Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

27/09/2017

Grwpiau codi arian lleol – The Lullaby Trust


Rydym yn chwilio am gefnogwyr ymroddedig a brwdfrydig i ymuno gyda ni i ffurfio grwpiau codi arian lleol ar draws y DU!

Bydd y grwpiau yma yn chwarae rhan hanfodol i'n helpu i godi ymwybyddiaeth am The Lullaby Trust a'n negeseuon am gysgu'n fwy diogel ar draws y DU. Ein nod yw haneru achosion o SIDS erbyn 2020. Mae grwpiau lleol mewn sefyllfa gwych i ymgysylltu â'r gymuned ac yn adnabod y ffyrdd gorau o wneud hynny gan ddefnyddio eu rhwydweithiau a'u sgiliau. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Ochr yn Ochr dros y ffôn (16+) – Y Gymdeithas Alzheimer’s

Mae sail ar gyfer y rôl hon yn hyblyg fydd yn cael ei gytuno gyda'ch rheolwr rôl. Gallwch wirfoddoli o'ch cartref neu o'ch swyddfa Gymdeithas Alzheimer leol. Gellir cytuno ar lefel yr ymrwymiad ar gyfer y rôl hon yn seiliedig ar eich argaeledd bydd yn cael ei drafod yn eich cyfarfod cyntaf gyda'r Cydlynydd Ochr wrth Ochr. Gallai hyn fod yn ystod prynhawn, nos neu benwythnosau.

Pam mae angen chi ...

Fel gwirfoddolwr dros y ffôn Ochr wrth Ochr, byddwch yn rhoi sgyrsiau cyfeillgar, wedi'u teilwra â phobl sy'n byw gyda dementia. Byddwch yn gysylltu â phobl ar sail eu diddordebau. Bydd eich cyfraniad yn cefnogi pobl â dementia i deimlo'n llai unig ac yn canolbwyntio ar gryfderau'r unigolyn i barhau i fod yn gysylltiedig, i deimlo'n werthfawr ac yn fwy hyderus. Oes gennych yr hyn sydd angen i helpu pobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia?

Bydd y rôl hon yn addas i chi os ydych ...

• Yn angerddol am gefnogi, galluogi a grymuso pobl â dementia a bod gennych agwedd ymrwymedig a hyblyg. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Marchnata / Rheoli Data – Storiel

Cynorthwyo i greu a chynnal cynllun marchnata i Storiel.

Gall y tasgau newid o ddydd i ddydd, ond yn gyffredinol: Cyfweld aelodau o’r tîm (staff a gwirfoddolwyr), cyflenwyr a cwsmeriaid ar gyfer y cylchlythyr, defnyddio cyfryngau cymdeithasol, canfod dyddiau pwysig i’r casgliad e.e. y dydd hwn mewn hanes, bod yn rhan o dîm i feddwl am ddulliau marchnata newydd, creu fidio syml, cyfieithu byr yn gywir, ymchwilio i bynciau fel yr angen.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Aelod o Dîm Profiad Ymwelwyr – Storiel


Rhoi cymorth i staff blaen ty i gyfoethogi profiad ymwelwyr i Storiel a chefnogi tasgau dydd i ddydd yr Amgueddfa ac Oriel. 

Gall y tasgau newid o ddydd i ddydd, ond yn gyffredinol:  Croesawu ymwelwyr, arwain ymwelwyr at arddangosfeydd, rheoli tyrfa, ateb cwestiynau’r ymwelwyr am yr arddangosfeydd a Storiel, hybu’r gemau/ storiau/ gweithgareddau interactif ee jigso, bag antur, app, sgriniau hanes, tacluso ac ail stocio’r siop, rhoi cymorth i’r ymwelwyr yn y man Gwybodaeth i Ymwelwyr.

