Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

22/12/2015

Gwirfoddolwr grwp / cefnogol (18+) - Derwen

Nod Derwen yr rhoi cynnig i blant anabl Gwynedd cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol. 

Mae'r rol Gwirfoddolwr grwp/cefnogol yn golygu bod yn rhan mewn clwb ieuenctid ar gyfer plant anabl.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Aelod Tim - Helpu pobl sy'n anghyfarwydd â Thechnoleg Ddigidol - CitizensOnlineGwynedd


Mae angen gwirfoddolwyr i helpu redeg sesiynau galw heibio - ble y bydd aelodau o'r cyhoedd yn galw draw am gyngor neu help gyda phroblem ddigidol - sut i fynd ar-lein, defnyddio peiriannau chwilio, e-bost a defnydd cyffredinol bob dydd. Nid ydym yn chwilio am ddewiniaid technegol, dim ond pobl sy'n mwynhau helpu pobl eraill, ac wedi meistroli defnydd pob dydd o'r rhyngrwyd. Byddwch yn rhan o dîm a fydd yn rhoi cwpl o oriau o amser yn y gymuned i ateb ymholiadau cyffredinol ac i gynnig cymorth gyda phroblemau sylfaenol y bydd dechreuwyr yn dod ar eu traws.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Gwarchodfa Natur - NWWT


Cynorthwyo staff cadwraeth i reoli gwarchodfeydd natur.  Rhai o'r tasgau - bôn docio coed, torri prysgwydd; llosgi deunyddiau; codi ffensys postyn a gwifren ayyb.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Arweinwyr Sgowtiaid a Cynorthwy-ydd Beavers

Dyma adran newydd o fewn grŵp sydd eisoes yn bodoli. Mae Beavers ar gyfer merched a bechgyn rhwng 6-8 mlwydd oed. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael megis Arweinwyr Sgowtiaid Beaver neu Cynorthwy-ydd Adran Sgowtiaid Beavers . Mae'r rolau yn cynnwys cynllunio a rhedeg rhaglen amrywiol o gemau a gweithgareddau gyda'r Sgowtiaid Beaver. Darperir hyfforddiant am ddim a gellir ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored. Mae'r Sgowtiaid yn ymwneud â chael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, mae'n wych i wella eich CV a gwneud cyfraniad i fywydau pobl ifanc a'r gymuned leol. Bydd y grŵp yn cyfarfod bob dydd Mawrth ym Methesda rhwng 5.45pm - 6:45pm.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwydd Siop Dolgellau Harri's


Mae'r Hosbis yn rhoi gofal lliniarol i bobl yng ngogledd orllewin Cymru sydd yn dioddef o salwch terfynnol.  Maent yn  awyddus iawn i glywed gan unrhyw un sydd a diddordeb mewn helpu yn eu siopau elusen - er mwyn codi arian i'r achos teilwng yma. 

Bydd y tasgau yn cynnwys delio gyda chwsmeriaid; gwneud trefn a phrisio rhoddion; defnyddio'r til; arddangos y nwyddau; a chadw'r siop yn lân a thaclus.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Helpu yn y swyddfa - Action on Hearing Loss


Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi ein gwasanaethau colli clyw, grwpiau cymdeithasol , prosiectau codi arian a'r tîm ymgyrchoedd drwy helpu gyda thasgau gweinyddol yn ein swyddfa ym Mangor. Gall tasgau gynnwys helpu gyda gwaith ymchwil, cofnodi data, cyfathrebu, y cyfryngau cymdeithasol, ffeilio a thasgau swyddfa cyffredinol eraill.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

08/12/2015

Cynorthwyo yng nghystadleuthau bowldro Ysgolion Gogledd Cymru


Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo yng nghystadleuthau Bowldro Ysgolion Gogledd Cymru. Byddem angen unigolion i helpu gyda chadw scoriau, gwyliwr (term dringo) a gwaith cyffredinol ar y diwrnod.

-Ynys Môn (Wal ddringo Indi, Llanfairpwll) dyddiad i'w gadarnhau 10:00-15:30
-Ysgolion gogledd Cymru (Wal ddringo Beacon, Caernarfon) Dydd Mercher, Chwefror 10fed. 10:00-15:30
- Ysgolion de Gwynedd (Canolfan Hamdden Harlech) Dydd Iau, Chwefror 11eg 10:00-15:30
- Ffeinal (Wal ddringo Beacon, Caernarfon) Dydd Mercher, Mawrth 9fed, 10:00-15:30
Bydd crys-T a 'Buff' ar gael i bawb sy'n gwirfoddoli. 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gweithiwr Achos Gwirfoddol. Cymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol(RAF)- Caernarfon.


Mae Cymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol (RAF) yn elusen lles a arweinir gan aelodau sy'n cynnig cymorth i deuluoedd RAF.

Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â'n tîm o wirfoddolwyr hyfforddedig.

Mae Gweithiwr Achos yn gwneud gwaith lles ar gyfer Cymdeithas y Llu Awyr Brenhinol. Mae'r gwaith yn ymwneud ag ymweliad a gwrando ar unigolion i asesu eu hanghenion i gael gwybod sut y gall y Gymdeithas roi cymorth a chefnogaeth iddynt.

Gall cefnogaeth gynnwys unrhyw beth o helpu cleient sydd wedi datblygu anabledd yn diweddar i fod mewn cysylltiad â gwasanaethau cymdeithasol. Gall hyn fod i'w helpu iddynt roi  cais am ystafell i lawr y grisiau wlyb, er enghraifft, neu rywbeth mor syml â rhoi cais i Gymdeithas RAF am gyllid ar gyfer tegell newydd.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr canolfannau Mentro Mlaen - Gisda


Trefnu gweithgareddau yn y canolfannau

Trefnu a chyd - weithio gyda staff Mentro Mlaen gyda gemau ac ymarfer pêl - droed Street Football Wales
Cysgodi gweithiwr prosiect gyda thasgau dyddiol
Hel syniadau ar gyfer gwella’r ganolfan
Helpu i gynyddu niferoedd i mewn i’r ganolfan.
Fod yn bresennol yn y canolfannau i groesawu pobl ifanc. 

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Mentor Cyfoed - Gisda

 Cynorthwyo’r gweithwyr allweddol a cefnogol gyda thasgau dyddiol

- Cyfathrebu yn gyson gyda’r gweithwyr allweddol/cefnogol
- Rhannu unrhyw bryderon ynglŷn â defnyddwyr gwasanaeth a’r staff perthnasol
- I fod yn llais i'r bobl ifanc mewn cyfarfodydd e.e. grŵp ffocws, cyfarfod trigolion
- Bod yn glust i'r bobl ifanc wrth gadw’n broffesiynol a rhannu gwybodaeth pam angen yn ôl canllawiau cyfrinachedd.


