Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

22/12/2014

Gwirfoddolwyr Digwyddiadau (Codi arian)


Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu edrych ar ôl stondinau, helpu efo gweithgareddau ee crefftau, stiwardio mewn digwyddiadau cyffredinol o amgylch Gogledd Cymru.  Mae’r rôl yma yn addas i berson 18+.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com

NSPCC – Gwasanaeth Ysgolion ChildLine

Rydym angen gwirfoddolwyr i ddosbarthu Gwasanaeth Ysgolion ChildLine i ysgolion cynradd gyda’r ffocws ar blant rhwng 7 - 11 oed.  Bydd y gwirfoddolwyr yn defnyddio cyflwyniadau a gweithdai yn y dosbarth i godi ymwybyddiaeth plant o sut i gadw yn ddiogel ee trais a bwlio.  Mae angen siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd a Môn.  Gofynnir i’r gwirfoddolwyr gynnal sesiynau mewn 10 ysgol dros gyfnod o 12 mis.  Mae angen i’r ymgeiswyr fod yn 18+.  Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com  

Both Parents Matter - Golygydd Newyddlen Genedlaethol


Mae angen wirfoddolwyr i greu a datblygu newyddlen genedlaethol i wirfoddolwyr a ffrindiau’r elusen.  Fydd y person yn gweithio o adra ar ben ei hun efo cefnogaeth y Rheolwr Cenedlaethol.  Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com

28/11/2014

Ambiwlans Awyr Cymru – Cyfaill Gyrrwr Fan


Mae’r cyfle yma yn cynnwys casglu a danfon rhoddion o/i gartrefi pobl.  Bydd angen cychwyn yn gynnar yn y bore a fydd yn rhaid i’r gwirfoddolwyr fod yn eithaf ffit oherwydd cario dodrefn. 
 
Am fanylion pellach, cysylltwch efo Carwyn ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com

30/10/2014

Partneriaeth Awyr Agored - Taith gerdded codi sbwriel


Mae’r Partneriaeth Awyr Agored wedi bod yn gweithio yn agos efo Gwirvol, Cadw Cymru’n Daclus a RAW Adventures i gynnal digwyddiadau gwirfoddol amgylcheddol i bobl ifanc rhwng 14-25 oed.  Fydd y digwyddiad yma yn cael ei gynnal unwaith ar 1af-2ail Tachwedd 2014.  Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com

 

Bws Barbara – Cymorth Gweinyddol


Mae Bws Barbara yn chwilio am wirfoddolwyr yn ardal Aberdyfi fuasai’n gallu cynnig cefnogaeth gweinyddol unwaith neu ddwy yr wythnos am 20 i 30 munud, i edrych dros dogfennau defnyddwyr newydd ac arddangos sut i i ddefnyddio’r belt diogelwch yn y cerbyd. 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com

Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn - Cynorthwy ydd Siop


Diddordeb gwirfoddoli mewn siop?  Mae Hosbis yn y Cartref yn chwilio am weithwyr siop i wahanol leoliadau.  Buasai’r tasgau yn cynnwys rhyngweithio efo cwsmeriaid, sortio a phrisio rhoddion, gweithio ar y til, arddangos nwyddau a chadw’r siop yn daclus.  Am fwy o wybodaeth cysylltwch efo Carwyn ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com

02/10/2014

Ymgyrchydd Masnach Deg


Mae angen ymgyrchydd gwirfoddol oed 18+ i ymuno efo’u grwpiau Masnach Deg cymunedol lleol.  Mae ymgyrchwyr Masnach Deg yn defyddio eu sgiliau i unai weithio tuag at neu cadw gwobr Masnach Deg y gymuned drwy trefnu digwyddiadu, ymweld ag ysgolion i roi gwybodaeth ayyb.  Mae’r rôl yma’n hyblyg ond mae’r rhan fwyaf o gyfarfodydd Masnach Deg yn cael eu cynnal gyda’r nos gyda’r gweithgareddau a digwyddiadau yn cael eu cynnal gyda’r nos neu ar y penwythnos.  Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Asesydd Masnach Deg Ysgol


