Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

16/05/2018

Gwirio gofal iechyd yng Nghymru - Adolygydd Lleyg Gwirfoddol AGIC - Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru


Beth yw Adolygydd Lleyg Gwirfoddol?



Mae Adolygwyr Lleyg Gwirfoddol yn ein helpu yn ystod ein harolygiadau ac adolygiadau o wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.



Beth mae Adolygydd Lleyg Gwirfoddol yn ei wneud?



Mae Adolygwyr Lleyg Gwirfoddol yn gweithio ochr yn ochr â'n Timau Arolygu i wirio bod cleifion yn cael gofal iechyd da yng Nghymru.

Mae gwirfoddolwyr yn rhan bwysig o'r broses arolygu ac adolygu. Er bod ein Tîm Arolygu yn sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn cydymffurfio â rheoliadau a safonau clinigol, mae gwirfoddolwyr yn siarad â chleifion am y driniaeth a'r gofal y maent yn ei dderbyn gan y gwasanaethau gofal iechyd.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Iechyd a Diogelwch – Cymdeithas MS



Rydym yn awyddus i recriwtio Gwirfoddolwr Iechyd a Diogelwch ar gyfer Grŵp Gwynedd a Môn. Mae ein gwirfoddolwyr iechyd a diogelwch yn gyfrifol am sicrhau bod asesiadau risg iechyd a diogelwch yn cael eu cynnal bob blwyddyn ar gyfer yr holl weithgareddau grŵp lleol.Rydym yn grŵp bach ond gweithgar sy'n trefnu ystod o weithgareddau i bobl sy'n byw gydag MS yn lleol, gan gynnwys dau ddosbarth ymarfer corff, côr, caffi neuro misol, sesiynau boccia, sesiynau coffi a gwybodaeth ad hoc o gwmpas yr ardal.

Mae arnom angen i chi gymryd rhan a helpu i wneud newidiadau cadarnhaol i fywydau pobl yr effeithir arnynt gan MS. Dyma gyfle gwych i ennill profiad mewn elusen fawr a datblygu'ch sgiliau sydd gennych eisoes a dysgu rhai newydd.

Bydd gennych ddiddordeb yn yr MS Society a'r gwaith yr ydym yn ei wneud, yn ogystal â'r brwdfrydedd i gynrychioli ni a'n gwerthoedd yn lleol. Byddwch yn deall anghenion pobl yr effeithir arnynt gan MS yn eich ardal chi a byddwch yn cydymdeimlo ag anghenion a chymhelli



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cyfathrebu - Cymdeithas MS




Rydym yn awyddus i recriwtio Gwirfoddolwr Cyfathrebu ar gyfer Grŵp Gwynedd a Môn. Rydym yn grŵp bach gweithgar sy'n trefnu ystod o weithgareddau i bobl sy'n byw gydag MS yn lleol. Fel y Gwirfoddolwr Cyfathrebu, byddwch yn gyfrifol am ysgrifennu'r cylchlythyr bob chwarter a chynnal cyfryngau cymdeithasol lleol. Rydyn ni'n amcangyfrif bod angen tua phedwar awr y mis o'ch amser yn y rôl hon, yn ogystal â mynychu'r cyfarfod tîm misol cydlynu.



Byddwch yn gallu cyfathrebu'n glir mewn Saesneg ysgrifenedig a llafar a gallu defnyddio cyfrifiadur a rhyngrwyd. Byddwch yn deall anghenion pobl yr effeithir arnynt gan MS yn eich ardal chi a byddwch yn cydymdeimlo ag anghenion a chymhellion y gwirfoddolwyr.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cydlynydd Grŵp - Cymdeithas MS




Mae arnom angen recriwtio Cydlynydd Grŵp ar gyfer Grŵp Gwynedd a Môn. Fel Cydlynydd Grŵp, byddwch yn gweithredu fel llysgennad i'r grŵp, datblygu cynlluniau blynyddol, arwain gweithgareddau'r grŵp a recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr y grŵp.



Mae'n grŵp bach gweithgar sy'n trefnu ystod o weithgareddau i bobl sy'n byw gydag MS yn lleol, gan gynnwys dau ddosbarth ymarfer corff, côr, caffi neuro misol, sesiynau boccia, sesiynau coffi a gwybodaeth ad hoc o gwmpas yr ardal. Rydym yn cwrdd bob mis fel tîm ac fel Cydlynydd Grŵp byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'r gwirfoddolwyr eraill yn lleol ac fe'ch cefnogir gan Swyddog Rhwydwaith Lleol Gogledd Cymru.



Bydd gennych ddiddordeb yng nghymdeithas yr MS a'i waith, yn ogystal â'r brwdfrydedd i gynrychioli ni a'n gwerthoedd yn lleol. Byddwch yn deall anghenion pobl yr effeithir arnynt gan MS yn eich ardal chi a byddwch yn cydymdeimlo ag anghenion a chymhellion y gwirfoddolwyr. Byddwch chi'n gallu cefnogi a chydlynu tîm o wirfoddolwyr.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cyfaill Darllen - The Reader


Pwrpas: Galluogi person ynysig i gymryd rhan mewn profiad Darllen ar y Cyd wythnosol gyda nofelau, straeon byrion a barddoniaeth.



