Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

29/09/2015

Cynorthwy-ydd Gwirfoddol Caffi (16+) - GISDA

Mae hwn yn brosiect sydd wedi ei gyllido gan grant Miliynau’r Bobl Cronfa’r Loteri Fawr, i ddatblygu canolfan hyfforddiant i bobl ifanc er mwyn dysgu sgiliau newydd a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen i waith cyflogedig yn y maes arlwyo.
Mae’r rôl gwirfoddolwyr yn gofyn iddynt wneud amrywiaeth o dasgau yn y gegin / caffi i sicrhau profiad rhagorol i gwsmeriaid. Gweini cwsmeriaid, paratoi bwyd a diod, glanhau byrddau a chadw’r caffi yn lan, defnyddio til wrth weithio mewn tîm effeithiol gyda gwirfoddolwyr eraill ag staff.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gweinyddydd TG Y Panel Dinasyddion- Bae Colwyn - CVSC 18+

•Gweithio gyda Chydlynydd y Panel Dinasyddion a thîm staff CVSC a’r gwirfoddolwyr  
•Datblygu arolygon ar-lein chwarterol ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd
•Datblygu a diweddaru bas data’r Panel Dinasyddion
•Sefydlu system ar gyfer casglu ymatebion i’r arolwg
•Rhannu gwybodaeth â phartneriaid eraill ledled Gogledd Cymru


Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Ymgysylltwyr Y Panel Dinasyddion (18+) - CVSC (Community and Voluntary Support Conwy)

Beth yw’r Panel Dinasyddion?
•Menter newydd gyffrous sydd wedi’i sefydlu fel sail i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol ac i ddylanwadu arnynt. 
•Caiff ei reoli’n annibynnol ac yn ddiduedd gan wasanaethau gwirfoddol ledled Gogledd Cymru.

Mae arnom angen siarad â phobl yn eich cymunedau chi na fyddent yn lleisio eu barn fel rheol - ac mae arnom angen eich help chi i ddod o hyd iddyn nhw!
Disgrifiad o’r Gweithgareddau Gwirfoddoli:
•Gweithio mewn tîm, mewn lleoliadau amrywiol yn y gymuned         
•Mynd at aelodau’r cyhoedd a sgwrsio gyda nhw
•Esbonio rôl y Panel Dinasyddion           
•Ennyn diddordeb a hyder y cyhoedd                  
•Cael aelodau’r cyhoedd i ddod yn gyfranogwyr brwd ar y Panel Dinasyddion


Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd siop (amryw o gyfleoedd) - British Heart Foundation

Yn hoffi siopau a manwerthu? Mae siop elusen British Heart Foundation yng Nghaernarfon yn awyddus i recrwitio gwirfoddolwyr i helpu yn eu siop. Mae nifer o rolau ar gael gan gynnwys gweithio ar y til,  stocio ar lawr y siop, prosesu stoc, cynorthwy-ydd eBay, prisio lyfrau / cerddoriaeth ac adloniant / ategolion / brac n bric a llawer llawer mwy!

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr/wraig gweinyddol - Shelter Cymru

Mae Shelter Cymru yn chwilio am wirfoddolwr/wraig gweinyddol yn y swyddfa.  Rhai o'r tasgau: •Gwneud ffeiliau cleientiaid
• Mewnbynnu data ar Casetrack
• teipio awdio / teipio
• Ateb y ffôn
• Gweithio ar ddesg y dderbynfa
• Archifio
• Gweithgareddau eraill fel y cytunwyd gyda staff


Diddordeb?  Cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cyfle i gloddio - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn cloddio yng ngweithle Boston Lodge Rheilffordd Ffestiniog ag Eryri, Minffordd o Ddydd Mawrth 6ed Hydref tan Ddydd Gwener 16eg Hydref ac angen gwirfoddolwyr i helpu. Mi fydd y gwaith yn cynnwys cloddio, glanhau a chofnodi dwy sied powdwr gwn a hefyd ardal o iard lle'r oedd storfa a siop saer coed.
Nodwch bod y gyllideb gyfyngedig felly yn anffodus mi fydd dim ond ychydig bach o arian ar gyfer hawlio treuliau. Hefyd, tro ‘ma ni fydd gennym ddigon o adnoddau i gefnogi gwirfoddolwyr sydd heb unrhyw brofiad o wirfoddoli.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

22/09/2015

Gwirfoddoli mewn Shop/Canolfan Wybodaeth - Antur Stiniog

Rhoddi gwybodaeth i'r ymwelwyr am leoliadau lleol i ymweld a hwy.  Eu cyfeirio i beth maent eu hangen.  Cynorthwyo yn y siop, gwerthu nwyddau.  Rhoddi allan  y cynyrch.  Cadw y siop yn lan a thaclus.