Mae angen aseswyr gwirfoddol 18 + oed i helpu mwy o ysgolion yn y DU i ennill y wobr boblogaidd Gwobr  Masnach Deg Ysgol.  Prif ddyletswydd yr asesydd yw edrych ar geisiadau ar lein gan ysgolion i weld os maent yn cyrraedd y criteria maen nhw angen i fod yn Ysgol Masnach Deg ac i roi adborth.  Lleolir y cyfle yma o adre ac maen hyblyg.  Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Gwarchodfa Natur


Rydym yn chwilio am wirfoddolwr oed 16+ i weithio mewn grŵp gyda gwirfoddolwyr eraill, i gynorthwyo'r staff cadwraeth gyda’u dyletswyddau o ran rheoli gwarchodfa natur.  Am fanylion pellach cysylltwch efo Carwyn ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com

Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru – Mentor Busnes


Rydym yn chwilio am fentor busnes gwirfoddol oed 18+, i gefnogi pobl ifanc rhwng 18-30 oed, sydd yn ddi-waith ac efo diddordeb fod yn hunain cyflogedig.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com

Citizens Online Gwynedd - Tiwtor Sylfaenol y Rhyngrwyd


Mae angen gwirfoddolwyr 18+ oed i gynorthwyo’r cyhoedd i ddysgu a dallt elfennau sylfaenol y rhyngrwyd - sut i fynd ar-lein, sut i ddefnyddio ‘search engines’, ebost a defnydd cyffredinol pob dydd.  Os rydych yn gyfforddus yn defnyddio e-byst, google ac yn mwynhau helpu eraill, hwn yw’r cyfle i chi!  Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com

19/09/2014

Marie Curie Cancer Care - Ysgrifennydd grŵp codi arian


Lleolir y cyfle yma yn y gymuned.  Rhai o’r prif ddyletswyddau fydd:  gwaith gweinyddol, gwaith cyfrifiadurol, cymryd nodiadau  a rhannu gwybodaeth ar ôl cyfarfodydd.  Mae’r cyfle yma yn addas i unigolion 18 oed neu drosodd. 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com

Byd Mary Jones World - Cynorthwyo i redeg canolfan ymwelwyr


Mae Byd Mary Jones yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo i redeg y ganolfan ymwelwyr.

Y tasgau fydd - Cynorthwyo i agor a chau’r ganolfan. I weithio ar y til. Dangos ymwelwyr o amgylch y ganolfan ac ateb unrhyw gwestiynau.
Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

29/08/2014

Blind Veterans UK - Codi Arian


Mae Blind Veterans UK yn chwilio am wirfoddolwyr i chwarae rhan gwerthfawr gan helpu i godi’r arian maent fawr o angen a hefyd i hywrwyddo eu gwaith drwy helpu i gasglu arian mewn amrywiaeth o leoliadau.

Tŷ Gwydr – Cefnogaeth Gweinyddol


Mae Tŷ Gwydr yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi rhedeg yr adeilad a phrosiectau cymunedol. Maent yn chwilio am 4-6 wirfoddolwr i gychwyn ym mis Hydref.  Mae angen gwirfoddolwyr i:

Cwmni Nod Glas cyf – Hyrwyddo Dinas Mawddwy


Mae Cwmni Nod Glas yn chwilio am wirfoddolwyr i groesawu pobl a rhannu gwybodaeth am wasanaethau, atyniadau twristiaeth a chysylltiadau lleol.
 
Mae’r rôl yma yn hyblyg a mae’r cyfle yma wedi ei leoli yn Yr Hen Siop.  Rhaid i wirfoddolwyr fod yn 16+ oed.  
 
Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

26/08/2014

Making Music – Swyddog Cyfryngau Digidol


Bydd y Swyddog Cyfryngau Digidol fod yn gyfrifol am helpu'r tîm i ddatblygu, casglu, paratoi a llwytho cynnwys cyfathrebu o ansawdd i amrywiaeth o gyfryngau digidol a chymdeithasol.  Byddant hefyd yn rhyngweithio gyda'r gynulleidfa ar-lein, i adeiladu, datblygu a chryfhau'r gymuned ar-lein. Lleolir y cyfle yma o adref gyda rhwyfaint o deithio. Mae’r rôl yma yn hyblyg.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann  ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
 