Gwirfoddolwr Clwb Darllen (Siaradwr Cymraeg) – Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru


Mae Cymru dros Heddwch yn chwilio am atgofion personol sy'n gysylltiedig â chyfraniad Cymru i heddwch dros y ganrif ddiwethaf. Ychydig iawn sy'n gwybod y cafodd plant o wlad y Basg a wnaeth ffoi rhag cyfundrefn Franco eu gwarchod yn Hen Golwyn. Ychydig iawn o dystiolaeth sydd yna erbyn hyn o'r digwyddiad yma a syniad y Clwb Llyfrau yw darllen nofel sy'n seiliedig ar hyn ac agweddau eraill o Hanes Cymru gyda grŵp o oedolion er mwyn eu hannog i adrodd eu cof personol, eu teulu a'u ffrindiau am hyn a chyfnodau eraill mewn hanes. Gyda chaniatâd yr unigolyn, gellir cofnodi'r cyfrifon hyn mewn ffordd fodlon iddynt a'i roi ar ein gwefan.
 
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Achrededig – Epilepsy Action Cymru


Ydych chi'n frwdfrydig ac yn hyderus wrth roi cyflwyniadau? Os felly, ymunwch â'n tîm gwych o Wirfoddolwyr Achrededig i'n helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o epilepsi.

Byddwch yn darparu sesiynau ymwybyddiaeth o epilepsi bydd wedi'u archebu ymlaen llaw i grwpiau â diddordeb ac yn ein cynorthwyo i hyrwyddo'r gwasanaeth hwn yn lleol. Cyflwynir y cyflwyniadau drwy ddefnyddio PowerPoint (cewch hyfforddiant ar gyfer hyn).

Rhaid i chi fod yn hyderus wrth ymwneud â phobl ac wrth wneud cyflwyniadau. Dylech allu cyflwyno'r gwybodaeth yn glir ac hefyd gyda brwdfrydedd.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwyydd Sesiynau Hwyl Cynnal Gofalwyr – Cynnal Gofalwyr


Mae Cynnal Gofalwyr yn fudiad sy'n cefnogi rhieni a gofalwyr dros 18 oed yn ardal Gogledd Gorllewin Cymru.

Mae angen gwirfoddolwyr i helpu yn ystod ein sesiynau gweithgareddau. 

Byddwch yn y sesiynau hyn yn cefnogi rhieni a phlant / pobl ifanc ag anghenion ychwanegol. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys crefft, chwarae a chynnig cefnogaeth a gwybodaeth. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr y Cyfryngau – Epilepsy Action


Helpu i godi ymwybyddiaeth o epilepsi trwy rannu eich profiad personol gyda'r cyfryngau a thrwy ddeunyddiau Gweithredu Epilepsi a chylchgrawn a gwasanaethau ar y we.  Mae’r cyfle yma yn addas i bob oedran. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr gwasanaethau lleol – Epilepsy Action


Byddwch yn gweithredu o dan gyfarwyddyd y Rheolwr Gwasanaethau Lleol (LSM), yn cynorthwyo gyda gwahanol dasgau megis arwyddo mynychwyr mewn digwyddiadau a dosbarthu taflenni. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Coffi a sgwrsio / gwirfoddoli gyda grŵp cefnogi – Epilepsy Action


Byddwch yn trefnu cyfarfodydd grŵp anffurfiol yn fisol mewn lleoliad rheolaidd. Cysylltu â'r lleoliad i sicrhau fod yna amgylchedd groesawgar. O bryd i'w gilydd byddwch yn trosglwyddo gwybodaeth ddefnyddiol ar ran Gweithredu ar Epilepsi. Cysylltu â'r Rheolwr Gwasanaethau Lleol (LSM), i'w cadw'n hysbys ac adrodd yn ôl ar lefelau presenoldeb.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Tiwtor Gwirfoddol EPP Cymru – EPP Cymru


Mae EPP Cymru yn fenter GIG sydd yn cyflwyno cyrsiau am ddim i bobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd tymor hir a gofalwyr. Mae'n helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd er mwyn gwella ansawdd eu bywydau.