Am fanylion pellach cysylltwch efo Mantell Gwynedd ar 01341 422575 neu annfleming@mantellgwynedd.com

17/09/2015

Ymddiriedolwr - Yapp Charitable Trust

Rydym yn chwilio am ymddiriedolwyr gyda phrofiad cyfredol o weithio (neu wirfoddoli) mewn cymunedau gwledig ac sydd â diddordeb mewn cefnogi elusennau bach sy'n anelu at wella bywydau pobl ddifreintiedig. Byddwch yn helpu i lywio cyfeiriad strategol yr Ymddiriedolaeth ac yn gwneud penderfyniadau ar ddosbarthu yn effeithiol ein hadnoddau cyfyngedig fel grantiau i elusennau bach yng Nghymru a Lloegr.

Yn ddelfrydol bydd gennych brofiad o fwy nag un o'n grwpiau blaenoriaeth (a restrir ar ein gwefan yn
www.yappcharitabletrust.org.uk)
Mae Ymddiriedolwyr presennol wedi eu lleoli yn Llundain, Gorllewin Lloegr, De Orllewin Lloegr a Gogledd Orllewin Lloegr. Byddwn yn ddelfrydol yn hoffi ymddiriedolwr newydd i ddod o Gymru.

Lleoli'r cyfle o'ch cartref gyda theithio i Lundain 3-4 y flwyddyn ar gyfer cyfarfodydd yr Ymddiriedolwyr.  Bydd costau teithio yn cael ei ad-dalu.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

04/09/2015

Hwylusydd Grŵp Ffôn - Amser i Siarad Cymru - RNIB

Allech chi helpu i sefydlu awyrgylch gyfeillgar a chefnogol ar gyfer grŵp ffôn a chyflwyno gwybodaeth o sgript? Mae ein grwp ffon wythnosol Amser i Siarad yn cyfarfod dros y ffôn yn ystod oriau swyddfa ble mae cyfranogwyr sydd wedi colli golwg yn rhannu eu profiadau. Ymunwch â ni i helpu pobl hŷn i dderbyn cefnogaeth a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Casglwyr arian - RNIB

Allech chi ymuno â ni am ychydig o oriau i godi arian ar gyfer RNIB yn eich siop Tesco leol dros yr ychydig fisoedd nesaf?
Mae casgliadau yn ffordd hwyliog a chymdeithasol er mwyn helpu i wneud pob dydd yn well i bobl sydd wedi colli'u golwg.


Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

03/09/2015

Gwirfoddolwr Cefnogi Cymorth Cyntaf mewn Digwyddiadau - Y Groes Goch

Ein nod yw darparu cymorth cyntaf, i achub bywyd yn achlysurol, i’r rheini sydd angen help mewn digwyddiadau cyhoeddus a chefnogi’r gwasanaeth ambiwlans
Allech chi ein helpu ni i wneud hyn?
Allech chi ein cynorthwyo ni i ddarparu cymorth cyntaf mewn digwyddiadau ledled Cymru?
Fel Gwirfoddolwr Cefnogi Cymorth Cyntaf mewn Digwyddiadau byddwch:

•Yn helpu i osod y safle cymorth cyntaf a’i dynnu i lawr
•Yn helpu gyda gohebu, gweinyddu, logisteg ac arlwyo
•Yn cysgodi gwirfoddolwyr Cymorth Cyntaf mewn Digwyddiadau i ddysgu sut maent yn gweithredu
•Yn mynychu cyfarfodydd cymorth cyntaf lleol rheolaidd


