Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

13/01/2015

Y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru – Cyfieithydd Gwirfoddol y iaith Gymraeg


Rydym yn chwilio am wirfoddolwr i gyfieithu deunydd o Saesneg i Gymraeg i gefnogi ein Cynllun Iaith Cymraeg.  A ydych yn siarad Cymraeg yn rhugl efo sgiliau ysgrifennu ardderchog?  Oes gennych lefel A neu radd yn yr iaith Gymraeg?  Oes gennych ddealltwriaeth o’r sector wirfoddol?  Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn Humphreys ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com

Relate Cymru – Gwirfoddolwyr Canolfan Cyswllt Plant


Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i fod yn gyfaill a gwirfoddolwyr cefnogol i wasanaeth cyswllt plant ym Mangor.  Dyletswyddau'r gwirfoddolwyr fydd i baratoi lluniaeth a darparu lleoliad diogel a niwtral i’r teuluoedd fynychu.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn Humphreys ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com

Iechyd Cyhoeddus Cymru - Gwirfoddolwr Cyswllt Sgrinio


A ydych yn mwynhau cyfarfod pobl newydd, efo amser sbâr? Pam ddim bod yn wirfoddolwr cyswllt sgrinio?  Cynnwys y rôl ydi gosod stondinau gwybodaeth, mynychu digwyddiadau iechyd a rhannu gwybodaeth allweddol am sgrinio yn eich cymuned leol.  Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Carwyn Humphreys ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com

06/01/2015

Cyswllt a’r Henoed – Gyrrwr Gwirfoddol (14:2)


A oes gennych ddiddordeb mewn dreifio?  Rydym yn chwilio am wirfoddolwr i godi 2 neu 3 unigolyn hyn ar bnawn dydd Sul a’u danfon nhw i de parti.  Fel y gyrrwr fuasech yn cael gwahoddiad i fynychu’r parti, lle fuasech yn cael y cyfle i fwynhau’r cwmni o yrwyr eraill a phobl hyn.  Am fanylion pellach am y cyfle gwirfoddol yma cysylltwch â Carwyn Humphreys ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Cyswllt Llinell Gymorth – Ymddiriedolaeth Goroeswyr Cymru


Mae’r Ymddiriedolaeth Goroeswyr Cymru yn cefnogi goroeswyr trais rhywiol yng Nghymru.  Rydym yn chwilio i recriwtio wirfoddolwyr i fod yn gyswllt ir linell gymorth.  Fydd y gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant o safon uchel mewn sgiliau gwrando ayyb.  Gellir weithio o gartref neu dod i mewn i’r swyddfa.  Gofynnir i ymgeisiwyr fod yn 18+ oed.  Am fwy o fanylion cysylltwch a Carwyn Humphreys ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cefnogaeth efo Teclyn Clyw – Gweithredu ar Colli Clyw


Mae Action on Hearing Loss yn chwilio am wirfoddolwyr i roi cefnogaeth a chyngor i ddefnyddwyr teclyn clyw, eu teuluoedd, gofalwyr, grwpiau cymunedol ac i bobl broffesiynol.  Gofynnir i’r gwirfoddolwr gynnal sesiynau am 3 awr yr wythnos mewn ysbytai, canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd ayyb.  Mae’r rôl yn addas i bobl 18+ oed.  Efo diddordeb? Cysylltwch efo Carwyn Humphreys ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com