Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

20/12/2017

Cydlynydd Siaradwyr Gwirfoddol – Cymdeithas Cwn Tywys

Gweithredu fel cyswllt rhwng y Casglwr Gronfa Gymunedol Leol a Siaradwyr Cwn Tywys. Rhwydweithio o fewn ardal ddaearyddol a ddynodwyd yn unol â chais y Tîm Codi Arian Cymunedol Lleol.

Noder bydd gofyn i chi gyda'r rôl hon i gael eich gwirio gan y gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). 

Prif dasgau 

• Cydlynu Siaradwyr Cwn Tywys sy'n mynychu sgyrsiau a / neu gyflwyniadau
• I ddod o hyd i'r siaradwr mwyaf addas ar gyfer y grŵp neu'r asiantaeth sy'n gofyn am araith
• Cydlynu dychweliad ffurflenni'r siaradwyr
• Darparu amserlen diweddaru a gytunwyd gyda'r Tîm Codi Arian Cymunedol Lleol
• Trefnu anfon taflenni i sefydliadau perthnasol i'r tasgau neu yn ôl y gofyn
• Cynrychioli Cwn Tywys mewn modd proffesiynol bob amser 

Yr hyn yr ydym yn gofyn gennych

• Cadw at y polisïau, gweithdrefnau a rheolau Cŵn Tywys
• Gweithio fel rhan o dîm gyda gwirfoddolwyr a staff eraill, ac i groesawu pobl newydd
• Ymgymryd â'ch rôl i'r safon uchaf        
Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gyrrwr (18+) – Cymdeithas Cŵn Tywys


Gyrru perchnogion Cŵn Tywys i ddigwyddiadau siarad yn lleol ac i wahanol leoliadau eraill.

Bydd y rôl yn cynnwys:

Cludo ein cleientiau, y cŵn, ac offer yn eich cerbyd;

Sicrhau bod chi a'ch cerbyd yn ddiogel ac yn gyfreithlon at y ffordd fawr;

Dilyn canllawiau Cwn Tywys wrth gludo cŵn;

Sicrhau bod gennych unrhyw offer ychwanegol fyddai'i angen i gyflawni eich rôl a'u bod yn gweithio'n iawn;

Pan fyddwch yn gyrru cerbydau Cŵn Tywys bydd rhaid i chi:

sicrhau wrth gasglu ac wrth ei ddychwelyd, ei fod yn lân, yn daclus, wedi'i lenwi'n llawn gyda tanwydd ac yn addas i'r ffordd fawr, os nad ydyw, adroddwch am hyn ar unwaith i'ch goruchwyliwr;

adrodd am unrhyw ddifrod gweledol cyn neu ar ôl y daith.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddoli yn y Caffi ar Nos Fercher rhwng 4 - 7pm – RVS, Ysbyty Gwynedd


Mae siopau, caffi a troli RVS yn gwasanaethu cleifion, staff ac ymwelwyr i'r ysbyty gan wirfoddolwyr cyfeillgar.

Mae angen gwirfoddolwyr i helpu i redeg y gwasanaeth, gwasanaethu cwsmeriaid, cymryd taliad, paratoi diodydd neu fyrbrydau a chlust i wrando.

Bydd y gwirfoddolwyr yn sicrhau glendid a thaclusrwydd y siop, caffi a'r troli bob amser fel y disgwylir mewn amgylchedd ysbyty a sicrhau fod y stoc yn cael ei gadw'n iawn.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cymunedol gyda Cymorth i Ddioddefwyr


Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn darparu gwasanaeth cyfrinachol i ddioddefwyr trosedd am ddim.   Mae gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi i ymweld â defnyddwyr y gwasanaeth yn eu cartrefi  (neu fan cyfarfod arall addas) er mwyn rhoi cefnogaeth emosiynol a chyngor ymarferol iddynt.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddoli yn Nepal a helpu pobl i godi ar eu traed ar ôl daeargryn dinistriol 2015


Ydych chi'n 18-25 oed ac yn ddinesydd y DU? Os felly, gall Gwasanaeth Dinasyddion Rhyngwladol Raleigh (ICS) fod yn rhaglen wirfoddoli i chi! Ariennir ICS gan lywodraeth y DU a gyda hyn bydd eich teithiau hedfan, fisa, brechlynnau, hyfforddiant, bwyd, llety a theithio yn cael eu talu ganddynt.

Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio ar gyfer lleoli yn Nepal am 10 wythnos, gan ddechrau ym mis Ebrill. Mae llefydd yn llenwi'n gyflym felly gwnewch gais heddiw drwy https://goo.gl/ZZt5zb. 

Fel un o wledydd tlotaf y byd, cafodd Nepal tipyn o glec gan ddaeargryn ym 2015. Collodd miloedd o bobl eu bywydau a difrodwyd llawer o'i seilwaith.

Bydd gwaith yn y wlad yn canolbwyntio ar gryfhau bywydau pobl mewn rhanbarthau cafodd eu heffeithio'n wael gan y daeargryn. Byddwch yn helpu i wella mynediad at ddŵr a glanweithdra a chryfhau bywydau'r bobl mewn cymunedau gwledig.