Rydym yn gyson yn chwilio am bobl i ymuno â'n tîm o diwtoriaid gwirfoddol i redeg ein cyrsiau yn y gymuned. Mae angen i bob gwirfoddolwr cael brofiad personol o fyw gyda chyflwr iechyd tymor hir neu o fod yn ofalwr ac mae'n rhaid cwblhau cwrs 6 wythnos fel cyfranogwr cyn ei hyfforddiant. Mi fydd hyfforddiant i gyflwyno'r cwrs yn cael ei ddarparu ac fydd treuliau parod yn cael eu had-dalu. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Codi Arian Prosiect Cymunedol – Y Gymdeithas Strôc


Ydych chi'n chwilio am gyfle hyblyg a chyffrous? A oes angen prosiect arnoch fydd yn cyfrif tuag at eich oriau gwirfoddoli ar gyfer cymhwyster Bagloriaeth Cymru neu gynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm? Os felly, yna gallai hyn fod yn gyfle delfrydol i chi!

Ymunwch â'r Gymdeithas Strôc i wirfoddoli drwy gynllunio, cynnal a gwerthuso eich digwyddiad codi arian eich hun. Bydd y cyfle gwirfoddoli hwn yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau rheoli digwyddiadau ac yn eich helpu i ddysgu sut i wneud y gorau o'ch adnoddau a'ch pherthnas gyda phobl eraill yn eich cymuned leol.

Gwnewch rhywbeth gwahanol heddiw a helpwch i godi proffil y Gymdeithas Strôc yng ngogledd Cymru fel y gallwn fod yno i gefnogi goroeswyr strôc a'u teuluoedd. Gyda'n gilydd gallwn goncro strôc!  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Ewch yn Binc! Gwirfoddolwr BCAM - Tenovus Cancer Care


Rydym yn chwilio am awr o'ch amser, neu fwy os fedrwch chi, mewn casgliad bwced yn eich ardal chi i annog pobl yn eich cymuned i sbario rhywfaint o'u newid.  Gallwn drefnu chi i fynd at eich casgliad agosaf neu gallwch chi drefnu un eich hun.  Beth am annog rhai o'ch teulu a ffrindiau i ymuno yn yr hwyl a chodi hyd yn oed mwy o arian?  Os nad yw casglu arian yn rhywbeth chi'n hoff ohono, peidiwch â phoeni! Gallwch barhau i gael hwyl a chodi arian gyda ni mewn ffyrdd eraill! Beth am drefnu 'gwisgo lan mewn pinc' neu 'pobi cacen binc' yn y gwaith neu'r ysgol? Gallwch wisgo mewn gwisg binc neu wisg ffansi, neu ganu cân - rydym am i chi gael hwyl wrth godi gymaint o arian ag y gallwch.  Cofiwch, po fwyaf fydd yr hwyl, mwyaf parod bydd y bobl yn teimlo eu bod am wisgo mewn pinc, ymuno a rhoi!  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Aelod Grŵp Codi Arian Y Bala - Tenovus Cancer Care


Cyfle cyffrous i chi (a'ch ffrindiau) i'n helpu i lansio grŵp Gofal Canser Cyfeillion Tenovus yn y Bala.

Daw ein grwpiau codi arian 'Ffrindiau' at eu gilydd i godi arian a chodi ymwybyddiaeth o'r gwaith a wnawn yn eu cymuned leol. Ni allwn wneud y gwaith yma i gefnogi cleifion canser a'u hanwyliaid heb gefnogaeth wych grwpiau Gofal Canser Cyfeillion Tenovus.  Ymunwch â ni gyda'ch creadigrwydd, egni a brwdfrydedd at godi arian i helpu a chefnogi pobl. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Casglwr Apel Mawr y Cenin Pedr Caernarfon - Marie Curie


