Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

31/01/2018

Cymorth TG – AbilityNet




Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am wirfoddolwyr cymorth TG i ymuno â Abilitynet a all helpu yn rhanbarth y gogledd.



Mae'r rôl cymorth TG yn cynnwys galwadau i gartrefi pobl neu ganolfan gymunedol i helpu i uwchraddio, atgyweirio, addysgu'r defnydd o offer TG o gyfrifiaduron, Laptop, ffonau symudol a, Smartphones ac ati.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cludiant Cymunedol – Royal Voluntary Service




Mae gwirfoddolwyr yn defynddio ceir ei hunain i gludo pobl hyn lleol i'w helpu fyw yn annibynol yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys darparu cludiant i apwyntiadau meddygol, grwpiau neu glybiau, i'r siop lleol neu i ymweld a theulu a ffrindiau.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 17+.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwydd Gwerthu Elusennol – Ty Gobaith


Rydym yn chwilio am:



Cynorthwyr Gwerthu

Pencampwyr Loteri

Trefnwyr Llawr Siop

Rhywun sydd yn hoff o lyfrau

Proseswyr Stoc

Rhannu sgiliau a phrofiad sydd gennych eisoes, cadw'n brysur, defnyddio'ch amser mewn ffordd adeiladol a buddiol, adeiladu'ch hyder mewn gwasanaethau cwsmeriaid, dysgu a datblygu drwy ein rhaglen sgiliau manwerthu, gallwch wneud oriau gwirfoddoli ar gynllun Duke of Edinburgh, ennill profiad gwaith gwerthfawr, gwella ceisiadau prifysgol, gwneud ffrindiau newydd, CAEL HWYL!!  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 14+.


Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Arweinydd grwp - Coed Cadnant (Caernarfon) - Woodland Trust




Fel arweinydd byddwch yn arwain tim o wirfoddolwyr ar dasgau ymarferol o fewn y safle coed yn unol â chynllun rheoli ac fel y cytunwyd gyda'r Arweinydd Gweithgor Coetir a'r Rheolwr Gwirfoddolwyr.

Nodau allweddol y rôl yw:

• Arwain a threfnu'r grŵp ar ddiwrnodau gwaith coetir i gyflawni tasgau allweddol

• Cydlynu gyda’r Rheolwr Gwirfoddoli o ran amserlen o weithgareddau ac yn cysylltu gyda'r aelodau gweithgor coetir yn ôl yr angen

• Cofnodi a rhoi adborth i’r Rheolwr Gwirfoddoli ar weithgareddau ac awgrymiau y grŵp

• Arwain y grŵp i gadw at bolisïau a gweithdrefnau allweddol Coed Cadw fel, ond nid yn unig: Iechyd a Diogelwch; Diogelu; Canllawiau Gweithgor Coetir ayyb.

Mae hon yn rôl arweinyddiaeth gwirfoddolwr a fydd yn cyfrannu at y strategaeth Coed Cadw. Fel arweinydd y grŵp byddem yn disgwyl i chi rhyngweithio’n rheolaidd gyda'ch Rheolwr Gwirfoddolwyr enwebedig, a fyddai yn y rhan fwyaf o achosion yn rheolwr safleoedd Coed Cadw. Mae'r rôl hon yn cefnogi eich coetir lleol.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Aelod gweithgor coetir – Coed Cadnant (Caernarfon)




Byddwch fel aelod o'r gweithgor coetir  yn rhan o dim o wirfoddolwyr ar safle Coed Cadnant. Pwrpas y rôl yw cynorthwyo gyda chynnal a chadw, gofal a chadwraeth y safle o fewn canllawiau asesiadau risg ac i gefnogi amcanion y cynllun rheoli safle.



Nodau allweddol y rôl yw:

• Cefnogi cyd-wirfoddolwyr ar ddiwrnodau  i gyflawni tasgau allweddol

• Defnyddio offer a chyfarpar yn ôl yr angen o fewn canllawiau iechyd a diogelwch, bydd hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu gan Arweinydd Weithgor Coetir neu'r  Rheolwr Gwirfoddolwyr

• Gweithio ar dasgau yn dilyn arweiniad yr Arweinydd Gweithgor Coetir a Rheolwr Gwirfoddolwyr

• Gweithio o fewn polisïau a gweithdrefnau Coed Cadw, fel, ond nid yn unig: Iechyd a Diogelwch; Diogelu; Canllawiau Gweithgor Coetir a ddarperir gan Arweinydd Weithgor Coetiroedd neu'r Rheolwr Gwirfoddoli ayyb

