Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

10/03/2015

CAB Gwynedd a Môn - Ymgynghorydd gwirfoddol (16oed +)


Mae Cyngor ar Bopeth (CAB) yn delio gyda nifer o agweddau. Y rhai mwyaf cyffredin mae pobl yn eu hwynebu sy'n dod i'r canolfannau cynghori yw dyled, budd-daliadau, materion cwsmeriaid, tai a chyflogaeth.
Bydd cynghorwyr gwirfoddol yn:
1. cyfweld cleientiaid
2.Helpu drwy drafod gyda asiantaethau eraill megis credydwyr neu darparwyr gwasanaethau
3.Ysgrifennu llythrau
4. Gwneud galwadau ffôn ar ran y cleientiau
5. Cyfeirio at asiantaethau eraill
Ni fydd cynghorwyr gwirfoddol yn cyfweld cleientiaid ar eu pen eu hunain am y 4 mis cyntaf- byddant yn cysgodi gwirfoddolwyr profiadol yn y lle cyntaf drwy ddelio â chleientiaid.

CAB Gwynedd a Môn - Ymgynghorwyr llinell gymorth


Ymgynghorwyr llinell gymorth
Y llinell gymorth yw’r pwynt cyswllt cyntaf i gleientau CAB.

Bydd y ôl yn cynnwys
1.    Delio gyda amrywiaeth eang o gleientau dros y ffôn
 
2.    Cefnogi gleientau o bob oed a chefndir

3.    Darparu gwybodaeth i’r cleient

4.    Cyfeirio cleientau at asiantaethau eraill sy’n darparu gwasanaethau arbenigol

5.    Cadw cofnod o achosion gleientau ar fas data
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com