Making Music – Swyddog Datblygu Aelodau


Lleolir y cyfle yma o adra gyda rhywfaint o deithio yng Nghymru.  Y Swyddog Datblygu Aelodau fydd y prif gyswllt i Making Music yn yr ardal.  Y prif ddyletswyddau fydd croesawu aelodau newydd, gyrru ymholiadau ymlaen, gweithio efo rheolwr llinell i ddilyn fyny darpar aelodau, chwilio am bartneriaethau lleol a chyfleoedd addas o fudd i aelodau (fel gwyliau lleol a lleoliadau).  Mae’r rôl yma yn hyblyg a disgwylir i’r person wirfoddoli am o leiaf 4 awr yr wythnos.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

 

22/08/2014

Royal Voluntary Service - Angen gwirfoddolwr i wneud gwaith gweinyddol, marchnata/PR ayyb

Mae'r RVS yn chwilio am wirfoddolwyr i drefnu digwyddiadau. Y prif ddyletswyddau fydd: chwilio am leoliadau addas i gynnal digwyddiadau, marchnata, cyhoeddusrwydd, paratoi gwahoddiadau ayyb.

Am fwy o fanylion am y cyfle yma cysylltwch â Carwyn ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

22/07/2014

Cymhorthi mewn gweithgareddau syrcas a chelf


Mae Cimera yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i redeg gweithgareddau syrcas a celfyddydol (drama, dawns, cerddoriaeth, celf, carnifal ayyb).
Cynhorthwy'r bobl ifanc sy'n cymered rhan yn y gweithgareddau.
Am fwy o fanylion cysylltwch a Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu ebostio carwyn@mantellgwynedd.com
 

Marshal gwirfoddol ar gyfer ras hanner marathon Eryri dydd Sadwrn 25 Hydref 2014


Mae Tenovus yn codi miloedd o bunnoedd bob blwyddyn trwy ddigwyddiadau rhedeg. Cafodd Marathon Eryri ei bleidleisio fel y Marathon gorau yn y DU, ond mae hefyd yn cael ei ystyried yn un o'r rhai mwyaf anodd! Gall cyfranogwyr ddisgwyl nid yn unig golygfeydd hardd, ond hefyd yn trefniadau o'r radd flaenaf a lletygarwch lleol cynnes. Mae angen gwirfoddolwyr i gynorthwyo gyda gorsafoedd diodydd dŵr Tenovus ac hefyd mewn mannau i annog a llonni ar y rhedwyr ar hyd y llwybr Hanner Marathon i helpu greu presenoldeb gwych ar gyfer y cyfranogwyr ras.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd Siop Elusen


 Mae Siop elusen Oxfam ym Mhorthmadog yn chwilio am wirfoddolwyr.  Y prif ddyletswyddau fydd sortio dillad, rhoi prisiau ar eitemau a gwaith til (fydd hyfforddiant til ar gael).  Telir costau teithio

CPD Porthmadog FC Academy - Gweinyddwr i'r Academi


Cadarnhau gosodion gemau sydd wedi cael ei drefnu gan y CBD.
Darparu cyfarwyddiadau ysgrifenedig wythnosol i'r hyfforddwyr (i roi i'r chwaraewyr).
Delio hefo unrhyw faterion sy'n cael ei godi gan CBD. 
Cadw cofnodion o'r holl chwaraewyr a hyfforddwyr.
 
Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn neu Gwenllian ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
 

Mentor Busnes - Prince's Trust Cymru


Mae'r Rhaglen Menter yn cefnogi pobl sy'n ddi-waith rhwng 18-30 oed ac  sydd â diddordeb mewn hunan gyflogaeth, i archwilio a phrofi eu syniadau, ysgrifennu cynlluniau a dechrau eu busnesau eu hunain, neu sicrhau canlyniadau amgen mewn cyflogaeth, addysg, hyfforddiant neu waith.
Rôl y Mentor Busnes fydd rhoi canllawiau i gleientiau, helpu pobl ifanc i ddod o hyd ac i ddeall gwybodaeth, datrys problemau a gweithredu ar gynlluniau gweithredol. Byddwch yn arwain pobl ifanc i ddod o hyd i atebion .
Rôl y mentor busnes hefyd fydd datblygu perthynas waith dda gyda'r bobl ifanc.
Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626

