Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

16/11/2016

Gwirfoddolwyr Siop a Chaffi – RVS Ysbyty Gwynedd



Mae siopau RVS , caffi a throli yn gwasanaethu cleifion mewn ysbytai, y staff ac ymwelwyr gyda chynhesrwydd ychwanegol o gyfeillgarwch a dealltwriaeth gan in gwirfoddolwyr.
 
Mae angen gwirfoddolwyr i helpu i redeg y gwasanaeth , gwasanaethu cwsmeriaid, cymryd taliadau wrth y til , paratoi diodydd neu fyrbrydau a bod yn glust i wrando .
Mae gwirfoddolwyr yn sicrhau bod y siop yn cael ei stocio'n briodol ac y caiff ei gadw'n lân a thaclus fel y disgwylir mewn amgylchedd ysbyty.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfyddolwyr Ynys Enlli – Ymddiriedolaeth Ynys Enlli


Rydym yn awyddus i ddod o hyd i wirfoddolwyr a hoffai dreulio lleiafswm o wythnos ar Enlli yn y cyfnod rhwng Mawrth ac Hydref 2017 i helpu gydag ystod o brosiectau a thasgau gwahanol.
 
Gorchwylion yn cynnwys: helpu i gynnal, glanhau a rheoli’r llety a chyfleusterau i ymwelwyr; peintio ac addurno; gorchwylion cynnal a chadw cyffredinol ar yr ynys (clirio llwybrau, cynnal a chadw’r adeiladau, codi cloddiau cerrig sych, garddio ayyb).  Mae’r cyfle yma yn addas i berson oed 18+.  Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cymorth Lleol – YHA (Youth Hostel Organisation)


Gwaith adeiladu a chynnal a chadw.
Garddio - plannu gwelyau blodau, paentio ffensys, tocio gwrychoedd.
Mae nifer o ddigwyddiadau untro wedi'u cynllunio rhwng mis Hydref a mis Chwefror. Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cefnogi Grwp – Tan y Maen



I gefnogi grwp gwaith estyn allan yn Nolgellau.  Mae’r rôl yma yn addas i bobl rhwng oedran 26-50.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Gweinyddol – Tan y Maen



I gynorthwyo ein prosiectau gyda gwaith gweinyddol, gan gynnwys cofnodi data, gwneud apwyntiadau cleient, cofnodion calendr, cynnal a diweddaru cofnodion, ffeilio a gwaith ddogfennol arall.

Bydd hyfforddiant llawn ac ad-dalu treuliau parod yn cael eu darparu.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.  Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

09/11/2016

Gwirfoddolwyr cymydog da - Royal Voluntary Service


Bydd gwirfoddolwyr yn ymweld â pherson hŷn er mwyn darparu cwmnïaeth a chefnogaeth ymarferol . Mae'r rol hon wedi ei chreu er mwyn ceisio lleihau unigrwydd ac adeiladu hyder y person hŷn er mwyn gwella eu hansawdd bywyd eu hunain . Rydym yn anelu at ddod â'r gymuned at ei gilydd ac i leihau unigedd .  Mae’r cyfle yma yn addas i wirfoddolwyr 18+ oed.  Am fanylion pellach, cysylltwch ô Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Clwb Cinio Bangor - Royal Voluntary Service


Mae angen gwirfoddolwyr mewn ar gyfer clwb cinio Bangor. Mae'r rolau hyn yn cynnwys gweini prydau bwyd, cymdeithasu gyda defnyddwyr y gwasanaeth, gan ddarparu lifftiau a chydlynu'r clwb cinio.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Darparu Gwasanaeth Ysgolion - ChildLine


Mae angen gwirfoddolwyr i ddarparu gwasanaeth ysgolion Childline i blant ysgolion cynradd, gan ganolbwyntio ar blant rhwng 7 ac 11 oed.  Bydd gwirfoddolwyr yn defnyddio 'Cyflwyniad mewn Gwasanaeth' a'r 'Gweithdy Ystafell Ddosbaerth' er mwyn helpu plant i gael gwell dealltwriaeth o gadw'n ddiogel e.e cam-drin (gan gynnwys bwlio).  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Clirio Rhodedendron - Y Dref Werdd


Mae Rhododendron (Rhododendron ponticum) yn rhywogaeth ymledol yng Nghymru. Mae'r Dref Werdd yn clirio'r rhywogaetha ymledol o dir busnes lleol, Llechwedd. Mae’r Dref Werdd yn brosiect cymunedol amgylcheddol ariennir gan y Loteri yn ardal Bro Ffestiniog. Un o nifer o brosiectau gan Y Dref Werdd yw 'Prosiect Rheoli a Chlirio Rhododendron’ sy'n bwriadu clirio ardaloedd lle mae Rhododendron yn bresennol. Ein nod yw rhyddhau i'r ardal o hyn rhywogaethau ymledol drwy dorri'r canghennau yn defnyddio llifiau bwa a offer tocio.  Digwyddiad ‘one-off’ yw hwn rhwng 5ed – 9fed Rhagfyr 2016.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Siop (Pwllheli, Y Bala a Bermo) - Tenovus Cancer Care


Mae ein siopau yn codi arian hanfodol i'n helpu i gefnogi cleifion canser a'u hanwyliaid. Fodd bynnag, ni allent wneud hyn heb gymorth ein gwirfoddolwyr rhyfeddol.
 