•Cyfrannu syniadau ar sut i wella’r ardal ar gyfer y gymuned


Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Gwrando - Samariaid Bangor – Samariaid




Darparu cymorth emosiynol cyfrinachol i bobl sy’n cael teimladau o drallod neu anobaith, gan gynnwys y rhai a all arwain at hunanladdiad. Darparu cymorth dros y ffôn, wyneb yn wyneb, trwy neges e-bost, llythyr, SMS a pha bynnag ffordd arall o gyfathrebu a gaiff ei mabwysiadu gan y Samariaid.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Stiwardiaid gwirfoddol – Pontio



-Sicrhau diogelwch a chysur cyffredinol ein cwsmeriaid/cynrychiolwyr

-Gwirio tocynnau a chyfarwyddo cwsmeriaid i'w seddi menw modd cwrtais a phroffesiynol

-Stiwardio cyffredinol ar gyfer cynhadleddau a digwyddiadau

-Cynorthwyo gyda gwagio'r adeilad ar frys a sefyllfaoedd argyfwng eraill

-Gwerthu rhaglenni, deunydd marchnata

-Cynorthwyo yn yr ystafell gotiau

-Dyletswyddau glanhau cyffredinol

-Sicrhau bod yr holl ddyletswyddau yn cael ei cyflawni'n unol â'r daprariaethau statudol a safonau polisi iechyd a diogelwch y Brifysgol

-Bod yn wybodus am yr adeilad a'r perfformiadau Pontio yn ogystal â digwyddiadau sydd i'w ddod.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Uwch Wirfoddolwr – Storiel



Cyfle cyffrous ac unigryw i unigolyn neu dîm bychan i wneud gwahaniaeth go iawn i brofiad ymwelwyr i Storiel, bod yn rhan o’r tîm ac i ddysgu am weithio gyda gwirfoddolwyr. Bydd hyfforddiant ar gael a chefnogaeth i weithredu’r cynllun.

Bydd yna gyfle i fod yn greadigol, unai gyda syniadau neu dylunio- neu’r ddau!

Gall y tasgau newid o ddydd i ddydd, ond yn gyffredinol:

           Hysbysebu am wirfoddolwyr

           Defnyddio cyfryngau cymdeithasol

           Bod yn rhan o dîm i feddwl am ddulliau newydd i ddenu gwirfoddolwyr

           Croesawu a chefnogi gwirfoddolwyr newydd

           Cyfweld gwirfoddolwyr gyda’r Cydlynydd

           Casglu data e.e. oriau gwirfoddolwyr

           Ymgynghori gyda eraill ar sut gallent gymryd mwy o ran yn Storiel.



Os ydych eisiau profiad o gydlynnu gwirfoddolwyr ar eich CV, gall hwn fod y rôl perffaith i chi!  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Angen Cynorthwywyr Adwerthu – Tenovus


Mae ein gwirfoddolwyr manwerthu yn ein helpu i wneud y gwaith yn bosib, ond mae angen mwy o wirfoddolwyr arnom i roi ychydig o'u hamser fel y gallwn helpu mwy o bobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser.



Mae yna nifer o gyfleoedd gwirfoddoli yn ein siopau. Gallwch ddewis un o'r rhestr isod neu roi cynnig ar gymaint yr hoffech chi:

* Cynorthwyydd Gwasanaeth Cwsmeriaid

* Casglwr Nwyddau a Roddwyd

* Ffrind Gyrrwr

* Cynorthwyydd Gwerthu Arweiniol

* Cynorthwyydd Codi Arian i'r Siop

* Cynorthwyydd Paratoi Stoc

* Cynorthwyydd Gwerthu Gweledol



Mae’r cyfleoedd yma yn addas i bobl oed 16+.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd Siop – Hospis Dewi Sant, Porthmadog




I gynorthwyo yn ein siop Hosbis Porthmadog, ailgyflenwi stoc, gweithio ar y til a chynorthwyo cwsmeriaid.



