Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

29/10/2015

Cydlynwyr rhoddion Calonnau Cymru


Yn gweithio o adref, byddwch yn berson trefnus, cyfeillgar ac hyderus gyda empathi naturiol tuag at bobl. Bydd gennych y gallu i gyfathrebu'n dda dros y ffôn ac wyneb yn wyneb ac yn mwynhau siarad a chwrdd â phobl eraill. Bydd gennych wybodaeth dda am eich cymuned leol a'i phobl.
Bydd ein gwirfoddolwyr cydlynwyr rhoddion yn gweithio gydag ychydig o oruchwyliaeth ac yn cael boddhad o gwblhau tasg er mwyn cynyddu arian ar gyfer Calonnau Cymru. Bydd angen ymrwymiad cryf at nodau a gwaith Calonnau Cymru yn bwysig.
Bydd tasgau yn cynnwys ein helpu i weinyddu arian a dderbyniwyd drwy rhoddion  'In Memoriam' , yn ogystal â helpu i godi ymwybyddiaeth am ein cronfeydd coffa. Byddwch yn cydnabod rhoddion gyda chydymdeimlad gan y perthynas agosaf, yn cofnodi rhoddion ac arian gan Gyfarwyddwyr Angladdau. Mae'r gwaith hefyd yn cynnwys ymweld â Threfnwyr Angladdau o bryd i'w gilydd i gynnal a chryfhau ein perthynas a chynyddu ein proffil.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr camp preswyl yn Sir Benfro - Siblings Together


Bydd gwirfoddolwyr yn gweithio'n agos gydag un grŵp o frodyr a chwiorydd a bennwyd ar gyfer yr wythnos. Rôl y gwirfoddolwr fydd gweithredu mewn swyddogaeth gefnogol ac ymgyfeillio, i fod yn rhan o drefniadau llyfn a diogel y gwersylloedd ac i sicrhau profiad o ansawdd uchel ar gyfer y bobl ifanc sy'n mynychu.
Bydd gwirfoddolwyr yn gweithio o dan gyfarwyddyd yr Arweinydd i sicrhau ethos a gwerthoedd Siblings Together yn cael eu hyrwyddo drwy'r gwersylloedd. Bydd goruchwyliaeth yn cael ei gynnig o fewn grŵp bob nos ac yn unigol os oes angen.
Gofynion:
1. Gweithio'n agos gyda'r Arweinydd,staff a gwirfoddolwyr eraill i sicrhau rhediad diogel a llwyddiannus y gwersyll.
2. Gweithredu bob amser ar weithdrefnau amddiffyn plant perthnasol a gweithdrefnau iechyd a diogelwch gan ddilyn canllawiau arfer da.
3. Gweithio'n agos gyda'r bobl ifanc,  chwarae rhan lawn yn eu bywydau bob dydd ac yn ystod y gwersyll ac eu cefnogi i gael y gorau o'u hamser 

Taliad anrhydeddus £100
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Gweithdy Gwaith - Gisda


Beth ydi gweithdy gwaith: Cyfres o sesiynau  sydd yn darparu hyfforddiant ac achrediadau i bobl ifanc i’w baratoi ar gyfer y byd gwaith. Bydd y sesiynau yn cynnwys hyfforddiant iechyd a diogelwch, cymorth cyntaf, sgiliau cyfrifiadur, cyllidebu ac yn y blaen.
Prif ddyletswyddau:
-  Cynorthwyo’r gweithwyr i gydlynu a rhedeg sesiynau gweithdy gwaith
-   I fynd drwy hyfforddiant a llyfrau gwaith gyda phobl ifanc
-   I roi cyngor a helpu’r mynychwyr i gwblhau’r sesiynau
-   I fod yn gyfeillgar a hyderus yn y sesiynau
-   I gynorthwyo’r gyda’r gwaith trefnu ar gyfer sesiynau 

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Arweinydd Brownies, Nant Ffrancon


Mae'r Brownies yn ferched rhwng 7 - 10 oed.
Drwy gyfarfodydd cyson, digwyddiadau arbennig, tripiau dydd ac dros nos, gwyliau ac campio,  mae Brownies yn dysgu sgiliau newydd, chwarae cerddoriaeth, dod i adnabod diwilliannau gwahanol ac cael profi anturiaethau yn yr awyr agored. Mae'r merched yn gallu gweithio tuag at cael bathodynau Brownies mewn nifer o weithgareddau gwahanol.
Bydd y cyfle hwn yn addas i wirfoddolwr brwdfrydig  ac profiadol sy'n mwynhau gweithio gyda phobl ifanc.
Cyfarfodydd fel arfer yn para am tua 1.5 awr bob wythnos. Fel cynorthwy-ydd neu arweinydd byddwch yn helpu gyda gwaith crefft ac yn y blaen.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