Mae Marie Curie yn cynnal nifer o ddigwyddiadau casglu yn yr ardal fel rhan o'u Apêl Fawr Cennin Pedr . Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn gwahanol archfarchnadoedd ac ar y stryd fawr . Er mwyn gwneud y casgliadau hyn yn llwyddiant , rydym yn dibynnu ar bobl i wirfoddoli awr neu ddwy o'u hamser i sefyll gyda'r hambyrddau cennin Pedr a tun casgliad i godi arian fydd yn mynd tuag at cefnogi nyrsys Marie Curie lleol. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Garddwyr gwirfoddol – UdevelopIT CIC


Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig fyddai'n gallu ymrwymo i gynorthwyo i glirio a sefydlu gardd cegin fawr ar Stad y Faenol, Bangor. Mae'r ardal ar hyn o bryd wedi gor dyfu a bydd y gwaith cychwynnol  yn cynnwys clirio  a pharatoi ar gyfer ardal tyfu planhigion/llysiau. Nid oes angen profiad blaenorol ond byddwn yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd gyda profiad yn y maes hwn.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

07/09/2017

Cadeirydd Grŵp Codi Arian (18+) – Marie Curie


Bydd Grwpiau Codi Arian yn trefnu casgliadau a digwyddiadau codi arian ac annog y gymuned leol i gefnogi Gofal Canser Marie Curie. Trwy eich arweinyddiaeth, bydd y grŵp yn gwneud y gorau o bob cyfle i godi arian yn eich ardal. Byddwch yn helpu i greu tîm codi arian cydlynol sy’n canolbwyntio ar godi cymaint ag y gellir o arian ar gyfer Gofal Canser Marie Curie. Mae angen i chi:

• Helpu’r Grŵp i gynllunio a threfnu calendr o ddigwyddiadau codi arian.

• Arwain y grŵp yn ei holl weithgareddau.

• Annog pobl i gefnogi Gofal Canser Marie Curie, a sefydlu a chynnal perthnasau â chefnogwyr lleol.

• Recriwtio a chroesawu aelodau newydd i’r grŵp pan fydd angen.

• Cadeirio cyfarfodydd y grŵp gan sicrhau y caiff pob safbwynt ei ystyried.

• Cadw’r cyfarfod yn drefnus a sicrhau fod y penderfyniadau a’r camau gweithredu yn glir i holl aelodau’r grŵp.

• Hysbysu’r Swyddog Codi Arian Cymunedol am weithgareddau’r grŵp a chael cymeradwyaeth i gynnal digwyddiadau.

• Ymateb i ymholiadau'r cyhoedd. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cydlynydd Casglu Arian - yn eich pentref neu dref – Marie Curie


Byddwch yn synnu faint o arian sy'n cael ei roi trwy flychau casglu o fewn y gymuned leol. Fel Cydlynydd Casglu Arian, chi fydd yn gyfrifol am eich rhwydwaith eich hun o flychau yn eich ardal leol - boed mewn siop leol neu ganolfan hamdden. Po fwyaf o flychau gallwch osod a chasglu, y mwyaf o arian y byddwch yn codi ar gyfer Marie Curie.

Fel Cydlynydd Casglu Arian byddwch yn ymweld â safleoedd sy'n bodoli eisoes ychydig o weithiau y flwyddyn i gyfnewid tuniau llawn ar gyfer rhai gwag ac yn defnyddio eich gwybodaeth leol i chwilio am leoliadau newydd. Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y Apêl Fawr Cennin Pedr ym mis Mawrth, trwy helpu i osod a chasglu blychau cenin pedr.

Boed yn dun casglu neu flwch cennin pedr, y cam nesaf yw cyfrif a bancio y rhoddion a chwblhau'r gwaith papur angenrheidiol. 