Hyfforddwr swydd ar gyfer pobl sydd â Syndrom Down


Byddwch yn darparu cymorth swyddi a hyfforddiant i berson sydd â syndrom Down yn eu man gwaith.  Chi fydd eu cydweithiwr ac yn eu hannog i fod yn rhan o'r ochr gymdeithasol y gwaith hefyd.
A ydych yn18 oed neu drosodd ac efo diddordeb?  Am fanylion pellach cysylltwch a Carwyn, Gwenllian neu Ann ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626

27/05/2014

Siop y Groes Goch, Dolgellau


Oes gennych ddiddordeb gwirfoddoli mewn siop?  Mae’r Groes Goch yn Nolgellau yn chwilio am wirfoddolwyr i weithio ar y til a delio efo cwsmeriaid yn y siop ar ddydd Llun a dydd Iau. 

Am fyw o fanylion, cysylltwch a Mantell Gwynedd - Ann Fleming ar 01341 422575 neu Carwyn Humphreys ar 01286 672626

16/05/2014

Cyngor ar Bopeth (CAB)

 

Mae CAB Gwynedd a Môn  yn chwilio am wirfoddolwyr yn eu swyddfa yn Nolgellau.  Am fwy o fanylion cysylltwch â swyddfa Mantell Gwynedd:  Ann Fleming - 01341 422575 neu Carwyn Humphreys - 01286 672626

12/05/2014

Antur Stiniog

Cymorth yn y swyddfa ac amrywiol

Gwirfoddoli yn y siop, tacluso, stock take, gweithio ar y til, sgwrsio gyda aelodau'r adran twristiaeth, heirio beiciau, trwsio beiciau, gwaith trwsio cyffredinol ar feiciau, gofal a chadw'r llwybr beics, marshlo mewn digwyddiadau.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 (Caernarfon)/Dolgellau 01341 422575 neu ebostio Carwyn@mantellgwynedd.com

12/03/2014

Arweinwyr Cerdded Gwirfoddol

Hoffech chi sefydlu grwp cerdded yn eich cymuned chi?
A fyddai hyfforddiant yn eich ysgogi?

Mae dau gwrs yn cael ei gynnal fel a ganlyn:
21ain o Fawrth yn ardal Meirionnydd
24ain o Fawrth yn ardal Arfon

Cysylltwch â:  LoisLlewelynWilliams@gwynedd.gov.uk am fwy o wybodaeth.

03/01/2014

CANCR Y PROSTRATE UK

Gwirfoddoli drwy roi cymorth i gyfoedion dros y ffôn—gwrando a chefnogi drwy ddefnyddio profiad personol.  Hefyd angen  - Siaradwyr gwirfoddol I fynychu digwyddiadau a siarad am eu profiad hwy o’r cancr yma.  Cysylltwch am fwy o fanylion ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com.

DARLLEN AR Y CYD

Hwylusydd Gwirfoddol ar gyfer 'Darllen ar y Cyd' er mwyn galluogi pobl a phlant i fanteisio ar brofiad rheolaidd o ddarllen.  A oes gennych awr neu ddwy i sbario mewn wythnos ac yn byw yn ardal Bangor.  Cysylltwch a ni heddiw.

CARTREF HEDD WYN, YR YSGWRN

A oes gennych awr neu ddwy i sbario i dywys ymwelwyr, cynorthwyo ar ddiwrnodau agored a gyda ymchwil hanesyddol.  Csysylltwch a  ni am fwy o wybodaeth.

CIL DE GWYNEDD

Angen gwirfoddolwyr i helpu yn y swyddfa ym Mhorthmadog gyda ceisiadau grantiau.  Profiad yn ddymunol.  Cysylltwch heddiw am fwy o fanylion.

GRWP CYMUNEDOL POBL BANGOR

Rydym yn chwilio am bobl i helpu gyda gwahanol rolau o fewn y pwyllgor i ledaenu'r llwyth o drefnu digwyddiadau cymunedol.  Cysylltwch a ni os oes gennych awr neu ddwy i sbario.

WILD ELEMENTS

WILD ELEMENTS yn helpu pobl agosau at natur drwy gael hwyl.  Gallwch helpu gyda un o'r cyfleoedd canlynol - Cynorthwydd Ysgol Goedwig; Cyfieithydd; Cyfryngau Cymdeithasol.  Cysylltwch a ni heddiw.