27/10/2015

Gwirfoddolwyr Grwpiau Rhieni - Gisda (Pwllheli)


Mae Gisda, Pwllheli yn chwilio am wirfoddolwyr grwpiau rhieni i:
·         Cynorthwyo’r cefnogwr teulu/mentor cyfoed i drefnu a chydlynu’r grwpiau rhieni
·         Ymuno a’r grwpiau rhieni
·         Cyfathrebu gyda’r rhieni a’u plant
·         I feddwl am syniadau newydd o weithgareddau i’r grŵp rhieni
·         I fod yn gyfeillgar a hyderus o fewn y grŵp.
·         I gymryd rhan yn y gweithgareddau a drefnir
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cyfaill Gwirfoddol (18+) - Cynllun Ffrindia' – Mantell Gwynedd


Mae Cynllun Ffrindia' yn bartneriaeth rhwng Mantell Gwynedd, Age Cymru a Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr Gwynedd a Môn.  Mae angen gwirfoddolwyr i gyfeillio gydag oedolion 50+  drwy ymweld â hwy yn wythnosol a chynnig cefnogaeth iddynt i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn lleol.  
Rhaid i wirfoddolwyr fod dros 18 oed.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd Siop – Ambiwlans Awyr Cymru (Bangor, Tywyn, Caernarfon)


Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr yn y siopau ym Mangor, Caernarfon a Tywyn i gynorthwyo gyda gwaith siop cyffredinol - gweithio ar y til, cadw'r siop yn lân ac yn daclus, yn edrych ar ôl y stoc, gwasanaethu cwsmeriaid.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Ffrind gyrrwr fan (Caernarfon) – Ambiwlans Awyr Cymru


Angen gwirfoddolwyr i helpu gyda chasglu nwyddau i ac o gartrefi pobl.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Codi arian – Ambiwlans Awyr Cymru


Mae angen gwirfoddolwyr i helpu i werthu cynyrch mewn sioeau lleol a digwyddiadau, archfarchnadau a casgliadau stryd.  Amser i siwtio yr unigolyn.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Ffrind gyrrwr fan (Bangor) – Ambiwlans Awyr Cymru


Angen gwirfoddolwyr i helpu gyda chasglu nwyddau i ac o gartrefi pobl.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd Casgliadau Cadwraeth – Castell Penrhyn

Bydd y Cynorthwy-ydd Cadwraeth yn helpu i ofalu am ein casgliadau ac yn cadw at safonau cyflwyno  fel y nodir yn y Llawlyfr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadw Tŷ. Trwy gyd-weithio gyda staff cadwraeth, byddwch yn dysgu sut i ddiogelu eitemau hanesyddol fel y gall ein hymwelwyr eu mwynhau am gyhyd ag y bo modd.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com neu 01286 672626.

Tywysydd Ystafelloedd - Castell Penrhyn

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn chwilio am wirfoddolwr i helpu ymwelwyr i fwynhau eu hymweliad i Gastell Penrhyn drwy eu croesawu i'r castell a rhoi gwybodaeth am hanes yr ystafelloedd a'r dodrefn / paentiadau.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com neu 01286 672626.

Ymddireidolwr/aig - ysgrifennydd/es - Canolfan Cefnogaeth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru

Mae Canolfan Cefnogaeth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn awyddus i recriwtio Ymddiriedolwyr i'r Bwrdd presennol. Yn benodol, rydym yn chwilio am Ysgrifennydd. Fel elusen gofrestredig cawn ein llywodraethu gan fwrdd o Ymddiriedolwyr, ac yn edrych i gynyddu niferoedd a chryfhau'r tîm.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com neu ffonio 01286 672626.

