Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

28/03/2018

Ymgyrchydd i faterion yr amgylchedd – Friends of the Earth Cymru


Mae Cyfeillion y Ddaear Môn a Gwynedd yn chwilio am wirfoddolwr brwdfrydig i chwarae rhan flaenllaw i helpu rhedeg y grŵp. Gall hyn olygu, er enghraifft, gweithredu fel cyswllt ar-lein gyda staff Cyfeillion y Ddaear, gan gynorthwyo i drefnu ymgyrchoedd lleol a chenedlaethol, a recriwtio aelodau newydd.

Mae Cyfeillion y Ddaear Môn a Gwynedd wedi bod yn weithgar mewn ymgyrchoedd amgylcheddol lleol a chenedlaethol ers dros 20 mlynedd. Mae'r ymgyrchoedd yn ystod yr amser hwnnw wedi cwmpasu ystod eang o bynciau, gan gynnwys ailgylchu, llosgi, ynni adnewyddadwy, pŵer niwclear, bwyd lleol, cadwraeth ynni, GM a chemegau mwy diogel.

Mae hwn yn gyfle delfrydol i rywun sydd â diddordeb mewn materion amgylcheddol a hoffai gyflawni newid cadarnhaol trwy weithio gyda phobl debyg yn lleol ac yn genedlaethol. Oes gennych ychydig o amser i helpu a gwneud gwahaniaeth?

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

21/03/2018

Cyfle Newydd – Gwirfoddolwr glanhau Canolfan Achub Mynydd Dyffryn Ogwen






Mae angen glanhawr arnom am 2-3 awr bob 2 wythnos i helpu i lanhau canolfan Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen, Bryn Poeth.  Mae'r amser yn hyblyg i gyd-fynd â chi. Telir costau teithio a deunyddiau teithio a glanhau.  Mae aelodau'r tîm yn gwneud gwaith da i gadw'r ganolfan yn lân, ond mae angen glanhau rheolaidd hefyd.



Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

14/03/2018

Gwirfoddolwr Gwasanaeth Cefnogi’r Cyfnod Pontio– National Autistic Society Cymru



Mae ein Gwasanaeth Cefnogi'r Cyfnod Pontio yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ddiduedd a chyfrinachol yn ystod y cyfnod pontio rhwng yr ysgol a bywyd fel oedolyn neu addysg barhaus.  Mae'r gwasanaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr plant a phobl ifanc ar y sbectrwm awtistig ac i bobl ifanc awtistig eu hunain. Bydd gwirfoddolwyr yn darparu cymorth dros y ffôn ac e-bost o’u cartrefi eu hunain.

Fel Gwirfoddolwr, fe fyddwch chi’n gwneud y canlynol:



• Ffonio ac e-bostio rhieni, gofalwyr a phobl ifanc awtistig sydd wedi cysylltu â gwasanaeth cefnogi’r cyfnod pontio

• Cynnig gwybodaeth a chyngor cywir a chyfredol am weithdrefnau pontio, y ddarpariaeth a hawliau

• Helpu rhieni a phobl ifanc awtistig i gael darpariaeth briodol ar ôl gadael yr ysgol, a darparu gwybodaeth am faterion perthnasol

• Gwneud gwaith achos a all gynnwys casglu, darllen a dadansoddi dogfennau a gwneud gwaith ymchwil

• Helpu rhieni, gofalwyr a phobl ifanc awtistig i ysgrifennu llythyrau ac i baratoi ar gyfer cyfarfod



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Achrededig – Epilepsy Action Cymru – Gogledd Cymru




Ydych chi'n frwdfrydig ac yn hyderus wrth roi cyflwyniadau? Os felly, ymunwch â'n tîm gwych o Wirfoddolwyr Achrededig i'n helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o epilepsi.  Byddwch yn darparu sesiynau ymwybyddiaeth o epilepsi sydd wedi'u archebu ymlaen llaw i grwpiau â diddordeb ac yn ein cynorthwyo i hyrwyddo'r gwasanaeth hwn yn lleol. Cyflwynir y cyflwyniadau drwy ddefnyddio PowerPoint (cewch hyfforddiant ar gyfer hyn).  Rhaid i chi fod yn hyderus wrth ymwneud â phobl ac wrth wneud cyflwyniadau. Dylech allu cyflwyno'r gwybodaeth yn glir ac hefyd gyda brwdfrydedd.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cymedrolwr Fledgling Wings – Fledgling Arts Collective Central




Cymedrolwyr Fledgling Wing - yn ogystal â rhoi adborth cadarnhaol ac anogol i bostiau ein haelodau, sganio'r Fledgling Wings (grwpiau) ar gyfer sbam a rhai amhriodol a delio â hwy - Mae'r lleoliad yn hyblyg ac rydym yn eich gwahodd i wirfoddoli am o leiaf un dydd / noson yr wythnos, gan edrych ar Fledgling Wing am bostiau amhriodol neu dwyllodrus na ddylai fod yno a chael gwared arnynt. Yn fyr, rhoi adborth ond hefyd cadw'r Wings yn daclus.