Nid yw ICS yn wyliau. Mae'n anodd ond yn hynod werth chweil. Mae'n gyfle i'ch ddatblygiad personol a chyfle i wneud eich byd yn lle gwell. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

06/12/2017

Cynorthwy-ydd Manwerthu – Barnardo's - Siop Porthmadog


Yn wahanol i siopau manwerthu arferol, mae ein siopau'n cynnig cyfle gwych i chi ennill profiad ym mhob agwedd o'r gwaith manwerthu. Mae ein Cynorthwywyr Adwerthu Gwirfoddol wedi'u hyfforddi i ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys:

*  Darparu gwasanaeth da i gwsmeriaid.

*  Gwasanaethu cwsmeriaid wrth y til.

*  Cymryd rhoddion stoc gan y cyhoedd, a diolch iddynt am eu haelioni a gofyn iddynt a ydynt yn rhan o gynllun Gift Aid.

*  Arwyddo aelodau newydd i gynllun Gift Aid (mae hyn yn codi 25c ychwanegol i bob punt i Barnardo's wrth werthu rhoddion ac nid yw'n costio dim i'n rhoddwyr).

*  Ail-lenwi stoc trwy wneud yn siŵr fod ein rheiliau a'n silffoedd wedi'u stocio'n dda, yn weledol taclus a thwt.

*  Nwyddau ledled y siop.

*  Paratoi stoc gan gynnwys didoli, stemio a phrisio.

*  Tasgau gweinyddol posib megis stocio.

*  Os oes gennych sgil neu ddiddordeb penodol, byddai ein tîm wrth ei boddau yn trafod sut y gallech ei ddefnyddio yn y siop! Gallai hyn amrywio o sgiliau cyfrifiadurol.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwyydd Manwerthu Gwirfoddol – Barnardo’s Cymru


Diben y cyfle:

Mae angen tîm gwych o wirfoddolwyr brwdfrydig i redeg siop Barnardo's lwyddiannus, ac fe allech chi fod yn rhan o hynny! Daw ein gwirfoddolwyr o nifer fawr o gefndiroedd gwahanol, gan ddod ag amrywiaeth eang o sgiliau i'r sefydliad. Maen nhw’n dod at ei gilydd i gynhyrchu arian hanfodol ar gyfer gwaith Barnardo's gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Prif weithgareddau:

Yn wahanol i siopau manwerthu safonol, mae ein siopau'n cynnig cyfle gwych i gael profiad ym mhob agwedd ar y gwaith manwerthu. Mae ein Cynorthwywyr Manwerthu Gwirfoddol wedi eu hyfforddi i ymgymryd ag amrywiaeth eang o weithgareddau, gan gynnwys:

• Darparu gwasanaeth cadarn i gwsmeriaid.

• Gweini ar gwsmeriaid wrth y til.

• Derbyn stoc yn rhodd gan y cyhoedd, gan ddiolch iddyn nhw am eu haelioni a chanfod a ydyn nhw’n Rhoddwyr Rhodd Cymorth.

• Cofrestru Rhoddwyr Rhodd Cymorth newydd (mae hyn yn codi 25c ychwanegol y bunt i Barnardo's drwy werthu rhoddion, ac nid yw'n costio unrhyw beth i'r rhoddwyr)
 
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Ystafell Stoc – Barnardo’s Cymru


Mae gweithio y tu ôl i'r llenni yr un mor bwysig â bod ar y llwyfan! Fel Gwirfoddolwr Ystafell Stoc, eich rôl allweddol fydd sicrhau bod stoc o safon yn barod i'w werthu yn y siop.

Daw ein gwirfoddolwyr o nifer fawr o gefndiroedd gwahanol, gan ddod ag amrywiaeth eang o sgiliau i'r sefydliad. Maen nhw’n dod at ei gilydd i gynhyrchu arian hanfodol ar gyfer gwaith Barnardo's gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd

Prif weithgareddau:

* Edrych drwy ein rhoddion i ddewis a didoli'r stoc o safon ar gyfer llawr y siop.

* Didoli a threfnu stoc yn yr ystafell stoc fel bod y fan honno’n cael ei chadw'n drefnus.

* Gweithio y tu ôl i'r llenni i helpu i hongian, didoli yn ôl maint, stemio a phrisio stoc.

* Sicrhau bod yr holl stoc yn ddiogel ac yn gweithio.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cyfeillio / Cefnogi Cyfoedion – Y Gymdeithas Strôc


Fel Gwirfoddolwr Cyfeillio / Cefnogi Cyfoedion byddwch yn cynnig cefnogaeth ar draws ein gwasanaethau Bywyd ar ôl Strôc. Byddwch yn helpu i leihau ynysu cymdeithasol a gwella hyder a hunan-barch goroeswyr strôc.

• Cefnogi defnyddwyr gwasanaeth ar sail 1:1 yn ôl eu hanghenion naill ai wyneb yn wyneb, ar y ffôn neu ar-lein

• Cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i gyflawni nodau personol

• Cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i ddod yn fwy annibynnol

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com