Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

22/12/2015

Gwirfoddolwr grwp / cefnogol (18+) - Derwen

Nod Derwen yr rhoi cynnig i blant anabl Gwynedd cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol. 

Mae'r rol Gwirfoddolwr grwp/cefnogol yn golygu bod yn rhan mewn clwb ieuenctid ar gyfer plant anabl.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Aelod Tim - Helpu pobl sy'n anghyfarwydd â Thechnoleg Ddigidol - CitizensOnlineGwynedd


Mae angen gwirfoddolwyr i helpu redeg sesiynau galw heibio - ble y bydd aelodau o'r cyhoedd yn galw draw am gyngor neu help gyda phroblem ddigidol - sut i fynd ar-lein, defnyddio peiriannau chwilio, e-bost a defnydd cyffredinol bob dydd. Nid ydym yn chwilio am ddewiniaid technegol, dim ond pobl sy'n mwynhau helpu pobl eraill, ac wedi meistroli defnydd pob dydd o'r rhyngrwyd. Byddwch yn rhan o dîm a fydd yn rhoi cwpl o oriau o amser yn y gymuned i ateb ymholiadau cyffredinol ac i gynnig cymorth gyda phroblemau sylfaenol y bydd dechreuwyr yn dod ar eu traws.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Gwarchodfa Natur - NWWT


Cynorthwyo staff cadwraeth i reoli gwarchodfeydd natur.  Rhai o'r tasgau - bôn docio coed, torri prysgwydd; llosgi deunyddiau; codi ffensys postyn a gwifren ayyb.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Arweinwyr Sgowtiaid a Cynorthwy-ydd Beavers

Dyma adran newydd o fewn grŵp sydd eisoes yn bodoli. Mae Beavers ar gyfer merched a bechgyn rhwng 6-8 mlwydd oed. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael megis Arweinwyr Sgowtiaid Beaver neu Cynorthwy-ydd Adran Sgowtiaid Beavers . Mae'r rolau yn cynnwys cynllunio a rhedeg rhaglen amrywiol o gemau a gweithgareddau gyda'r Sgowtiaid Beaver. Darperir hyfforddiant am ddim a gellir ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored. Mae'r Sgowtiaid yn ymwneud â chael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, mae'n wych i wella eich CV a gwneud cyfraniad i fywydau pobl ifanc a'r gymuned leol. Bydd y grŵp yn cyfarfod bob dydd Mawrth ym Methesda rhwng 5.45pm - 6:45pm.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwydd Siop Dolgellau Harri's


Mae'r Hosbis yn rhoi gofal lliniarol i bobl yng ngogledd orllewin Cymru sydd yn dioddef o salwch terfynnol.  Maent yn  awyddus iawn i glywed gan unrhyw un sydd a diddordeb mewn helpu yn eu siopau elusen - er mwyn codi arian i'r achos teilwng yma. 

Bydd y tasgau yn cynnwys delio gyda chwsmeriaid; gwneud trefn a phrisio rhoddion; defnyddio'r til; arddangos y nwyddau; a chadw'r siop yn lân a thaclus.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Helpu yn y swyddfa - Action on Hearing Loss


Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi ein gwasanaethau colli clyw, grwpiau cymdeithasol , prosiectau codi arian a'r tîm ymgyrchoedd drwy helpu gyda thasgau gweinyddol yn ein swyddfa ym Mangor. Gall tasgau gynnwys helpu gyda gwaith ymchwil, cofnodi data, cyfathrebu, y cyfryngau cymdeithasol, ffeilio a thasgau swyddfa cyffredinol eraill.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

08/12/2015

Cynorthwyo yng nghystadleuthau bowldro Ysgolion Gogledd Cymru


Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo yng nghystadleuthau Bowldro Ysgolion Gogledd Cymru. Byddem angen unigolion i helpu gyda chadw scoriau, gwyliwr (term dringo) a gwaith cyffredinol ar y diwrnod.

-Ynys Môn (Wal ddringo Indi, Llanfairpwll) dyddiad i'w gadarnhau 10:00-15:30
-Ysgolion gogledd Cymru (Wal ddringo Beacon, Caernarfon) Dydd Mercher, Chwefror 10fed. 10:00-15:30
- Ysgolion de Gwynedd (Canolfan Hamdden Harlech) Dydd Iau, Chwefror 11eg 10:00-15:30
- Ffeinal (Wal ddringo Beacon, Caernarfon) Dydd Mercher, Mawrth 9fed, 10:00-15:30
Bydd crys-T a 'Buff' ar gael i bawb sy'n gwirfoddoli. 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gweithiwr Achos Gwirfoddol. Cymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol(RAF)- Caernarfon.


Mae Cymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol (RAF) yn elusen lles a arweinir gan aelodau sy'n cynnig cymorth i deuluoedd RAF.

Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â'n tîm o wirfoddolwyr hyfforddedig.

Mae Gweithiwr Achos yn gwneud gwaith lles ar gyfer Cymdeithas y Llu Awyr Brenhinol. Mae'r gwaith yn ymwneud ag ymweliad a gwrando ar unigolion i asesu eu hanghenion i gael gwybod sut y gall y Gymdeithas roi cymorth a chefnogaeth iddynt.

Gall cefnogaeth gynnwys unrhyw beth o helpu cleient sydd wedi datblygu anabledd yn diweddar i fod mewn cysylltiad â gwasanaethau cymdeithasol. Gall hyn fod i'w helpu iddynt roi  cais am ystafell i lawr y grisiau wlyb, er enghraifft, neu rywbeth mor syml â rhoi cais i Gymdeithas RAF am gyllid ar gyfer tegell newydd.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr canolfannau Mentro Mlaen - Gisda


Trefnu gweithgareddau yn y canolfannau

Trefnu a chyd - weithio gyda staff Mentro Mlaen gyda gemau ac ymarfer pêl - droed Street Football Wales
Cysgodi gweithiwr prosiect gyda thasgau dyddiol
Hel syniadau ar gyfer gwella’r ganolfan
Helpu i gynyddu niferoedd i mewn i’r ganolfan.
Fod yn bresennol yn y canolfannau i groesawu pobl ifanc. 

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Mentor Cyfoed - Gisda

 Cynorthwyo’r gweithwyr allweddol a cefnogol gyda thasgau dyddiol

- Cyfathrebu yn gyson gyda’r gweithwyr allweddol/cefnogol
- Rhannu unrhyw bryderon ynglŷn â defnyddwyr gwasanaeth a’r staff perthnasol
- I fod yn llais i'r bobl ifanc mewn cyfarfodydd e.e. grŵp ffocws, cyfarfod trigolion
- Bod yn glust i'r bobl ifanc wrth gadw’n broffesiynol a rhannu gwybodaeth pam angen yn ôl canllawiau cyfrinachedd.


Annog a chefnogi pobl ifanc i:
 -Cael defnydd llawn o brosiectau a’r cynlluniau
 -i fynychu gweithgareddau a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd ar gael
 -i ddatblygu a dysgu sgiliau newydd
 -i fod yn iach

  -i gyllidebu eu harian yn well
  -i goelio yn eu hunain a hyrwyddo hunan hyder
  -i gyrraedd eu llawn botensial


Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

01/12/2015

Recriwtiwr Aelodaeth - Ynys-hir Gwarchodfa RSPB


Cynorthwyo staff a gwirfoddolwyr eraill i redeg stondinau recriwtio a gwybodaeth mewn archfarchnadoedd, canolfannau garddio a sioeau. Mae recriwtio aelodau i'r RSPB yn darparu cymorth ar gyfer gwaith cadwraeth gwerthfawr y gymdeithas.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
 

Gweithiwr Achos Gwirfoddol. Cymdeithas y Llu Awyr Brenhinol(RAF)- Caernarfon.


Mae Cymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol (RAF) yn elusen lles a arweinir gan aelodau sy'n cynnig cymorth i deuluoedd RAF.

Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â'n tîm o wirfoddolwyr hyfforddedig.

Mae Gweithiwr Achos yn gwneud gwaith lles ar gyfer Cymdeithas y Llu Awyr Brenhinol. Mae'r gwaith yn ymwneud â ymweliad a gwrando ar unigolyn i asesu eu hanghenion i gael gwybod sut y gall y Gymdeithas roi cymorth a chefnogaeth iddynt.

Gall cefnogaeth gynnwys unrhyw beth o helpu cleient sydd wedi datblygu anabledd yn diweddar i fod mewn cysylltiad â gwasanaethau cymdeithasol. Gall hyn fod i'w helpu iddynt roi  cais am ystafell i lawr y grisiau wlyb, er enghraifft, neu unrhyw beth mor syml â rhoi cais i Gymdeithas RAF am gyllid ar gyfer tegell newydd.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
 

Cynorthwyo gyda pobl ifanc – Menter Llyn


Mae gennym gyfleoedd i bobl gynorthwyo yn ein siop yn Nefyn. Mae gan y siop gyfrifiaduron  cyhoeddus ac o 3.30pm ymlaen mae plant ysgolion cynradd yn dod atom i wneud eu gwaith cartref ar hyd at 7 cyfrifiadur ac i gymdeithasu. Mae pobl ifanc ysgolion uwchradd yn cyrraedd o 4:30pm. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn pobl sydd yn hapus i oruchwylio'r gweithgareddau yma. Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbennig o dechnoleg, ond gall hyfforddiant ar gyfrifiaduron gael ei ddarparu os oes angen.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com