Rydym yn frwd dros y celfyddydau ac yn dosturiol am frwydrau iechyd meddwl.



Rydym yn gwahodd pobl debyg i ymuno â'n teulu!



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr marchnata a gweinyddol – Families Need Fathers Both Parents Matter Cymru




Rhoi cefnogaeth weinyddol i gyfarfodydd grŵp / digwyddiadau a drefnir gan yr elusen yn eu rhanbarthau gan gynnwys cyfathrebu a monitro electronig.  Darparu cefnogaeth ymarferol i gyfarfod â chydlynwyr e.e. i ymgymryd â chasgliadau a chodi arian mewn cyfarfodydd / i sicrhau bod y gofrestr cyfarfodydd a'r holl ffurflenni e.e. presenoldeb cyfreithwyr / ffurflenni cyfeirio / gwerthuso yn cael eu cwblhau gan ddefnyddwyr y gwasanaeth.  Cysylltu â darparwyr lleoliad i sicrhau bod lleoliadau cyfarfod ar gael ac yn hygyrch.  Trefnu a chynnal gweithgaredd codi arian i'r elusen yn unol â chanllawiau statudol ac arfer gorau perthnasol.  Dosbarthu gwybodaeth am argaeledd llinell gymorth a chyfarfodydd cymorth lleol i ddarpar ddefnyddwyr gwasanaeth a sefydliadau eraill i hwyluso atgyfeiriadau e.e. trwy ddosbarthu posteri ac ati.  Cefnogi'r Rheolwr Cenedlaethol gyda chyfryngau cymdeithasol sy'n cynnwys Twitter / Facebook a gwefan yr elusen.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Storïau treftadaeth a chasglwyr deunyddiau – Welsh Women’s Aid


Mae Forty Voices, Forty Years, yn brosiect treftadaeth gyffrous sy'n cael ei arwain gan Gymorth i Fenywod yng Nghymru ar y cyd â Chanolfan Straeon George Ewart Evans ym Mhrifysgol De Cymru. Nod y prosiect yw casglu hanes Cymorth i Fenywod Cymru a chofio ein gwaith i orffen trais yn erbyn menywod, gyda chasgliad o hanesion llafar, storïau digidol, deunyddiau arddangos ac archif gan ferched a gwasanaethau sydd wedi bod yn allweddol i'n mudiad yng Nghymru.



Bydd y prosiect yn gwella ein dealltwriaeth o'r mudiad trais yn erbyn menywod yng Nghymru, a gwella gwybodaeth y gymuned am drais yn erbyn menywod a'n gwaith i'w atal.



Rydym yn ceisio cefnogaeth gwirfoddolwyr benywaidd gyda sgiliau addas a dealltwriaeth o drais yn erbyn menywod yng Nghymru a diddordeb ynddynt i weithio mewn ardaloedd lleol ledled Cymru i gefnogi'r Forty Voices, Cyswllt Prosiect Deugain Mlynedd. Rhoddir hyfforddiant llawn. Am fwy o wybodaeth ewch i www.welshwomensaid.org.uk/joinus.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cymorth– Fledgling Arts Collective Central




Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr Ar-lein a fydd yn ymateb i'n haelodau naill a'i drwy sgwrs byw (wedi'i archebu ymlaen llaw) neu drwy negeseuon e-bost.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

08/03/2018

Cyfeillion - Cefnogaeth Emosiynol - Families Need Fathers Both Parents Matter Cymru




Darparu cefnogaeth emosiynol mewn cyfarfodydd grwpiau sydd wedi eu trefnu gan yr elusen yn eich ardal chi.

Cadw cysylltiad rheolaidd gyda mynychwyr cyfarfodydd cefnogi yr elusen a defnyddwyr gwasanaeth eraill i sicrhau cysondeb yng ngwasanaethau'r elusen.

Cynllunio, trefnu a mynychu digwyddiadau cyhoeddus i roi cefnogaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd

Cymeryd rhan mewn grwpiau trafod i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth a sicrhau eu bod yn blaenoriaethu yr hyn sydd orau i'r plant.

Mynychu hyfforddiant ar lles emosiynol / Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a delio hefo trawma a drefnir gan yr elusen.