Annog a chefnogi pobl ifanc i:
 -Cael defnydd llawn o brosiectau a’r cynlluniau
 -i fynychu gweithgareddau a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd ar gael
 -i ddatblygu a dysgu sgiliau newydd
 -i fod yn iach

  -i gyllidebu eu harian yn well
  -i goelio yn eu hunain a hyrwyddo hunan hyder
  -i gyrraedd eu llawn botensial


Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

01/12/2015

Recriwtiwr Aelodaeth - Ynys-hir Gwarchodfa RSPB


Cynorthwyo staff a gwirfoddolwyr eraill i redeg stondinau recriwtio a gwybodaeth mewn archfarchnadoedd, canolfannau garddio a sioeau. Mae recriwtio aelodau i'r RSPB yn darparu cymorth ar gyfer gwaith cadwraeth gwerthfawr y gymdeithas.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
 

Gweithiwr Achos Gwirfoddol. Cymdeithas y Llu Awyr Brenhinol(RAF)- Caernarfon.


Mae Cymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol (RAF) yn elusen lles a arweinir gan aelodau sy'n cynnig cymorth i deuluoedd RAF.

Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â'n tîm o wirfoddolwyr hyfforddedig.

Mae Gweithiwr Achos yn gwneud gwaith lles ar gyfer Cymdeithas y Llu Awyr Brenhinol. Mae'r gwaith yn ymwneud â ymweliad a gwrando ar unigolyn i asesu eu hanghenion i gael gwybod sut y gall y Gymdeithas roi cymorth a chefnogaeth iddynt.

Gall cefnogaeth gynnwys unrhyw beth o helpu cleient sydd wedi datblygu anabledd yn diweddar i fod mewn cysylltiad â gwasanaethau cymdeithasol. Gall hyn fod i'w helpu iddynt roi  cais am ystafell i lawr y grisiau wlyb, er enghraifft, neu unrhyw beth mor syml â rhoi cais i Gymdeithas RAF am gyllid ar gyfer tegell newydd.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
 

Cynorthwyo gyda pobl ifanc – Menter Llyn


Mae gennym gyfleoedd i bobl gynorthwyo yn ein siop yn Nefyn. Mae gan y siop gyfrifiaduron  cyhoeddus ac o 3.30pm ymlaen mae plant ysgolion cynradd yn dod atom i wneud eu gwaith cartref ar hyd at 7 cyfrifiadur ac i gymdeithasu. Mae pobl ifanc ysgolion uwchradd yn cyrraedd o 4:30pm. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn pobl sydd yn hapus i oruchwylio'r gweithgareddau yma. Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbennig o dechnoleg, ond gall hyfforddiant ar gyfrifiaduron gael ei ddarparu os oes angen.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
 

24/11/2015

Gwirfoddolwyr codi arian yn y gymuned – Action on Hearing Loss


Fedrwch chi sbario ychydig oriau i helpu i godi arian hanfodol er mwyn cefnogi pobl â nam ar y clyw? Mae angen gwirfoddolwyr i ddod yn rhan o dîm Codi Arian Cymru ac i helpu gyda'n gweithgareddau codi arian amrywiol. 

Byddwch yn cefnogi pobl yn uniongyrchol sydd â nam ar eu clyw trwy roddion a dderbyniwn. Byddwch yn rhyngweithio gyda'r cyhoedd i dderbyn a diolch rhoddion. Byddwch yn derbyn crys-T a tuniau/bwcedi casglu swyddogol. Bydd cymorth yn cael ei ddarparu gan eich swddog codi arian rhanbarthol. Ni fydd angen i chi gyfrif a bancio arian dan sylw. Bydd treuliau parod yn cael ei dalu yn unol â pholisi Action on Hearing Loss. 

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cefnogol - cymorth clyw


Nodau:

Darparu cefnogaeth a chyngor i ddefnyddwyr cymorth clyw, eu teuluoedd , gofalwyr, grwpiau cymunedol a gweithwyr proffesiynol .

Tasgau :

• Ymweld defnyddwyr gwasanaethau yn eu cartrefi,canolfannau / gofal preswyl dydd a chlinigau galw i mewn
• Ymgymryd â gwaith cynnal a chadw sylfaenol ar cyfarpar cylw megis ail - tiwbio a newid batri;
• Cyfeirio asiantaethau eraill a allai fod o fudd i'r defnyddwyr gwasanaeth megis y Tîm Nam ar y Synhwyrau
• Monitro nifer o ymweliadau a wnaed ac rhoi adborth i'r Cydlynydd Gwirfoddolwyr ;
• Hyrwyddo gwaith Action on Hearing Loss ;
• Cwrdd a gwirfoddolwyr eraill Action on Hearing Loss i drafod y prosiect ac awgrymu unrhyw welliannau .

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cydlynydd Siaradwyr – Cwn Tywys


Gweithredu fel cyswllt rhwng y Casglwr Gronfa Gymunedol Leol a Siaradwyr Cwn Tywys. Rhwydweithio o fewn ardal ddaearyddol a ddynodwyd yn unol â chais gan y Tîm Codi Arian Cymunedol Lleol. 

Noder bod gofyn gyda'r rôl hon i ymgymryd â gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Prif dasgau 

• Cydlynu  Siaradwyr Guide Dogs sy'n mynychu sgyrsiau a / neu gyflwyniadau
• I ddod o hyd i'r siaradwr mwyaf addas ar gyfer y grŵp neu'r asiantaeth sy'n gofyn am sgwrs
• Cydlynu'r dychwelyd ffurflenni siaradwr
• Darparu amserlen diweddaru a gytunwyd gyda'r Tîm Codi Arian Cymunedol Lleol
• Trefnu anfon taflenni i sefydliadau sy'n berthnasol i'r tasgau neu yn ôl y gofyn
• Cynrychioli Cwn Tywys mewn modd broffesiynol bob amser 

Yr hyn yr ydym yn gofyn gennych: 

• Cadw at y polisïau, gweithdrefnau a rheolau Cŵn Tywys
• Gweithio fel rhan o dîm gyda gwirfoddolwyr a staff eraill, ac i wneud yn croesawu pobl newydd
• Ymgymryd â'ch rôl i'r safon uchaf 

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr digwyddiad - Cyngerdd Lovelight Tenovus Cancer Care - Bangor


Dewch draw i ymuno â ni am noson o gerddoriaeth yng ngolau cannwyll ar ddydd Iau 3 Rhagfyr, 2015. 

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu ar y noson! Bydd y rôl hon yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

* cyfarfod a chyfarch y corau bydd yn perfformio ar y noson
* Dosbarthu rhaglenni
* cymryd tocynnau ar y drws
* gweini lluniaeth
* goleuo canhwyllau yn ystod y digwyddiad
* casglu roddion gan bobl wrth iddynt adael. 

