Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
16/08/2013
SOVA - yn cynyddu cyflogaeth BME yng Nghymru
Rydym yn croesawu diddordeb gan athrawon gwirfoddol i ddysgu Saesneg a TG. Addysgu Saesneg a TG ar lefel sylfaenol ar sail 1-1 gan gynnwys gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chwilio am swydd. Cysylltwch â ni heddiw am fwy o wybodaeth.
Cymorth i Ddioddefwyr Trosedd
Cymorth i Ddioddefwyr yw'r elusen genedlaethol sy'n gweithio gyda dioddefwyr troseddau drwy ddarparu cymorth emosiynol a chyngor ymarferol. Rydym yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr i gynnal Archwiliadau Diogelwch Rhag Tân. A oes gennych sgiliau DIY? byddem yn falch iawn o glywed gennych. Rhoddir hyfforddiant llawn.
09/08/2013
HOST UK - Cyfnewid Diwylliannol
Host byr-dymor - Dyddiau neu Penwythnosau Cyfnewid Diwylliannol
Gwneud y byd yn ychydig mwy
cyfeillgar! Treuliwch ddiwrnod neu benwythnos gyda myfyriwr rhyngwladol/oedolion, dysgu am eu
diwylliant, gan ddangos eich ardal leol iddynt ac yn eu gwahodd i brofi eich
bywyd cartref eich hun. Cysylltwch a ni heddiw am fwy o fanylion.
Canolfan Tan y Maen, Blaenau Ffestiniog
Hwyluso Gwasanaeth Galw Heibio
Dyletswyddau yn cynnwys croesawu
pobl, helpu gyda gweithgareddau fel celf a chrefft, ychydig o waith
derbynfa.Gweini diod a byrbrydau. Hefyd maen't yn cynnig cefnogaeth a chyngor ar broblemau sydd yn
effeithio rhai defnyddwyr gwasanaeth.
06/08/2013
ASH CYMRU
Arweinwyr Gwirfoddol Ardal – Gwynedd
ASH Cymru yw’r
prif sefydliad gwirfoddol yng Nghymru sy'n mynd i’r afael â defnyddio tybaco
Dylgwylir i chi:
• Ddysgu am nodau a diben The Filter
ac ASH Cymru (www.thefilterwales.org /
www.ashwales.org.uk ).
• Bod yn esiampl i bobl ifanc a
gwirfoddolwyr eraill yn eich cymuned.
• Codi ymwybyddiaeth o The Filter lle
bo’n bosibl.
• Helpu i recriwtio a chydgysylltu gwirfoddolwyr
lleol.
Subscribe to:
Comments (Atom)