Os ydych yn chwilio i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol, i ennill rhywfaint o brofiad manwerthu neu i wneud ffrindiau newydd, gall wirfoddoli gyda ni fod yn gyfle gwych i chi.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwy Siop – Amrywiol, Porthmadog - Tenovus Cancer Care




Mae ein siopau yn codi arian hanfodol i'n helpu i gefnogi cleifion canser a'u hanwyliaid. Fodd bynnag, ni allent wneud hyn heb gymorth ein gwirfoddolwyr rhyfeddol.

 

Os ydych eisau gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned, ennill rhywfaint o brofiad manwerthu neu gwneud ffrindiau newydd, gall wirfoddoli hefo ni fod yn gyfle gwych. Mae gennym ddigon o rolau a allwch helpu hefo.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Garddio - Wild Elements


 
Mae yna fwy i Elfennau Gwyllt na’r Ysgol Goedwig a chynlluniau chwarae.  Rydym yn cydweithio â’r gymuned leol i greu priosectau garddio newydd sy’n helpu i gyfoethogi’r gymuned mewn ffyrdd syml.  Mae Elfennau Gwyllt yn berchen ar dir sydd angen gofal rheolaidd a hoffwn eich help chi i wneud hyn.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Marchnata - Wild Elements


Rhan o waith Elfennau Gwyllt yw cyrraedd at pobl newydd.  Rydym yn ceisio ymgysylltu gyda phobl sydd ddim yn cysidro eu hunain fel pobl awyr agored a’u denu at fyd natur.  Er mwyn cyflawni hyn rydym angen pobl sydd â'r gallu i gysylltu gyda'r cyhoedd a’u diddori yn ein gwaith. Mae angen i ni fedru cyfathrebu a chyrraedd unigolion wyneb yn wyneb a thros y we.  Trwy wirfoddoli ar gyfer y rôl hon, byddwch yn helpu Elfennau Gwyllt i gyrraedd at gymaint o bobl â phosib gan sicrhau bod ein digwyddiadau yn cael eu marchnata a'u hysbysebu'n dda.  Mae’r cyfle yma yn addas i wirfoddolwyr 16+ oed.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Addysg Awyr Agored - Wild Elements


 
Mae addysg yn ganolog i weithgareddau Elfennau Gwyllt.  Gall hyn fod drwy ein rhaglenni Ysgol Goedwig, sesiynau saethyddiaeth, cynlluniau chwarae neu gweithgareddau creftau i oedolion.  Rydym yn anelu i ddysgu cyn gymaint o bobl yng Ngolgedd Cymru am fyd natur a byw'n iach ac sy'n bosib.  Er mwyn cyflawni hyn, rydym angen gwirfoddolwyr brwdfrydig sy'n mwynhau dysgu sgiliau newydd yn yr awyr agored a throsgwlyddo'r sgiliau yma i bobl eraill.  Trwy wirfoddoli gyda ni, byddwch yn ein cynorthwyo i sicrhau ein bod yn cynnal sesiynau y bydd pobl yn mwynhau a chofio.  Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 16+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr safle - Wild Elements



Mae Elfennau Gwyllt yn defnyddio safleoedd coediwg ar gyfer ein digwyddiadau ac mae llawer o waith cynnal a chadw ar y safleodd fel eu bod yn ddiogel i'w defnyddio yn ystod cynlluniau chwarae.  Mae tîm o wirfoddolwyr gan Elfennau Gwyllt sy'n cynorthwyo ar y safleoedd yma. Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i sicrhau bod sesiynau Elfennau Gwyllt yn ddiogel ac fod pawb yn hapus ar ein safleoedd.  Mae’r cyfle yma yn addas i oed 16+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

02/11/2016

Rhoi llety am noson neu ddwy i'r Digartref - Digartref Cyf


 

A oes gennych loft sbar? 

Rydym angen gwirfoddolwyr i gynnig llety i bobl ifanc (16 - 25 mlwydd oed) mewn argyfwng.  Mae angen ystafell wely sbar, pryd gyda'r nos a brecwast (ad-delir costau)  am noson, dwy neu dair.

 

Bydd Digartref yn cynnig £15 y noson + costau teithio i wirfoddolwyr.

 

Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 21+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com