Rydym hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr ffotograffwyr i dynnu lluniau yn ystod y digwyddiad- lluniau o'r corau, cefnogwyr a gwesteion. 

Bydd perfformiadau gan gorau lleol gan gynnwys un o'n corau Sing With Us . Mae'r digwyddiad yn dechrau am 7pm, ond hoffem i wirfoddolwyr gyrraedd o 6pm os yn bosibl. 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com neu 01286 672626

17/11/2015

Gwirfoddolwr Profiad Ymwelwyr – Storiel


Oes gennych diddordeb mewn celf a hanes?  Oes gennych ychydig o oriau yn rhydd yn ystod yr wythnos neu’r mis?  Mae Storiel yn agor yn ystod tymor yr hydref yng nghanol Bangor.  Dim amgueddfa ac oriel newydd yw hon, ond yn hytrach cyfnod newydd sbon yn hanes Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor.  Byddwn yn symud i ofod newydd ac mi fydd cyfle i unigolion ymuno â ni wrth gefnogi staff Storiel  i gynnig y profiad gorau y gallwn i bawb.  Mae’n hanfodol gallu sgwrsio yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer y rôl hon.  Nid oes angen dealltwriaeth helaeth am hanes a chelf, oherwydd bydd hyfforddiant ar gael.  Bydd cyfarfod a chefnogi ymwelwyr yn elfen fawr o’ch rôl, ac mi fydd cyfle i gyfarfod pobl o led-led y byd, felly bydd sgiliau rhyngbersonol yn hanfodol.  Rydym yn chwilio am hwyluswyr i’r orielau hanes, orielau celf, y siop,     derbynfa, y pwynt gwybodaeth i twristiaid a'r gofod dysgu.
 
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Hwylusydd Gwirfoddol ar gyfer 'Darllen ar y Cyd' - Prosiect 'Llais a Llyfr' Gogledd Cymru

Mae’r prosiect ‘Llais a Llyfr’ yn chwilio am wirfoddolwyr ledled Gwynedd.   Fel gwirfoddolwr, eich rôl yw galluogi pobl i fanteisio ar brofiad rheolaidd o ddarllen ar y cyd.  Mewn partneriaeth â gwirfoddolwr arall, byddwch yn gyfrifol am grŵp wythnosol i ‘ddarllen ar y cyd’
Yn gyfnewid am hyn – byddwch yn rhan o’r mudiad ‘The Reader Organisation’ a byddwch yn helpu i hyrwyddo chwyldro darllen.


Bydd arnoch angen 2 - 3 awr yr wythnos (Bydd angen paratoi a chynnal sesiwn ar yr un amser yn wythnosol.  Mae un sesiwn yn para tua awr a hanner). 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

05/11/2015

Stiwardiaid- Sioe Gychod


Mae'r All Wales Boat Sioe 2016 yn cael ei gynnal ym Mhwllheli . Dyma'r eildro bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ym Mhlas Heli, sef yr Academi Hwylio Genedlaethol Cymru a Chanolfan Digwyddiadau newydd.

Bydd y sioe, sydd bellach yn ei bumed flwyddyn, yn ŵyl ddathlu o'r holl weithgareddau dŵr ac mae'n unigryw i'r rhanbarth. Nod y sioe gwch yw helpu i hyrwyddo Gogledd Cymru a'i pherthynas â'r sector morol drwy hyrwyddo gyrfaoedd, arddangoswyr a'r sector awyr agored cyffrous gorau yn y DU. 

Eich rôl fel stiward fydd bod yn  wyneb cyfeillgar i ymwelwyr, helpu gyda cyfleusterau parcio ceir, cyfeirio pobl o'ch pwynt gwybodaeth i holl atyniadau eraill. Byddwch yn bresennol ar y gatiau mynediad tocynnau, goruchwylio ardaloedd lletygarwch, ateb cwestiynau, rhoi cyngor a chadw llygad ar eich ardal.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Clirio Rhododendron – Cymdeithas Eryri ac Y Dref Werdd


Mae Rhododendron (Rhododendron ponticum) yn rhywogaeth ymledol yng Nghymru. Mewn partneriaeth rhwng Cymdeithas Eryri ac Y Dref Werdd bydd ardal yn Nhanygrisiau cael eu clirio o'r rhywogaethau ymledol. Mae’r Dref Werdd yn brosiect cymunedol amgylcheddol ariennir gan y loteri yn ardal Bro Ffestiniog. Un o nifer o brosiectau gan Y Dref Werdd yw 'Prosiect Rheoli a Chlirio Rhododendron’ sy'n bwriadu clirio ardaloedd lle mae Rhododendron yn bresennol. Ein nod yw rhyddhau i'r ardal o hyn rhywogaethau ymledol drwy dorri'r canghennau yn defnyddio llifiau bwa a offer tocio.
 
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Llysgennad – Tennis Connect


Mae tennis yn cael ei ystyried gan lawer fel chwaraeon elitaidd sy'n cael ei fwynhau ond gan y rhai sy'n gallu fforddio teithio  ac ymuno gyda clybiau tennis preifat yn eu tref fawr agosaf. Yn 'Tennis Connect' rydym am newid hynny drwy helpu i roi fwy o gyfleoedd i blant sy'n byw mewn ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru i gymryd rhan yn y gamp. 

Fel un o'n Llysgenhadon byddwch yn chwarae rhan allweddol gyda 'Tenis Connect' yng Nghymru drwy gysylltu gydag ysgolion â hyfforddwyr tennis lleol. 

Mae ein gwaith yn cynnwys ysgolion a hyfforddwyr sy'n siarad Cymraeg, naill ai'n bersonol neu dros y ffôn, er mwyn cael cytundeb mewn egwyddor gan y ddwy ochr, cyn eu rhoi mewn cysylltiad â'i gilydd i gwblhau'r trefniant a chytuno ar amseroedd. 

Gallwch roi cyn lleied, neu gymaint, amser i'r achos ag y dymunwch, ond mae angerdd am tenis yn hanfodol.
 
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cyfathrebwr gwyddoniaeth – Institute of Physics


Oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfathrebu gwyddoniaeth i gynulleidfa ifanc? Mae www.labinalorry.org.uk yn labordy gwyddoniaeth symudol sy'n ymweld ag ysgolion uwchradd ledled Cymru gan roi cyfle i gymryd rhan mewn arbrofion ymarferol tra'n cael eu harwain gan wyddonwyr a pheirianwyr o'r ardal leol disgyblion. Byddwn yn teithio o gwmpas Cymru o fis Medi 2015 - Awst 2017. 