Mae gan Hosbis Dewi Sant rwydwaith o siopau ar draws Gogledd Orllewin Cymru, gwerthu dillad ail-law, bric a brac a dodrefn o ansawdd da.  Er ein bod yn elusen, rydym yn rhedeg ein siopau fel y busnesau bach.  Diolch i'r gymuned am y gefnogaeth parod bob amser, mae'r siopau Hosbis yn cynhyrchu ffrwd hanfodol o incwm a chynaliadwy i'r Hosbis.  Mae llwyddiant ein siopau yn dibynnu ar haelioni rhoddion o ansawdd rhagorol gan y cyhoedd.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Achubiwr Bywyd dan Hyfforddiant - Hamdden Harlech & Ardudwy

I gynorthwyo athrawon + achubwyr bywyd ofalu am yr offer.Hyfforddi nofio ac hefyd y cyfle i wella eich hun wrth wneud cwrs NPLQ os ydyw safon nofio yn cael eu gyraedd.  Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 16+. 


Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

24/01/2018

Gwirfoddolwr/wraig Siop Elusen - Tywyn – Y Groes Goch Brydeinig


A allwch chi neilltuo ychydig oriau yn ystod yr wythnos neu ar ddydd Sadwrn? A ydych chi wrth eich boddau â ffasiwn neu ddodrefn? A hoffech chi ennill Tystysgrif mewn Sgiliau Manwerthu wrth ichi wirfoddoli?



Yna, pan nad ymunwch â’n tîm o wirfoddolwyr Y Groes Goch Brydeinig? Yn ogystal â didoli a threfnu ein rhoddion i ddod o hyd i eitemau sy’n addas ar gyfer ardal ffasiwn neu ddodrefn benodol o’r siop, cewch gyfle i greu arddangosfeydd cyffrous neu efallai ddatblygu ardaloedd newydd, megis ardal retro. Trwy weithio fel rhan o dîm gallwch wneud ffrindiau newydd, ennill profiad gwaith gwerthfawr a gwneud gwahaniaeth yn y DU.  Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 15+.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Prosiect – Ein Rhwydweithiau Cymdeithasol – Mencap


Yn eich rôl fel gwirfoddolwr byddwch yn gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu ac yn helpu i ddehongli a rhannu straeon pwysig ar y thema gyfeillgarwch a pherthnasoedd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.

Gall hynny gynnwys:

  Mynychu gweithdai misol.

  Mynychu grŵp ar gyfer pobl ag anableddau dysgu er mwyn cwrdd â phobl arall sy’n cyfrannu at y prosiect.

  Gwrando ar straeon cyn pob gweithdy a meddwl am y ffordd maen nhw’n gwneud i chi deimlo a beth sy’n gwneud y stori’n bwysig.

  Rhannu unrhyw sgiliau a gwybodaeth sydd gennych allai fod yn berthnasol i’r prosiect.

  Helpu i gynllunio a hyrwyddo’r arddangosfeydd dros dro a gwasgaredig.

  Staffio ein arddangosfeydd dros dro a gwasgaredig.



Hoffem petaech yn mynychu ein cyfarfodydd gwirfoddolwyr misol am oddeutu 2-3 awr ar ddydd Sadwrn. Cynhelir y cyfarfodydd mewn amgueddfeydd yn y pedair tref benodol, felly rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n byw yn ardal Bangor


Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Ras am Fywyd 2018 (Caernarfon)




Pa bynnag amser neu sgiliau sydd ganddoch, mae gennym ni'r rôl berffaith i chi. Dewch â'ch egni, eich gwen a'ch angerdd i'r digwyddiad yma a gadewch i ni guro canser yn gynt gyda'i gilydd.

Dewch i helpu trwy wirfoddoli yn y digwyddiad 5k ym Mharc Coed Helen yng Nghaernarfon ar 20fed Mai 2018.  Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 16+. 
Am ragor o wybodaeth am y rolau sydd ar gael drwy wirfoddoli, cliciwch yma: 
https://raceforlife.cancerresearchuk.org/about-our-events/volunteer

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
............................................

Gwirfoddolwyr Dysgu Gyda'n Gilydd




Bydd gwirfoddolwyr yn rhoi cymorth i ddisgyblion am awr neu ddwy bob wythnos, mewn ysgolion neu leoliadau yn y gymuned, gwrando arnynt yn darllen, rhoi help ychwanegol gyda Mathemateg neu bynciau eraill. Cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau eraill fel garddio, coginio, drama a gweu. Y peth pwysig yw’r rhyngweithio rheolaidd personol (sy’n cael ei arolygu bob amser gan athrawon neu staff). Gall 10 munud y diwrnod yn unig yn gwrando ar blant yn darllen wneud gwahaniaeth mawr i’w gallu a’u hyder cyffredinol.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

11/01/2018

Gwirfoddolwr Gwasanaeth Byw'n Annibynnol – Y Groes Goch Brydeinig


Yn y DU, mae gwasanaethau Byw'n Annibynnol yn ymateb i anghenion a dymuniadau defnyddwyr gwasanaeth sydd mewn argyfwng. Rydym yn cynnig 'un pwynt cyswllt' i helpu defnyddwyr y gwasanaeth i gael mynediad at gyfres o wasanaethau, mae popeth mewn un pecyn yn ôl yr angen a gofynnol. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o faterion gan bobl sy'n gwella o salwch, llawfeddygaeth neu ddamwain, a rhai sy'n brwydro gyda digwyddiad newid bywyd.



