Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

22/07/2014

Cymhorthi mewn gweithgareddau syrcas a chelf


Mae Cimera yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i redeg gweithgareddau syrcas a celfyddydol (drama, dawns, cerddoriaeth, celf, carnifal ayyb).
Cynhorthwy'r bobl ifanc sy'n cymered rhan yn y gweithgareddau.
Am fwy o fanylion cysylltwch a Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu ebostio carwyn@mantellgwynedd.com
 

Marshal gwirfoddol ar gyfer ras hanner marathon Eryri dydd Sadwrn 25 Hydref 2014


Mae Tenovus yn codi miloedd o bunnoedd bob blwyddyn trwy ddigwyddiadau rhedeg. Cafodd Marathon Eryri ei bleidleisio fel y Marathon gorau yn y DU, ond mae hefyd yn cael ei ystyried yn un o'r rhai mwyaf anodd! Gall cyfranogwyr ddisgwyl nid yn unig golygfeydd hardd, ond hefyd yn trefniadau o'r radd flaenaf a lletygarwch lleol cynnes. Mae angen gwirfoddolwyr i gynorthwyo gyda gorsafoedd diodydd dŵr Tenovus ac hefyd mewn mannau i annog a llonni ar y rhedwyr ar hyd y llwybr Hanner Marathon i helpu greu presenoldeb gwych ar gyfer y cyfranogwyr ras.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd Siop Elusen


 Mae Siop elusen Oxfam ym Mhorthmadog yn chwilio am wirfoddolwyr.  Y prif ddyletswyddau fydd sortio dillad, rhoi prisiau ar eitemau a gwaith til (fydd hyfforddiant til ar gael).  Telir costau teithio

CPD Porthmadog FC Academy - Gweinyddwr i'r Academi


Cadarnhau gosodion gemau sydd wedi cael ei drefnu gan y CBD.
Darparu cyfarwyddiadau ysgrifenedig wythnosol i'r hyfforddwyr (i roi i'r chwaraewyr).
Delio hefo unrhyw faterion sy'n cael ei godi gan CBD. 
Cadw cofnodion o'r holl chwaraewyr a hyfforddwyr.
 
Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn neu Gwenllian ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
 

Mentor Busnes - Prince's Trust Cymru


Mae'r Rhaglen Menter yn cefnogi pobl sy'n ddi-waith rhwng 18-30 oed ac  sydd â diddordeb mewn hunan gyflogaeth, i archwilio a phrofi eu syniadau, ysgrifennu cynlluniau a dechrau eu busnesau eu hunain, neu sicrhau canlyniadau amgen mewn cyflogaeth, addysg, hyfforddiant neu waith.
Rôl y Mentor Busnes fydd rhoi canllawiau i gleientiau, helpu pobl ifanc i ddod o hyd ac i ddeall gwybodaeth, datrys problemau a gweithredu ar gynlluniau gweithredol. Byddwch yn arwain pobl ifanc i ddod o hyd i atebion .
Rôl y mentor busnes hefyd fydd datblygu perthynas waith dda gyda'r bobl ifanc.
Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626

Hyfforddwr swydd ar gyfer pobl sydd â Syndrom Down


Byddwch yn darparu cymorth swyddi a hyfforddiant i berson sydd â syndrom Down yn eu man gwaith.  Chi fydd eu cydweithiwr ac yn eu hannog i fod yn rhan o'r ochr gymdeithasol y gwaith hefyd.
A ydych yn18 oed neu drosodd ac efo diddordeb?  Am fanylion pellach cysylltwch a Carwyn, Gwenllian neu Ann ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626