Mae angen i bobl gydag unrhyw chefndir gwyddonol 18 oed + i ddod draw i gyflwyno ein arbrofion ffiseg rhyngweithiol i ddisgyblion oed ysgol 11-14 oed. Byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn ymlaen llaw a derbyn IOP am ddim ac aelodaeth STEMNET o ganlyniad a llu o bethau am ddim. Y nod yw ysbrydoli'r plant ac i ymgysylltu â hwy, gan ddangos sut mae ffiseg a gwyddoniaeth yn cymryd rhan yn y byd o'u cwmpas, a sut y gellir ei ddefnyddio yn eu bywydau a'u gyrfaoedd yn y dyfodol.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Trawsgrifio mapiau a dogfennau hanesyddol ar-lein - Prosiect Cynefin

Mae hwn yn gyfle unigryw i wirfoddoli ar-lein gyda phrosiect Cynefin.

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu trawsgrifio mapiau degwm a dogfennau o'r 1840au. Mae tua 1,200 o fapiau a 30,000 tudalen o ddogfennau ar gael i’w trawsgrifio.

Ariennir prosiect Cynefin gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i wneud gwaith cadwraeth, digido a thrawsgrifio mapiau degwm Cymru er mwyn creu adnodd ar-lein arloesol a fydd yn rhad ac am ddim i bawb i’w defnyddio. Bydd yr adnodd ar-lein hwn yn gyntaf o'i fath ac mi fydd yn newid y ffordd y gall pobl ddefnyddio mapiau degwm i ymchwilio i hanes Cymru.

Mae'r holl waith gwirfoddoli yn cael ei wneud ar-lein ar wefan cyfrannu torfol cynefin.cymru, a gellir gwneud y gwaith ar adeg a chyflymder sy'n addas i chi.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

29/10/2015

Cydlynwyr rhoddion Calonnau Cymru


Yn gweithio o adref, byddwch yn berson trefnus, cyfeillgar ac hyderus gyda empathi naturiol tuag at bobl. Bydd gennych y gallu i gyfathrebu'n dda dros y ffôn ac wyneb yn wyneb ac yn mwynhau siarad a chwrdd â phobl eraill. Bydd gennych wybodaeth dda am eich cymuned leol a'i phobl.
Bydd ein gwirfoddolwyr cydlynwyr rhoddion yn gweithio gydag ychydig o oruchwyliaeth ac yn cael boddhad o gwblhau tasg er mwyn cynyddu arian ar gyfer Calonnau Cymru. Bydd angen ymrwymiad cryf at nodau a gwaith Calonnau Cymru yn bwysig.
Bydd tasgau yn cynnwys ein helpu i weinyddu arian a dderbyniwyd drwy rhoddion  'In Memoriam' , yn ogystal â helpu i godi ymwybyddiaeth am ein cronfeydd coffa. Byddwch yn cydnabod rhoddion gyda chydymdeimlad gan y perthynas agosaf, yn cofnodi rhoddion ac arian gan Gyfarwyddwyr Angladdau. Mae'r gwaith hefyd yn cynnwys ymweld â Threfnwyr Angladdau o bryd i'w gilydd i gynnal a chryfhau ein perthynas a chynyddu ein proffil.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr camp preswyl yn Sir Benfro - Siblings Together


Bydd gwirfoddolwyr yn gweithio'n agos gydag un grŵp o frodyr a chwiorydd a bennwyd ar gyfer yr wythnos. Rôl y gwirfoddolwr fydd gweithredu mewn swyddogaeth gefnogol ac ymgyfeillio, i fod yn rhan o drefniadau llyfn a diogel y gwersylloedd ac i sicrhau profiad o ansawdd uchel ar gyfer y bobl ifanc sy'n mynychu.
Bydd gwirfoddolwyr yn gweithio o dan gyfarwyddyd yr Arweinydd i sicrhau ethos a gwerthoedd Siblings Together yn cael eu hyrwyddo drwy'r gwersylloedd. Bydd goruchwyliaeth yn cael ei gynnig o fewn grŵp bob nos ac yn unigol os oes angen.
Gofynion:
1. Gweithio'n agos gyda'r Arweinydd,staff a gwirfoddolwyr eraill i sicrhau rhediad diogel a llwyddiannus y gwersyll.
2. Gweithredu bob amser ar weithdrefnau amddiffyn plant perthnasol a gweithdrefnau iechyd a diogelwch gan ddilyn canllawiau arfer da.
3. Gweithio'n agos gyda'r bobl ifanc,  chwarae rhan lawn yn eu bywydau bob dydd ac yn ystod y gwersyll ac eu cefnogi i gael y gorau o'u hamser 

Taliad anrhydeddus £100
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Gweithdy Gwaith - Gisda


Beth ydi gweithdy gwaith: Cyfres o sesiynau  sydd yn darparu hyfforddiant ac achrediadau i bobl ifanc i’w baratoi ar gyfer y byd gwaith. Bydd y sesiynau yn cynnwys hyfforddiant iechyd a diogelwch, cymorth cyntaf, sgiliau cyfrifiadur, cyllidebu ac yn y blaen.
Prif ddyletswyddau:
-  Cynorthwyo’r gweithwyr i gydlynu a rhedeg sesiynau gweithdy gwaith
-   I fynd drwy hyfforddiant a llyfrau gwaith gyda phobl ifanc
-   I roi cyngor a helpu’r mynychwyr i gwblhau’r sesiynau
-   I fod yn gyfeillgar a hyderus yn y sesiynau
-   I gynorthwyo’r gyda’r gwaith trefnu ar gyfer sesiynau 

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Arweinydd Brownies, Nant Ffrancon


Mae'r Brownies yn ferched rhwng 7 - 10 oed.
Drwy gyfarfodydd cyson, digwyddiadau arbennig, tripiau dydd ac dros nos, gwyliau ac campio,  mae Brownies yn dysgu sgiliau newydd, chwarae cerddoriaeth, dod i adnabod diwilliannau gwahanol ac cael profi anturiaethau yn yr awyr agored. Mae'r merched yn gallu gweithio tuag at cael bathodynau Brownies mewn nifer o weithgareddau gwahanol.
Bydd y cyfle hwn yn addas i wirfoddolwr brwdfrydig  ac profiadol sy'n mwynhau gweithio gyda phobl ifanc.
Cyfarfodydd fel arfer yn para am tua 1.5 awr bob wythnos. Fel cynorthwy-ydd neu arweinydd byddwch yn helpu gyda gwaith crefft ac yn y blaen.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

27/10/2015

Gwirfoddolwyr Grwpiau Rhieni - Gisda (Pwllheli)


