwmni Cymunedol sy’n gweithredu er lles cymunedau Pen Llŷn.  Maent angen cymorth gyda rhedeg ‘Siop Cynhyrchwyr Llŷn 100%’ drwy gyfarch ymwelwyr y siop, defnyddio til a gosod silffoedd. 

RHEILFFORDD FAIRBOURNE


Gwirfoddolwyr eu hangen i gadw y rheilffordd hanesyddol yma i fynd.  Help gyda amrywiaeth o dasgau yn cynnwys codi arian, caffi, peirianneg, gweinyddu, gwaith ymarferol allan yn yr awyr agored.