Mae'r rôl hon yn hyblyg ac yn amrywiol, gallwch drefnu eich amser fel bod eich gwaith gwirfoddol cyd-fynd â'ch bywyd. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Casglwyr Archfarchnadoedd – Marie Curie


Apêl at unigolion neu grwpiau o bobl i rhoi awr neu ddwy o'u hamser i ddod draw i'n Apêl Fawr Cennin Pedr, casgliadau Haf a Nadolig, ac yn cael eu cynnal yn yr archfarchnadoedd lleol a'r strydoedd mawr. 

Byddwn yn rhoi gwybod i'r casglwyr am y dyddiadau a lleoliadau sydd ar gael. 

Mae'r holl ddeunyddiau sydd eu hangen i gymryd rhan yn y casgliad ar gael yn y safleoedd casglu gan gynnwys tun casglu / bwced, cennin pedr neu sticeri,  tabard casglwyr a het. 

Mae'n ofynnol i'r casglwr sefyll mewn man penodedig a sicrhau eu bod ar gael i dderbyn rhoddion gan bobl sy'n mynd heibio ac iddynt dderbyn Daffodil Marie Curie neu sticer. 

Mae'r holl arian a godir yn lleol yn cael ei ddefnyddio yn lleol i gefnogi  gwasanaeth nyrsio Marie Curie. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwyydd Sesiynau Hwyl - Cynnal Gofalwyr


Mae Cynnal Gofalwyr yn fudiad sy'n cefnogi rhieni a gofalwyr dros 18 oed yn ardal Gogledd Gorllewin Cymru. 

Mae angen gwirfoddolwyr i helpu yn ystod ein sesiynau gweithgareddau. 

Byddwch yn y sesiynau hyn yn cefnogi rhieni a phlant / pobl ifanc ag anghenion ychwanegol. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys crefft, chwarae a chynnig cefnogaeth a gwybodaeth. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cefnogwr ‘Speak UP’


Cefnogi ac annog pobl hŷn sy’n agored i niwed i gael yr hyder i siarad drostynt eu hunain mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd gan gynnwys cartrefi nyrsio a phreswyl, cartrefi lloches a llety gofal ychwanegol.  Annog ystwythder a hunan-barch ac annog sgiliau hunan eiriolaeth.  Cefnogi pobl hŷn er mwyn sicrhau bod eu hanghenion, eu hawliadau a'u dymuniadau yn cael eu hategu. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Gofal Arthritis Cymru


Gwirfoddolwch gyda Gofal Arthritis a byddwch yn rhan o dîm sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl sydd ag arthritis yng Nghymru. Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau newydd, cael hwyl a chwrdd â phobl newydd. 

Gallwch wirfoddoli drwy gyfrannu ychydig o oriau neu fwy y mis. Fel gwirfoddolwr, gallwch ddewis i gymryd rhan mewn un neu fwy o'n gwasanaethau, er enghraifft, darparu stondinau gwybodaeth mewn lleoliad lleol,  rhedeg gweithgareddau ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd gan hyrwyddo sgiliau hunanreoli ac ymarfer corff, rhedeg grŵp cymorth lleol neu cymryd rhan yn ein gweithgareddau ymgyrchu. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Aelod Tim - Dysgu pobl sut i ddefnyddio'r we – Citizens Online


Mae angen gwirfoddolwyr i helpu redeg sesiynau galw heibio - ble gall aelodau o'r cyhoedd alw draw am gyngor neu help gyda phroblem ddigidol - sut i fynd ar-lein, defnyddio peiriannau chwilio, e-bost a defnydd cyffredinol. Nid ydym yn chwilio am ddewiniaid technegol, ond pobl sy'n mwynhau helpu pobl eraill, ac wedi meistroli defnydd cyffredinol o'r rhyngrwyd. Byddwch yn rhan o dîm a fydd yn rhoi awr neu ddwy o'ch amser yn y gymuned i ateb ymholiadau cyffredinol ac i gynnig cymorth gyda phroblemau sylfaenol y daw dechreuwyr ar eu traws. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com