Mae Gisda, Pwllheli yn chwilio am wirfoddolwyr grwpiau rhieni i:
·         Cynorthwyo’r cefnogwr teulu/mentor cyfoed i drefnu a chydlynu’r grwpiau rhieni
·         Ymuno a’r grwpiau rhieni
·         Cyfathrebu gyda’r rhieni a’u plant
·         I feddwl am syniadau newydd o weithgareddau i’r grŵp rhieni
·         I fod yn gyfeillgar a hyderus o fewn y grŵp.
·         I gymryd rhan yn y gweithgareddau a drefnir
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cyfaill Gwirfoddol (18+) - Cynllun Ffrindia' – Mantell Gwynedd


Mae Cynllun Ffrindia' yn bartneriaeth rhwng Mantell Gwynedd, Age Cymru a Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr Gwynedd a Môn.  Mae angen gwirfoddolwyr i gyfeillio gydag oedolion 50+  drwy ymweld â hwy yn wythnosol a chynnig cefnogaeth iddynt i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn lleol.  
Rhaid i wirfoddolwyr fod dros 18 oed.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd Siop – Ambiwlans Awyr Cymru (Bangor, Tywyn, Caernarfon)


Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr yn y siopau ym Mangor, Caernarfon a Tywyn i gynorthwyo gyda gwaith siop cyffredinol - gweithio ar y til, cadw'r siop yn lân ac yn daclus, yn edrych ar ôl y stoc, gwasanaethu cwsmeriaid.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Ffrind gyrrwr fan (Caernarfon) – Ambiwlans Awyr Cymru


Angen gwirfoddolwyr i helpu gyda chasglu nwyddau i ac o gartrefi pobl.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Codi arian – Ambiwlans Awyr Cymru


Mae angen gwirfoddolwyr i helpu i werthu cynyrch mewn sioeau lleol a digwyddiadau, archfarchnadau a casgliadau stryd.  Amser i siwtio yr unigolyn.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Ffrind gyrrwr fan (Bangor) – Ambiwlans Awyr Cymru


Angen gwirfoddolwyr i helpu gyda chasglu nwyddau i ac o gartrefi pobl.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd Casgliadau Cadwraeth – Castell Penrhyn

Bydd y Cynorthwy-ydd Cadwraeth yn helpu i ofalu am ein casgliadau ac yn cadw at safonau cyflwyno  fel y nodir yn y Llawlyfr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadw Tŷ. Trwy gyd-weithio gyda staff cadwraeth, byddwch yn dysgu sut i ddiogelu eitemau hanesyddol fel y gall ein hymwelwyr eu mwynhau am gyhyd ag y bo modd.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com neu 01286 672626.

Tywysydd Ystafelloedd - Castell Penrhyn

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn chwilio am wirfoddolwr i helpu ymwelwyr i fwynhau eu hymweliad i Gastell Penrhyn drwy eu croesawu i'r castell a rhoi gwybodaeth am hanes yr ystafelloedd a'r dodrefn / paentiadau.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com neu 01286 672626.

Ymddireidolwr/aig - ysgrifennydd/es - Canolfan Cefnogaeth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru

Mae Canolfan Cefnogaeth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn awyddus i recriwtio Ymddiriedolwyr i'r Bwrdd presennol. Yn benodol, rydym yn chwilio am Ysgrifennydd. Fel elusen gofrestredig cawn ein llywodraethu gan fwrdd o Ymddiriedolwyr, ac yn edrych i gynyddu niferoedd a chryfhau'r tîm.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com neu ffonio 01286 672626.

08/10/2015

Ramblers Cymru - Swyddog Wasg

Cynnig cyngor yn Gogledd Cymru neu a'r draws Cymru  gyfan a'r gohebiaeth allanol ac hefyd cyfathrebu mewnol i gyraedd y nod wedi eu osod allan. Ynghyd os ydyw amser yn caniatau mentora cyhoeddusrwydd lleol a chymeryd rhan mewn traddodi cyhoeddusrwydd.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

06/10/2015

Arsylwyr – North Wales Group of Advanced Motorists


Gall unrhyw unigolyn sydd wedi llwyddo yn y Prawf Gyrru Uwch (IAM) wneud cais i fod yn arsylwr gyda'r grŵp ac i gynorthwyo eraill i baratoi ar gyfer y prawf IAM.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Symud Ymlaen - Breast Cancer Care Cymru

Rydym yn deall nad yw anghenion unigolyn am gymorth yn dod i ben pan fydd y driniaeth yn gorffen . Mae ein gwasanaethau a gwybodaeth Symud Ymlaen ar gyfer unrhyw un sy'n byw gyda ac thu hwnt i ganser y fron gan eu helpu i fynd bywyd ar ôl triniaeth gyda mwy o hyder .

Mae gwirfoddolwyr yn helpu drwy:

• Cynorthwyo wrth sefydlu a chlirio ar ddechrau ac ar ddiwedd y digwyddiad
• Cwrdd a chyfarch cyfranogwyr wrth iddynt gyrraedd a gwneud iddyn nhw deimlo bod croeso iddynt.
• Helpu gyda darpariaeth lluniaeth
• Siarad yn fyr am eich rôl fel gwirfoddolwr Gofal Canser y Fron
• Siarad yn fyr am eich profiad personol o ganser y fron
• Siarad â chyfranogwyr yn ystod yr egwyl
• Cynnig cefnogaeth i gyfranogwyr os ydynt yn mynd yn ofidus neu os oes angen i adael yr ystafell .
• Cyfeirio at wasanaethau eraill Breast Cancer Care  (gwasanaethau lleol neu eraill os yn berthnasol )


Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Arweinwyr ac cynghorthwywyr Beaver Scouts yn Bethesda

Dyma adran newydd o fewn grŵp sydd eisoes yn bodoli. Mae Beavers ar gyfer merched a bechgyn rhwng 6-8 mlwydd oed. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael megis Arweinwyr Sgowtiaid Beaver neu Cynorthwy-ydd Adran Sgowtiaid Beavers . Mae'r rolau yn cynnwys cynllunio a rhedeg rhaglen amrywiol o gemau a gweithgareddau gyda'r Sgowtiaid Beaver. Darperir hyfforddiant am ddim a gellir ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored. Mae'r Sgowtiaid yn ymwneud â chael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, mae'n wych i wella eich CV a gwneud cyfraniad i fywydau pobl ifanc a'r gymuned leol. Bydd y grŵp yn cyfarfod bob dydd Mawrth ym Methesda rhwng 5.45pm - 6:45pm.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd Siop - Ambiwlans Awyr Cymru, Bangor

Cyfle newydd gan Ambiwlans Awyr Cymru - Cynorthwy-ydd Siop.  Rydym yn chwilio am wirfoddolwr i gynorthwyo gyda gwaith siop cyffredinol, gweithio ar y til, cadw'r siop yn daclus, edrych ar ôl y stoc, gwasanaethau cwsmeriaid.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Ffrind gyrrwr fan - Ambiwlans Awyr Cymru, Bangor

Mae Ambiwlans Awyr Cymru angen gwirfoddolwyr i helpu gyda chasglu nwyddau i ac o gartrefi pobl.