08/10/2015

Ramblers Cymru - Swyddog Wasg

Cynnig cyngor yn Gogledd Cymru neu a'r draws Cymru  gyfan a'r gohebiaeth allanol ac hefyd cyfathrebu mewnol i gyraedd y nod wedi eu osod allan. Ynghyd os ydyw amser yn caniatau mentora cyhoeddusrwydd lleol a chymeryd rhan mewn traddodi cyhoeddusrwydd.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

06/10/2015

Arsylwyr – North Wales Group of Advanced Motorists


Gall unrhyw unigolyn sydd wedi llwyddo yn y Prawf Gyrru Uwch (IAM) wneud cais i fod yn arsylwr gyda'r grŵp ac i gynorthwyo eraill i baratoi ar gyfer y prawf IAM.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Symud Ymlaen - Breast Cancer Care Cymru

Rydym yn deall nad yw anghenion unigolyn am gymorth yn dod i ben pan fydd y driniaeth yn gorffen . Mae ein gwasanaethau a gwybodaeth Symud Ymlaen ar gyfer unrhyw un sy'n byw gyda ac thu hwnt i ganser y fron gan eu helpu i fynd bywyd ar ôl triniaeth gyda mwy o hyder .

Mae gwirfoddolwyr yn helpu drwy:

• Cynorthwyo wrth sefydlu a chlirio ar ddechrau ac ar ddiwedd y digwyddiad
• Cwrdd a chyfarch cyfranogwyr wrth iddynt gyrraedd a gwneud iddyn nhw deimlo bod croeso iddynt.
• Helpu gyda darpariaeth lluniaeth
• Siarad yn fyr am eich rôl fel gwirfoddolwr Gofal Canser y Fron
• Siarad yn fyr am eich profiad personol o ganser y fron
• Siarad â chyfranogwyr yn ystod yr egwyl
• Cynnig cefnogaeth i gyfranogwyr os ydynt yn mynd yn ofidus neu os oes angen i adael yr ystafell .
• Cyfeirio at wasanaethau eraill Breast Cancer Care  (gwasanaethau lleol neu eraill os yn berthnasol )


Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Arweinwyr ac cynghorthwywyr Beaver Scouts yn Bethesda

Dyma adran newydd o fewn grŵp sydd eisoes yn bodoli. Mae Beavers ar gyfer merched a bechgyn rhwng 6-8 mlwydd oed. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael megis Arweinwyr Sgowtiaid Beaver neu Cynorthwy-ydd Adran Sgowtiaid Beavers . Mae'r rolau yn cynnwys cynllunio a rhedeg rhaglen amrywiol o gemau a gweithgareddau gyda'r Sgowtiaid Beaver. Darperir hyfforddiant am ddim a gellir ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored. Mae'r Sgowtiaid yn ymwneud â chael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, mae'n wych i wella eich CV a gwneud cyfraniad i fywydau pobl ifanc a'r gymuned leol. Bydd y grŵp yn cyfarfod bob dydd Mawrth ym Methesda rhwng 5.45pm - 6:45pm.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd Siop - Ambiwlans Awyr Cymru, Bangor

Cyfle newydd gan Ambiwlans Awyr Cymru - Cynorthwy-ydd Siop.  Rydym yn chwilio am wirfoddolwr i gynorthwyo gyda gwaith siop cyffredinol, gweithio ar y til, cadw'r siop yn daclus, edrych ar ôl y stoc, gwasanaethau cwsmeriaid.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Ffrind gyrrwr fan - Ambiwlans Awyr Cymru, Bangor

Mae Ambiwlans Awyr Cymru angen gwirfoddolwyr i helpu gyda chasglu nwyddau i ac o gartrefi pobl.

Os gennych ddiddordeb ac angen mwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

02/10/2015

Arbed Ynni / Gwirfoddolwr Ymwybyddiaeth - Groundwork Gogledd Cymru

Mae Groundwork Gogledd Cymru yn cymryd rhan yn y Rhwydwaith Arbed Ynni Mawr ... ac mae angen eich help!

Mae'r rhaglen yn cynnig mewn cefnogaeth a chyngor manwl i ddefnyddwyr sy'n agored i niwed, er mwyn lleihau'r defnydd o ynni a lleihau costau biliau tanwydd....
Dim ond mewn pryd ar gyfer y gaeaf, bydd gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant ffurfiol gyda hyrwyddwr ac yna'n cynnal sesiynau cyngor anffurfiol gyda grwpiau cymunedol lleol.


Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Aelod Tim - CitizensOnlineGwynedd


Mae angen gwirfoddolwyr i helpu redeg sesiynnau 'drop in' - ble y bydd aelodau or cyhoedd yn galw draw am gyngor neu help gyda phroblem ddigidol-sut i fynd ar-lein, defnyddio peiriannau chwilio, e-bost a defnydd cyffredinol bob dydd. Nid ydym yn chwilio am ddewiniaid technegol, dim ond pobl sy'n mwynhau helpu pobl eraill, ac wedi meistroli defnydd pob dydd or rhyngrwyd.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu
gwirfoddoli@mantellgwynedd.com