Fel gwirfoddolwr Gwasanaeth Byw'n Annibynnol, y prif nod yw galluogi defnyddwyr y gwasanaeth i adfer o'u hargyfwng a chael cymorth ymarferol ac emosiynol. Gwirfoddolwr y Gwasanaeth Byw'n Annibynnol fydd y 'pwynt cyswllt' ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth a bydd yn eu galluogi i gael mynediad at y gwasanaethau y mae eu hangen arnynt i leddfu'r argyfwng a symud ymlaen â'u bywydau.



Bydd y gwirfoddolwr yn helpu'r bobl i fyw mor annibynnol ag y gallant yn eu cartrefi, gan adeiladu perthynas ymddiriedol a'u helpu i adennill eu hyder a'u lles.

  

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Mentor i Oedolion - SOVA Cymru




Rôl fentora, gan weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth Sova ACE (oedolion o'r cymunedau BME a Mudol lleol). Bydd y gwirfoddolwyr yn cael eu paru gyda'r defnyddiwr y gwasanaeth yn ôl eu sgiliau a'u diddordebau. Bydd y gwirfoddolwr yn gweithio gyda'r unigolyn, i greu perthynas mentora sy'n canolbwyntio ar nod. Bydd gwirfoddolwyr yn cefnogi'r unigolion i gael gwaith, hyfforddiant neu i wirfoddoli.

Gwirfoddolwyr sydd â'r gallu a'r cymhelliant i fentora unigolion, i gael gwaith, hyfforddiant neu wirfoddoli. Cynigir hyfforddiant a chymorth achrededig i'r holl wirfoddolwyr.



Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr/aig garddio – Plas Brondanw




Cynorthwyo gyda dyletswyddau garddio cyffredinol gan gynnwys plannu, bwydo, chwynnu, tocio, lluosogi, torri gwair ac ati mewn gardd hanesyddol diddorol a phwysig iawn.



Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr llinell gymorth (cyfle i ferched yn unig) - Welsh Women's Aid




I ddarparu gwasanaeth gyfrinachol, gwybodaeth a chyfeirio ymlaen dros y ffôn i bobl sy’n dioddef camdriniaeth yn y cartref a thrais rhywiol yn ogystal â’r rhai sy’n cysylltu ar eu rhan.



Gwerthuso a lleihau y risg i alwyr sy’n dioddef o gamdriniaeth yn y cartref a thrais rhywiol.



Cyfeirio galwyr at wasanaethau cefnogol addas gan ddefnyddio system chwilio am loches Cymorth i Ferched fel mae angen.



Cynnal gwybodaeth cywir ar alwadau a dderbynir a chadw at reolau cyfrinachedd a’r Ddeddf Diogelu Data.



Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Banc Llais – Cymdeithas Motor Niwron




Mae'r rôl hon yn bwysig gan y byddwch yn cefnogi pobl sy'n byw gyda MND i gofnodi rhestr o ymadroddion drwy lais eu hunain, tra bod ganddynt y gallu i wneud hynny. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm o staff lleol a rhanbarthol i ddarparu i beilotio'r gwasanaeth cymorth bancio llais ar gyfer y Gymdeithas.



Yn ddelfrydol, rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu rhoi tua 2 - 4 awr y mis i roi cymorth, cynllunio a gohebu. Cewch hyfforddiant ac anwythiad llawn.



Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Mentor / cyfaill gwirfoddol (SOVA ACE Cyflawni Newid trwy Gyflogaeth)



Rydym yn chwilio am fentoriaid gwirfoddol i weithio gyda'n cleientiau i oresgyn unigedd cymdeithasol a chynyddu integreiddio o fewn y gymuned. Mae llawer o'n cleientiau yn gwynebu rhwystrau ieithyddol a diwylliannol wedi iddynt symud i fyw neu wedi derbyn lloches yma yn y DU. Rôl y gwirfoddolwyr fydd cefnogi'r cleientiau i oresgyn y rhwystrau hyn drwy gyfeillio a chwrdd gyda nhw yn reolaidd mewn lleoliadau anffurfiol (e.e caffi) i ddarparu cefnogaeth a chyfle i gymdeithasu.



Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Digwyddiadau -Gogledd Orllewin Cymru – Sustrans

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr digwyddiadau a all helpu pobl i fod yn fwy egnïol drwy gerdded neu feicio ar gyfer eu siwrneiau bob dydd.

Fel gwirfoddolwyr gallwch ddewis pa weithgareddau gwirfoddoli y byddwch yn eu trefnu neu’n cymryd rhan ynddynt. Mae gweithgareddau'n cynnwys:

           cynnal stondin wybodaeth
           trefnu teithiau cerdded neu feicio i grwpiau
           creu arddangosfa wybodaeth
           trefnu clinigau cyngor teithio
           rhoi sgyrsiau, sefydlu grwpiau defnyddwyr beic neu grwpiau cerdded
           neu, os oes gennych eich syniadau eich hun ar gyfer gweithgareddau gall y tîm cefnogi hyrwyddwyr weithio gyda chi i’w datblygu.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cyffredinol – Kids in Museums


Mae Kids in Museums yn elusen annibynnol sydd wedi’i hymroddi i wneud amgueddfeydd yn fannau agored a chroesawgar i bob teulu, yn arbennig y rheiny sydd heb ymweld o’r blaen.



Mae Kids in Museums Manifesto, Family Friendly Museum Award sy’n croesawu teuluoedd a Takeover Days wedi bod yn hynod lwyddiannus o annog a thywys amgueddfeydd, orielau ar draws y wlad i wneud ymweliadau’n hwyliog ac yn ddiddorol i deuluoedd.



Mae gan Kids in Museums wirfoddolwyr drwy Brydain gyfan. Mae 40 o bobl ar ein tîm o wirfoddolwyr ar hyn o bryd ac yn tyfu drwy’r amser. Gallwch ganfod rhagor am ein gwirfoddolwyr yma; kidsinmuseums.org.uk/about/volunteers



Mae ein gwirfoddolwyr yn cael cyfrifoldebau sy’n cefnogi ein gwaith ac mae rolau yn cynnwys:

• Gwneud adolygiadau

• Cymorth gyda digwyddiadau

• Rhwydweithio a hybu Kids in Museums mewn digwyddiadau



Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Ceidwad gwirfoddol - Gogledd Orllewin Cymru - Sustrans


Beth am wirfoddoli gyda ni i ofalu am ran o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn eich ardal. Disgwylir i chi gyflawni tasgau megis gwirio arwyddion ar goll neu eu torri a'u disodli, tacluso a chlirio llystyfiant gan roi gwybod am unrhyw faterion pwysig ar y llwybrau, mynychu diwrnodau gwaith grŵp. Mae yna lawer o gyfleoedd hefyd o fewn y rôl i helpu i hyrwyddo cerdded a beicio yn eich cymuned leol trwy weithgareddau megis mynychu digwyddiadau ac arwain teithiau cerdded a beicio.

         

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr newydd lleol sy'n brwdfrydig ac sy'n defnyddio'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rheolaidd . Gofynnir i chi wirio'ch rhan o'r llwybr unwaith y mis ac adrodd yn ôl.



Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Ar-lein i ysgrifennu disgrifiadau lleoliad - See Around Britain




Mae View Around Britain yn elusen sy'n cael ei redeg gan yr anabl ac wedi'i leoli ger Caerfyrddin. Mae ei gwefan ac app gwe https://seearoundbritain.com yn darparu lluniau arloesol drwy ddefnyddio GPS ac yn rhoi gwybodaeth hanfodol ar gyfer preswylwyr, twristiaid a theithwyr. Mae'n cynnig gwybodaeth fanwl gynhwysfawr ar gyfer defnyddwyr ac yn dangos lluniau manwl i'r lleoliadau ar gyfer ymwelwyr anabl. Bydd angen i wirfoddolwyr ysgrifennu disgrifiadau i'r lleoliadau yma drwy ddefnyddio templed lleoliad safonol gyda chanllawiau a chefnogaeth yr elusen. Gellir gwneud hyn ar-lein yn amser ei hunain o gartref gan y gwirfoddolwr gyda chymorth rheolaidd gan yr elusen trwy e-bost a Skype. Cysylltwch â support@seearoundbritain.com ac am ragor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli, gweler https://seearoundbritain.com/about-us.



Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com