Os gennych ddiddordeb ac angen mwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

02/10/2015

Arbed Ynni / Gwirfoddolwr Ymwybyddiaeth - Groundwork Gogledd Cymru

Mae Groundwork Gogledd Cymru yn cymryd rhan yn y Rhwydwaith Arbed Ynni Mawr ... ac mae angen eich help!

Mae'r rhaglen yn cynnig mewn cefnogaeth a chyngor manwl i ddefnyddwyr sy'n agored i niwed, er mwyn lleihau'r defnydd o ynni a lleihau costau biliau tanwydd....
Dim ond mewn pryd ar gyfer y gaeaf, bydd gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant ffurfiol gyda hyrwyddwr ac yna'n cynnal sesiynau cyngor anffurfiol gyda grwpiau cymunedol lleol.


Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Aelod Tim - CitizensOnlineGwynedd


Mae angen gwirfoddolwyr i helpu redeg sesiynnau 'drop in' - ble y bydd aelodau or cyhoedd yn galw draw am gyngor neu help gyda phroblem ddigidol-sut i fynd ar-lein, defnyddio peiriannau chwilio, e-bost a defnydd cyffredinol bob dydd. Nid ydym yn chwilio am ddewiniaid technegol, dim ond pobl sy'n mwynhau helpu pobl eraill, ac wedi meistroli defnydd pob dydd or rhyngrwyd.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu
gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

29/09/2015

Cynorthwy-ydd Gwirfoddol Caffi (16+) - GISDA

Mae hwn yn brosiect sydd wedi ei gyllido gan grant Miliynau’r Bobl Cronfa’r Loteri Fawr, i ddatblygu canolfan hyfforddiant i bobl ifanc er mwyn dysgu sgiliau newydd a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen i waith cyflogedig yn y maes arlwyo.
Mae’r rôl gwirfoddolwyr yn gofyn iddynt wneud amrywiaeth o dasgau yn y gegin / caffi i sicrhau profiad rhagorol i gwsmeriaid. Gweini cwsmeriaid, paratoi bwyd a diod, glanhau byrddau a chadw’r caffi yn lan, defnyddio til wrth weithio mewn tîm effeithiol gyda gwirfoddolwyr eraill ag staff.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gweinyddydd TG Y Panel Dinasyddion- Bae Colwyn - CVSC 18+

•Gweithio gyda Chydlynydd y Panel Dinasyddion a thîm staff CVSC a’r gwirfoddolwyr  
•Datblygu arolygon ar-lein chwarterol ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd
•Datblygu a diweddaru bas data’r Panel Dinasyddion
•Sefydlu system ar gyfer casglu ymatebion i’r arolwg
•Rhannu gwybodaeth â phartneriaid eraill ledled Gogledd Cymru


Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Ymgysylltwyr Y Panel Dinasyddion (18+) - CVSC (Community and Voluntary Support Conwy)

Beth yw’r Panel Dinasyddion?
•Menter newydd gyffrous sydd wedi’i sefydlu fel sail i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol ac i ddylanwadu arnynt. 
•Caiff ei reoli’n annibynnol ac yn ddiduedd gan wasanaethau gwirfoddol ledled Gogledd Cymru.

Mae arnom angen siarad â phobl yn eich cymunedau chi na fyddent yn lleisio eu barn fel rheol - ac mae arnom angen eich help chi i ddod o hyd iddyn nhw!
Disgrifiad o’r Gweithgareddau Gwirfoddoli:
•Gweithio mewn tîm, mewn lleoliadau amrywiol yn y gymuned         
•Mynd at aelodau’r cyhoedd a sgwrsio gyda nhw
•Esbonio rôl y Panel Dinasyddion           
•Ennyn diddordeb a hyder y cyhoedd                  
•Cael aelodau’r cyhoedd i ddod yn gyfranogwyr brwd ar y Panel Dinasyddion


Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd siop (amryw o gyfleoedd) - British Heart Foundation

Yn hoffi siopau a manwerthu? Mae siop elusen British Heart Foundation yng Nghaernarfon yn awyddus i recrwitio gwirfoddolwyr i helpu yn eu siop. Mae nifer o rolau ar gael gan gynnwys gweithio ar y til,  stocio ar lawr y siop, prosesu stoc, cynorthwy-ydd eBay, prisio lyfrau / cerddoriaeth ac adloniant / ategolion / brac n bric a llawer llawer mwy!

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr/wraig gweinyddol - Shelter Cymru

Mae Shelter Cymru yn chwilio am wirfoddolwr/wraig gweinyddol yn y swyddfa.  Rhai o'r tasgau: •Gwneud ffeiliau cleientiaid
• Mewnbynnu data ar Casetrack
• teipio awdio / teipio
• Ateb y ffôn
• Gweithio ar ddesg y dderbynfa
• Archifio
• Gweithgareddau eraill fel y cytunwyd gyda staff


Diddordeb?  Cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cyfle i gloddio - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn cloddio yng ngweithle Boston Lodge Rheilffordd Ffestiniog ag Eryri, Minffordd o Ddydd Mawrth 6ed Hydref tan Ddydd Gwener 16eg Hydref ac angen gwirfoddolwyr i helpu. Mi fydd y gwaith yn cynnwys cloddio, glanhau a chofnodi dwy sied powdwr gwn a hefyd ardal o iard lle'r oedd storfa a siop saer coed.
Nodwch bod y gyllideb gyfyngedig felly yn anffodus mi fydd dim ond ychydig bach o arian ar gyfer hawlio treuliau. Hefyd, tro ‘ma ni fydd gennym ddigon o adnoddau i gefnogi gwirfoddolwyr sydd heb unrhyw brofiad o wirfoddoli.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

22/09/2015

Gwirfoddoli mewn Shop/Canolfan Wybodaeth - Antur Stiniog

Rhoddi gwybodaeth i'r ymwelwyr am leoliadau lleol i ymweld a hwy.  Eu cyfeirio i beth maent eu hangen.  Cynorthwyo yn y siop, gwerthu nwyddau.  Rhoddi allan  y cynyrch.  Cadw y siop yn lan a thaclus.

Am fanylion pellach cysylltwch efo Mantell Gwynedd ar 01341 422575 neu annfleming@mantellgwynedd.com

17/09/2015

Ymddiriedolwr - Yapp Charitable Trust

Rydym yn chwilio am ymddiriedolwyr gyda phrofiad cyfredol o weithio (neu wirfoddoli) mewn cymunedau gwledig ac sydd â diddordeb mewn cefnogi elusennau bach sy'n anelu at wella bywydau pobl ddifreintiedig. Byddwch yn helpu i lywio cyfeiriad strategol yr Ymddiriedolaeth ac yn gwneud penderfyniadau ar ddosbarthu yn effeithiol ein hadnoddau cyfyngedig fel grantiau i elusennau bach yng Nghymru a Lloegr.