Ar ôl ymrwymo am 6 mis gallwch symud ymlaen i fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf mewn Digwyddiadau, sy’n golygu gweinyddu cymorth cyntaf i’r rheini sydd mewn angen (yn amodol ar addasrwydd a gallu)
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Ymgyfeilliwr dros y ffon - GOFAL. Y Groes Goch

Gwasanaeth ymgyfeillio a galluogi sy’n cael ei ddarparu ar gyfer pobl dros hanner cant oed yng Nghymru yw GOFAL. Nod y gwasanaeth yw lleihau unigrwydd a hybu rhyngweithio cymdeithasol a lles emosiynol. I rai cleientiaid gall galwadau ffôn helpu yn hyn o beth.
Mae tasgau cyffredin yn cynnwys:

•Cynnig clust i wrando a llais cyfeillgar ar y ffôn
•Cadw cofnodion cyfredol a logiau galwadau ac ati
•Cyfeirio at unrhyw wasanaethau perthnasol eraill
Gan gofio am gyfrinachedd, pasio unrhyw bryderon ymlaen neu dynnu sylw’r Rheolwr at unrhyw faterion addas

Am fwy o fanylion am y cyfle yma, ffoniwch Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu ebostiwch gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

01/09/2015

Trefnydd Cefnogaeth mewn Caffi yn y Gymuned - Y Gymdeithas Strôc

Bydd Trefnwyr Cefnogaeth Caffi yn y Gymuned yn cynnig cymorth a chyngor i oroeswyr stroc, eu teuluoedd au gofalwyr, mewn lleoliad lleol lle gall pobl sydd wedi goresgyn strôc brynu eu bwyd a'u diod eu hunain. Bydd hyn yn helpu i leihau unigrwydd cymdeithasol a gwella hyder a hunan-barch yr unigolion sydd wedi goroesi. Gall y gwirfoddolwyr drefnu amrywiol weithgareddau yn y lleoliad neu wahodd unigolyn arall i ddod i wneud gwaith crefft neu roi sgwrs.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Dysgu Gyda'n Gilydd - Volunteering Matters

Mae gwirfoddolwyr yn rhoi cymorth i ddisgyblion am awr neu ddwy bob wythnos, mewn ysgolion neu leoliadau yn y gymuned, yn gwrando arnyn nhw’n darllen, yn rhoi help ychwanegol gyda Mathemateg neu bynciau eraill. Neu, byddan nhw’n cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau - o arddio, coginio, drama i weu.  Y peth pwysig yw’r rhyngweithio rheolaidd personol (sy’n cael ei arolygu bob amser gan athrawon neu staff.) Gall 10 munud y diwrnod yn unig yn gwrando ar blant yn darllen wneud gwahaniaeth mawr i’w gallu a’u hyder cyffredinol.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Llysgennad Stroc - Y Gymdeithas Strôc

Os ydych a diddordeb mewn unrhyw un o'r rhestr isod:
*Datblygu a traddodi cyflwyniadau am stroc a'r Gwasanaeth Stroc mewn cynhadleddau, digwyddiadau ac i grwpiau lleol yn y gymuned.
*Bod yn bresennol mewn cynhadleddau, digwyddiadau ac arddangosfeydd i gynrychioli'r Gwasanaeth Stroc..
*Cymeryd Pwysau Gwaed mewn digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o'r cyswllt rhwng pwysau gwaed uchel a stroc.
*Arwyddo pobol at y Gwasanaeth Stroc am gefnogaeth gan ddosbarthu gwybodaeth a thaflenni i bobl proffesiynol, Canolfannau Meddygol, Canolfannau Iechyd, Canolfannau Ymarfer Corff, Llyfrgelloedd ac unrhyw leoliad arall yn eich ardal
*Mynychu digwyddiadau a derbyn sieciau ar ran y Gwasanaeth Stroc.
*Cefnogi ymgyrchoedd yn lleol ac adrodd yn ol am unrhyw gyfleoedd posib i godi mwy o arian neu i gael cefnogaeth gan wirfoddolwyr, i ymgyrchu i ni allu mynd ar drywydd y rhain.

Cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu ebostio gwirfoddoli@mantellgwynedd.com