Bydd Trefnwyr Cefnogaeth Caffi yn y
Gymuned yn cynnig cymorth a chyngor i oroeswyr stroc, eu teuluoedd a'u
gofalwyr, mewn lleoliad lleol lle gall pobl sydd wedi goresgyn strôc brynu eu
bwyd a'u diod eu hunain. Bydd hyn yn helpu i leihau unigrwydd cymdeithasol a
gwella hyder a hunan-barch yr unigolion sydd wedi goroesi. Gall y gwirfoddolwyr
drefnu amrywiol weithgareddau yn y lleoliad neu wahodd unigolyn arall i ddod i
wneud gwaith crefft neu roi sgwrs.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com