Gweithgareddau allweddol: Gwneud ymweliadau rheolaidd i rywun yn eu lleoliad i ddarllen ar lafar un wrth un gyda nhw.



Beth fyddwch chi yn ennill o’r profiad:    



- Galluogi pobl ynysig i ennill lles o lenyddiaeth

- Datblygu eich sgiliau darllen ar lafar a chyfeillio

- Hyfforddiant a chymorth parhaus ar gyfer y rôl

- Gweithio o fewn cod ymddygiad clir wrth ymweld

- Bod yn rhan o dîm a chyfarfod pobl newydd



Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Ymddiriedolwr/aig (25 oed+) – Stepping Stones




Rydym yn chwilio am ymddiriedolwyr i ymuno â Bwrdd Stepping Stones (gogledd Cymru). Rydym yn chwilio am unigolion sydd ag ystod eang o sgiliau gan gynnwys Eiriolaeth Defnyddwyr Gwasanaeth, Comisiynu, Cysylltiadau Cyhoeddus a Chodi Arian.



Mae bod yn Ymddiriedolwr/aig a defnyddio'ch profiadau a'ch sgiliau bywyd yn rhoi arweiniad amhrisiadwy i'r elusen.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd Digwyddiadau - Coed Cadw



Gweithio ochr yn ochr â staff Coed Cadw a gwirfoddolwyr mewn digwyddiadau i ymgysylltu â'n cynulleidfaoedd, gan gefnogi cyflwyno'r digwyddiadau hyn.  Bydd hwn yn gyfle gwych i'r rhai ohonoch sydd am gwrdd â phobl yn y gymuned ac sydd â diddordeb mewn coed, coedwigoedd ac byd natur. Mae'n ddelfrydol hefyd i wirfoddolwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau a'u profiad ym myd twristiaeth, digwyddiadau neu’r sector cadwraeth.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 25+.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

09/05/2018

Aelod Tîm Codi Arian – Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru


Aelod Tîm Codi Arian – Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru

Hoffech fod yn rhan o dîm cyfeillgar a bywiog? Allech chi helpu

i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau? Gall y rhain gynnwys partïon te, casgliadau mewn siopau, cwisiau tafarn, rafflau neu unrhyw beth arall y credwch y byddai'n ffordd hwyliog o godi arian yn eich cymuned.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig sy'n llawn syniadau i ymuno â'n Grŵp Codi Arian yn eich cymuned leol.
Beth fyddwch chi'n ei wneud?
-Mynychu cyfarfodydd Codi Arian,
-Helpu i drefnu a rheoli digwyddiadau;
-Codi Arian,
-Cynrychioli'r mudiad NWSB;
-Adeiladu perthynas

Gyda'ch cefnogaeth gallwn wneud gwahaniaeth go iawn i fwy o bobl sy'n byw gyda cholled golwg.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.

Arweinydd Darllen Gwirfoddol – Prosiect 'Better with a Book’ gogledd Cymru


Arweinydd Darllen Gwirfoddol – Prosiect 'Better with a Book’ gogledd Cymru

Yn adeiladu ar brosiect blaenorol ‘Llais a Llyfr’ The Reader rydym yn sefydlu grwpiau Darllen ar y Cyd ar draws tair sir yng ngogledd Cymru ac yn chwilio am wirfoddolwyr yng Ngwynedd.
Diben y rôl yw galluogi i bobl elwa o brofiad Ddarllen ar y Cyd a cheisio gwella lles, cryfhau'r gymuned a lleihau ynysiad cymdeithasol.
Ar ôl cael eich paru â hwylusydd gwirfoddol arall, byddwch yn gyfrifol am gyflwyno grŵp Darllen ar y Cyd yn wythnosol.

Buddiannau’n cynnwys:
- Bod yn rhan o’r gymuned Darllen ar y Cyd  a chyfarfod pobl newydd
- Galluogi pobl eraill i elwa o Ddarllen ar y Cyd
- Hyfforddiant a fydd yn galluogi i chi gyflwyno Darllen ar y Cyd.

Bydd angen i chi gymryd rhan yn ein rhaglen hyfforddi ‘Read to Lead’ a mynychu cyfarfodydd gwirfoddolwyr yn rheolaidd. Rydym yn gofyn i chi ymrwymo’n rheolaidd bob wythnos i baratoi a hwyluso grŵp Darllen ar y Cyd, gan weithio dan oruchwyliaeth a gyda chymorth cyfoedion a staff The Reader.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.

Gwaith swyddfa yn y ganolfan achub anifeiliaid (Nebo ger Caernarfon) - Freshfields


Gwaith swyddfa yn y ganolfan achub anifeiliaid (Nebo ger Caernarfon)
-       Freshfields

Angen cymorth yn ein swyddfa yn y ganolfan achub anifeiliaid. Unrhyw oriau. Unrhyw ddiwrnod. Gwybodaeth am weithdrefnau Iechyd a Diogelwch yn fanteisiol.
Rhaid bod a chariad at anifeiliaid. Fyddai'n ddelfrydol i berson sydd wedi ymddeol.
Os oes gennych ddiddordeb, galwch heibio'r ganolfan rhwng 10.30am - 2.30pm neu ffoniwch 01286 479711.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.