Trefnu lluniaeth fel y bo angen gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gwirfoddolwyr yn ystod cyfarfodydd cefnogi lleol.

Cefnogi'r Rheolwr Cenedlaethol gyda mentrau cyfryngau cymdeithasol Twitter/Facebook ar wefan yr elusen.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cefnogaeth Gweinyddol Cymorth Cyfreithiol - Lleiafswm oed - 18 - Families Need Fathers Both Parents Matter Cymru


I fod yn rhan o'n tîm gwasanaethau trais yn y cartref.

Darparu cefnogaeth gweinyddol i ddefnyddwyr gwasanaeth sydd wedi dioddef trais yn y cartref ac angen Cymorth Cyfreithiol.
I ddosbarthu a monitro dogfennau.
I gyd-weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a Meddyg [pan yn briodol] i sicrhau dilyniant. 
Casglu a chofnodi data ar sustem taenlen.
Cefnogi'r Rheolwr Cenedlaethol drwy ddarparu data pan y gofynnir amdano.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Pencampwr y Gweithle - Gofalwyr Cymru



Mae 1 o bob 9 o bobl yn cyfuno gwaith gyda gofalu am rhywun sy'n annwyl iddynt. Llawer ohonynt heb syniad ble i fynd am gymorth. Fel Pencampwr y Gweithle, chi fydd y cysylltiad hanfodol rhwng Carers Wales a'ch cydweithwyr. Chi fydd yn codi ymwybyddiaeth am Carers Wales yn eich gweithle. Fe wnewch hyn drwy hyrwyddo digwyddiadau ac ymgyrchoedd a fyddwch yn gallu cyfeirio y rhai sy'n chwilio am gefnogaeth atom ac at y gwasanaeth arbenigol sydd ar gael. Gallwch wneud hyn drwy osod posteri yn eich ystafell staff sy'n hysbysebu ymgyrchoedd ymwybyddiaeth genedlaethol fel Wythnos y Gofalwyr a Diwrnod Hawliau Gofalwyr. Rydych yn adnabod eich gweithle a'ch cydweithwyr yn well neb ac fe fyddwn yn falch iawn o gael eich syniadau ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau fel Dal i Fyny gyda Gofalwyr neu i redeg stondin gwybodaeth amdanom. Rhowch wybod i ni am eich syniadau.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Pencapwr Gofalydd Myfyrwyr– Gofalwyr Cymru




Rydym yn chwilio am fyfyrwyr i gefnogi gofalwyr di-dâl yn eu lleoliad prifysgol. Gellir gwneud hyn trwy osod posteri a dosbarthu taflenni er mwyn adnabod gofalwyr yn y Brifysgol. Gallech drefnu clwb brecwast neu roi cyhoeddusrwydd i'n hymgyrchoedd. Mae gofalwyr yn bobl sy'n gofalu am deulu neu ffrindiau sy'n sâl, yr henoed neu'r anabl. Fel Pencampwr, gallech ddod â gofalwyr at ei gilydd sy'n astudio yn eich Prifysgol fel nad ydynt yn teimlo'n unig neu'n ynysig. Bydd gennych y wybodaeth a'r profiad i'w cefnogi a'u cyfeirio at Ofalwyr Cymru fel eu bod yn cael y cyngor gorau posibl. Mae'n gyfle i ymarfer a datblygu sgiliau personol, cyfathrebu a rhyngbersonol, rheoli amser a chreadigrwydd. Mae hwn yn gyfle hefyd i gael gwell dealltwriaeth o anghenion gofalwyr.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

07/03/2018

Warden Gwirfoddol Yr Wyddfa - Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri




Eleni, unwaith eto, bydd Parc Cenedlaethol Eryri yn rhedeg proseict cyffrous a fydd yn cynnig cyfle i wirfoddoli ar fynydd uchaf Cymru!



Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn edrych i ychwanegu gwirfoddolwyr newydd i’r tîm presennol o Wardeniaid Gwirfoddol Yr Wyddfa. Mae aelodau’r tîm yn cynnig gwyneb cyfeillgar a chroesawgar i’r cyhoedd ar lwybrau prysuraf Yr Wyddfa, y copa a’r meysydd parcio. Mae’r rôl yn cynnwys darparu gwybodaeth, cyngor ar ddewis llwybr a diogelwch ar y mynydd; cadw sbwriel oddi ar y llwybrau prysuraf a chyflawni gwaith cynnal a chadw mân ar y llwybrau.



Eleni bydd cyfle i roi cyngor i gerddwyr ar y Fan Wybodaeth newydd ar droed rhai o lwybrau'r Wyddfa.



Dyddiad Cau: 9fed o Fawrth, 2018



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com