Yn ddelfrydol bydd gennych brofiad o fwy nag un o'n grwpiau blaenoriaeth (a restrir ar ein gwefan yn
www.yappcharitabletrust.org.uk)
Mae Ymddiriedolwyr presennol wedi eu lleoli yn Llundain, Gorllewin Lloegr, De Orllewin Lloegr a Gogledd Orllewin Lloegr. Byddwn yn ddelfrydol yn hoffi ymddiriedolwr newydd i ddod o Gymru.

Lleoli'r cyfle o'ch cartref gyda theithio i Lundain 3-4 y flwyddyn ar gyfer cyfarfodydd yr Ymddiriedolwyr.  Bydd costau teithio yn cael ei ad-dalu.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

04/09/2015

Hwylusydd Grŵp Ffôn - Amser i Siarad Cymru - RNIB

Allech chi helpu i sefydlu awyrgylch gyfeillgar a chefnogol ar gyfer grŵp ffôn a chyflwyno gwybodaeth o sgript? Mae ein grwp ffon wythnosol Amser i Siarad yn cyfarfod dros y ffôn yn ystod oriau swyddfa ble mae cyfranogwyr sydd wedi colli golwg yn rhannu eu profiadau. Ymunwch â ni i helpu pobl hŷn i dderbyn cefnogaeth a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Casglwyr arian - RNIB

Allech chi ymuno â ni am ychydig o oriau i godi arian ar gyfer RNIB yn eich siop Tesco leol dros yr ychydig fisoedd nesaf?
Mae casgliadau yn ffordd hwyliog a chymdeithasol er mwyn helpu i wneud pob dydd yn well i bobl sydd wedi colli'u golwg.


Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

03/09/2015

Gwirfoddolwr Cefnogi Cymorth Cyntaf mewn Digwyddiadau - Y Groes Goch

Ein nod yw darparu cymorth cyntaf, i achub bywyd yn achlysurol, i’r rheini sydd angen help mewn digwyddiadau cyhoeddus a chefnogi’r gwasanaeth ambiwlans
Allech chi ein helpu ni i wneud hyn?
Allech chi ein cynorthwyo ni i ddarparu cymorth cyntaf mewn digwyddiadau ledled Cymru?
Fel Gwirfoddolwr Cefnogi Cymorth Cyntaf mewn Digwyddiadau byddwch:

•Yn helpu i osod y safle cymorth cyntaf a’i dynnu i lawr
•Yn helpu gyda gohebu, gweinyddu, logisteg ac arlwyo
•Yn cysgodi gwirfoddolwyr Cymorth Cyntaf mewn Digwyddiadau i ddysgu sut maent yn gweithredu
•Yn mynychu cyfarfodydd cymorth cyntaf lleol rheolaidd


Ar ôl ymrwymo am 6 mis gallwch symud ymlaen i fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf mewn Digwyddiadau, sy’n golygu gweinyddu cymorth cyntaf i’r rheini sydd mewn angen (yn amodol ar addasrwydd a gallu)
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Ymgyfeilliwr dros y ffon - GOFAL. Y Groes Goch

Gwasanaeth ymgyfeillio a galluogi sy’n cael ei ddarparu ar gyfer pobl dros hanner cant oed yng Nghymru yw GOFAL. Nod y gwasanaeth yw lleihau unigrwydd a hybu rhyngweithio cymdeithasol a lles emosiynol. I rai cleientiaid gall galwadau ffôn helpu yn hyn o beth.
Mae tasgau cyffredin yn cynnwys:

•Cynnig clust i wrando a llais cyfeillgar ar y ffôn
•Cadw cofnodion cyfredol a logiau galwadau ac ati
•Cyfeirio at unrhyw wasanaethau perthnasol eraill
Gan gofio am gyfrinachedd, pasio unrhyw bryderon ymlaen neu dynnu sylw’r Rheolwr at unrhyw faterion addas

Am fwy o fanylion am y cyfle yma, ffoniwch Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu ebostiwch gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

01/09/2015

Trefnydd Cefnogaeth mewn Caffi yn y Gymuned - Y Gymdeithas Strôc

Bydd Trefnwyr Cefnogaeth Caffi yn y Gymuned yn cynnig cymorth a chyngor i oroeswyr stroc, eu teuluoedd au gofalwyr, mewn lleoliad lleol lle gall pobl sydd wedi goresgyn strôc brynu eu bwyd a'u diod eu hunain. Bydd hyn yn helpu i leihau unigrwydd cymdeithasol a gwella hyder a hunan-barch yr unigolion sydd wedi goroesi. Gall y gwirfoddolwyr drefnu amrywiol weithgareddau yn y lleoliad neu wahodd unigolyn arall i ddod i wneud gwaith crefft neu roi sgwrs.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Dysgu Gyda'n Gilydd - Volunteering Matters

Mae gwirfoddolwyr yn rhoi cymorth i ddisgyblion am awr neu ddwy bob wythnos, mewn ysgolion neu leoliadau yn y gymuned, yn gwrando arnyn nhw’n darllen, yn rhoi help ychwanegol gyda Mathemateg neu bynciau eraill. Neu, byddan nhw’n cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau - o arddio, coginio, drama i weu.  Y peth pwysig yw’r rhyngweithio rheolaidd personol (sy’n cael ei arolygu bob amser gan athrawon neu staff.) Gall 10 munud y diwrnod yn unig yn gwrando ar blant yn darllen wneud gwahaniaeth mawr i’w gallu a’u hyder cyffredinol.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Llysgennad Stroc - Y Gymdeithas Strôc

Os ydych a diddordeb mewn unrhyw un o'r rhestr isod:
*Datblygu a traddodi cyflwyniadau am stroc a'r Gwasanaeth Stroc mewn cynhadleddau, digwyddiadau ac i grwpiau lleol yn y gymuned.
*Bod yn bresennol mewn cynhadleddau, digwyddiadau ac arddangosfeydd i gynrychioli'r Gwasanaeth Stroc..
*Cymeryd Pwysau Gwaed mewn digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o'r cyswllt rhwng pwysau gwaed uchel a stroc.
*Arwyddo pobol at y Gwasanaeth Stroc am gefnogaeth gan ddosbarthu gwybodaeth a thaflenni i bobl proffesiynol, Canolfannau Meddygol, Canolfannau Iechyd, Canolfannau Ymarfer Corff, Llyfrgelloedd ac unrhyw leoliad arall yn eich ardal
*Mynychu digwyddiadau a derbyn sieciau ar ran y Gwasanaeth Stroc.
*Cefnogi ymgyrchoedd yn lleol ac adrodd yn ol am unrhyw gyfleoedd posib i godi mwy o arian neu i gael cefnogaeth gan wirfoddolwyr, i ymgyrchu i ni allu mynd ar drywydd y rhain.

Cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu ebostio gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

25/08/2015

Gwirfoddolwyr Clwb Ni - MENCAP

Mae Clwb ni Angen gwirfoddolwyr i helpu redeg y clwb, sef clwb cymdeithasol i bobl ym Mhwllheli hefo anableddau. Mae angen gwirfoddolwyr i helpu wneud gweithgareddau fel celf, canu a bingo. Mae'r clwb ar agor bob Nos Lun 7-9. Os gennych ddiddordeb cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu ebostio gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Arthritis Care in Wales - gwirfoddolwyr

Mae Arthritis Care in Wales yn chwilio am wirfoddolwyr 14+ oed.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu ebostio carwyn@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Llyfrgell Ar-lein - Seeing Ear

Gweithio o adref ac yn eich amser eich hun, byddwch yn ein helpu i ychwanegu at ein llyfrau llyfrgell ar-lein. Mae ein llyfrgell ar-lein rhad ac am ddim yn darparu llyfrau mewn fformat hyblyg i gefnogi darllenwyr sydd angen llyfrau mewn fformat hygyrch oherwydd rhesymau megis nam ar y golwg, dyslecsia neu anabledd corfforol. Byddwch yn golygu, steilio a fformatio ffeiliau MS Word a byddwn yn rhoi'r holl hyfforddiant sydd ei angen arnoch ar gyfer hyn sydd unwaith eto gellir ei wneud yn y cartref drwy e-bost i chi. Mae pob llyfr y byddwch yn golygu yn rhoi cyfle i rywun sy'n cael trafferth â darllen llyfrau cyffredin i gymryd pleser o ddarllen neu yn cael cyfle teg mewn addysg. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar brosiect newydd cyffrous sy'n gweithio gydag ysgolion i gefnogi plant sydd angen llyfrau mewn fformat electronig hwn ac rydym am roi cyfle i gael cyfle teg mewn addysg ac i ymgysylltu â dysgu pob plentyn. Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr 'Buckets for Boobs' - Gofal Canser Tenovus

Ym mis Hydref rydym yn cynnal dros 100 o gasgliadau bwced pinc ledled Cymru mewn archfarchnadoedd, canolfannau chwaraeon a chanol trefi i gefnogi mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron.

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr Buckets for Boobs i'n helpu i godi cymaint o arian ag sy'n bosibl i gefnogi teuluoedd ar draws y ymchwil canser yn newid ei bywyd cronfa gwlad a chymorth.

Gall dim ond chwe deg munud o gasglu godi oddeutu £ 20 fel y gall un o'n nyrsys profiadol weithio ar y linell gymorth am ddim ar gyfer un awr. Mae hyn yn golygu unrhyw un ofnus neu'n poeni am ganser y fron yn cael rhywun i siarad â - rydym yno ar eu cyfer 365 diwrnod y flwyddyn.

Drwy roi bore, gallwch chi helpu i godi tua £50, sy'n golygu y gall cleifion canser y fron yn cael un sesiwn cemotherapi ar fwrdd ein Cefnogaeth Symudol Uned yn hytrach na mynd i mewn i'r ysbyty.

A thrwy roi i fyny y dydd, gallwch chi helpu i godi tua £ 240 sy'n golygu y gall unrhyw un ei chael yn anodd ymdopi â chanser.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Ifanc Cyflwynydd Sgiliau Byw Gogledd Cymru - RNLI

Mae'r RNLI wedi ymrwymo i addysgu plant ac i ysgogi cenhedlaeth newydd o gefnogwyr ac achubwyr bywyd posibl. Rydym yn chwilio am nifer o wirfoddolwyr sy'n frwdfrydig ac sydd â diddordeb mewn rhoi cyflwyniadau a gweithio gyda phobl ifanc. Byddwch yn cael cyfle i gwrdd â phobl newydd, yn defnyddio eich sgiliau presennol ac ennill sgiliau a phrofiadau newydd.

Bydd y rôl yn gyfle i gyflwyno sesiynau rhyngweithiol byr ar ddiogelwch ar y traeth i grwpiau bach o blant oed ysgol yn ogystal â meithrin eu dealltwriaeth o'r RNLI a'r rôl y mae'n ei chwarae o fewn ein cymuned. Nid oes angen profiad blaenorol gan fod hyfforddiant ar ddiogelwch traeth a bydd yr RNLI yn cael ei ddarparu.

Ein nod yw achub bywydau gyda dull rhagweithiol i faterion diogelwch ar y môr / traeth yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r RNLI ymysg pobl ifanc yng Ngogledd Cymru.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Dogfennu casgliad Daeareg, Adeilad Brambell ac Adeilad Thoday

Cyfle gwych i ddysgu mwy am sbesimenau, casgliadau, gofal amgueddfaol a dogfennu. Prif ddyletswyddau’r rol fydd cynorthwyo hefo catalogio a gwirio lleoliadau spesimenau, gwneud rhestrau, gwirio yn erbyn catalog cyfredol a mewnbynnu gwybodaeth catalog i mewn i’r cronfa ddata. Bydd y gwaith yn cynnwys glanhau eitemau, eu trin, symud neu eu hail bacio. Mae gwybodaeth neu cefndir mewn daeareg yn hanfodol.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

14/08/2015

Tywyswyr ymwelydd Swoleg - Agor Amgueddfa Hanes Natur Brambell yn Adeilad Brambell 2015

Cyfle gwych i gyfrannu at brofiad yr ymwelydd yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor. Y prif ddyletswyddau fydd cyfarch ymwelwyr pan maent yn cyrraedd mewn ffordd groesawgar, cynorthwyo hefo rhoi gwybodaeth gyffredinol a chymorth i ymwelwyr a rhoi gwybodaeth fwy manwl am y prif spesimens sydd yn cael eu harddangos. Gwylio’r Amgueddfa i sicrhau nad yw’r spesimens yn cael eu difrodi a chynorthwyo hefo diogelwch fel nad yw ymwelwyr yn crwydro i rannau eraill o’r adeilad.
Mae gwybodaeth a chefndir mewn hanes natur yn hanfodol a bydd hyfforddiant yn cael ei roi ar y casgliadau sydd yn cael eu cadw yn yr Amgueddfa.
 Bydd y rôl yma ar sail yn ôl yr angen gan nad yw’r Amgueddfa ar agor i’r cyhoedd ar wahân i ddiwrnodau agored, e.e. yr Ŵyl Wyddoniaeth a Gŵyl Diwrnodau Agored. Rhagwelir y bydd yr Amgueddfa ar agor yn fwy rheolaidd e.e. unwaith y mis yn y dyfodol.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com