Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

17/02/2015

Y Groes Goch - Tiwtor


Y Groes Goch – Tiwtor 

Ein nod yw sicrhau bod ein staff a’n gwirfoddolwyr yn meddu ar y sgiliau y mae arnynt eu hangen i helpu pobl mewn argyfwng 

Allech chi ein helpu ni i wneud hyn? 

Rydym yn sicrhau bod gan ein pobl y sgiliau y mae arnynt eu hangen i helpu pobl mewn argyfwng drwy gyflwyno amrywiaeth o gyrsiau sydd wedi’u datblygu’n arbennig.

Caiff y cyrsiau hyn eu cyflwyno gan diwtoriaid gwirfoddol, a gall y Tiwtoriaid gyflwyno amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys

•Dysgu craidd – Diogelu Oedolion, Codi a Chario ayb.
•Byw’n annibynnol – Amrediad o fodiwlau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol
•Cymorth Cyntaf ac Ymateb brys
 
Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Y Groes Goch - Gwirfoddolwr Ymgyfeillio


Ein nôd yw rhoi cefnogaeth i unigolion yn eu cartrefi eu hunain, i’w galluogi i fyw mor annibynnol  ag sy’n bosib. 

A hoffech chi ein helpu ni i wneud hyn? 

Rydym yn cynnig oriau penodol o gefnogaeth i unigolion bregus dros 50 oed.. 

Dyma rai tasgau arferol 

•Ymweld ag unigolion yn eu cartrefi unwaith yr wythnos.
•Rhoi cefnogaeth emosiynol, a chlust i wrando.
•Helpu rhywun i adennill ei hyder a’u cefnogi i fynd allan o’r tŷ, er enghraifft, mynd gyda nhw i grŵp cymdeithasol lleol.
•Cynnig gwybodaeth i bobl am gefnogaeth o fath arall sydd ar gael iddynt yn eu cymunedau megis elusennau eraill a gweithgareddau cymdeithasol.
•Cadw cofnod o’r cyswllt a’r gweithgareddau a wnaed gyda’r unigolion
 
Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Cynorthwyo mewn Siop Ambiwlans Awyr Cymru yn Nhywyn


Ydych chi'n hoffi cyfarfod pobl a chynorthwyo i godi arian at achos da? Mae Ambiwlans Awyr Cymru angen gwirfoddolwyr i'w helpu yn eu siop elusen yn Nhywyn, Gwynedd. Bydd disgwyl i chi ddefnyddio'r til, sortio dillad, prisio eitemau, tacluso'r siop a delio gyda cwsmeriad o ddydd i ddydd.
 
Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn/Ann ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd. neu annfleming@mantellgwynedd.com

Antur Stiniog - Cyfleon mewn marchnata


Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i weithio mewn caffi, yn y ganolfan ymwelwyr  a'r siop.  Hefyd rywun i helpu gyda gweithgareddau awyr agored.
 
Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn/Ann ar 01286 672626/ carwyn@mantellgwynedd.com neu annfleming@mantellgwynedd.com

Y Groes Goch - Ymgyfeilliwr dros y ffon


Gwasanaeth ymgyfeillio a galluogi sy’n cael ei ddarparu ar gyfer pobl dros hanner cant oed yng Nghymru yw GOFAL. Nod y gwasanaeth yw lleihau unigrwydd a hybu rhyngweithio cymdeithasol a lles emosiynol. I rai cleientiaid gall galwadau ffôn helpu yn hyn o beth.

Mae tasgau cyffredin yn cynnwys:  

•Cynnig clust i wrando a llais cyfeillgar ar y ffôn
•Cadw cofnodion cyfredol a logiau galwadau ac ati
•Cyfeirio at unrhyw wasanaethau perthnasol eraill

Gan gofio am gyfrinachedd, pasio unrhyw bryderon ymlaen neu dynnu sylw’r Rheolwr at unrhyw faterion addas.
 
Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn neu Gwenllian ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com neu gwenllian@mantellgwynedd.com

Castell Penrhyn - Tywysydd Amgueddfa Rheilffordd


Rydym yn chwilio am wirfoddolwr yn yr Amgueddfa Rheilffordd i roi  croeso cynnes a chyfeillgar i ymwelwyr, ac rhoi gwybodaeth am yr arddangosfa yn yr amgueddfa.

Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn/Gwenllian ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com neu Gwenllian@mantellgwynedd.com

13/02/2015

Meningitis Now - Dosbarthydd Gwybodaeth Ymwybyddiaeth

Fel Dosbarthydd Gwybodaeth Ymwybyddiaeth, byddwch yn rhoi llenyddiaeth mewn gwahanol leoliadau yn eich cymuned gan gynnwys meddygfeydd, canolfannau iechyd, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, ysbytai, meithrinfeydd, ysgolion a cholegau. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i godi ymwybyddiaeth fel y gellir achub bywydau drwy sicrhau bod y rhai yr effeithir gan lid yr ymennydd yn ymwybodol o'r gefnogaeth a ddarperir. 

 Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Ty Gwydr/Greenhouse - Dylunydd Gwe Gwirfoddol

Mae Tŷ Gwydr ym Mangor yn chwilio am Dylunydd we gwirfoddol i'n cynorthwyo gyda ail-ddylunio a diweddaru ein gwefan.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau penodol mewn dylunio gwefannau , yn ogystal â phrofiad o ddylunio a diweddaru safleoedd Word Press.

Rydym yn darparu treuliau ar gyfer teithio a bwyd ar gyfer gwirfoddolwyr. 

 Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Cynorthwyo mewn siop Ambiwlans Awyr Cymru yn Nhywyn

Ydych chi'n hoffi cyfarfod a pobl a chynorthwyo i godi arian at achos da?  Mae Ambiwlans Awyr Cymru angen gwirfoddolwyr i'w helpu yn eu siop elusen yn Nhywyn, Gwynedd.  Bydd disgwyl i chi ddefnyddio'r til, sortio dillad, prisio eitemau, tacluso'r siop a delio gyda cwsmeriaid o ddydd i ddydd.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626

Ty Gwydr/Greenhouse - Cynorthwyydd Gweinyddol

Mae Tŷ Gwydr yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr i gefnogi rhedeg ein adeilad a prosiectau cymunedol. Rydym yn adeilad adnoddau gydag ystafelloedd cyfarfod ac ystafell therapi sydd ar gael i'w defnyddio gan y gymuned leol.
Rydym yn angen gwirfoddolwyr i ymgymryd â'r swyddogaethau canlynol:
* Cyfro'r dderbynfa, croesawu gwesteion ac ateb ffôn.
* Dyletswyddau gweinyddol sylfaenol gan gynnwys llogi ystafelloedd cyfarfod.
* Cynnal a chadw adeilad (os mai dyna yw eich peth).
* Dyletswyddau glanhau ysgafn, tacluso a chadw'r adeilad yn daclus.


Mae angen i wirfoddolwyr fod yn ddibynadwy, yn gyfeillgar, yn agored eu meddwl, sy'n gallu gweithio'n annibynnol a gyda sgiliau sylfaenol TG a'r rhyngrwyd.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Y Gymdeithas Strôc - Cyfaill Caffi

Bydd cyfeillion caffi yn cynnig cymorth a chyngor mewn lleoliad lleol lle gall pobl sydd wedi goresgyn strôc brynu bwyd a'u diod eu hunain.  Bydd hyn yn helpu i leihau unigrwydd cymdeithasol a gwella hyder a hunan-barch yr unigolion sydd wedi goroesi.  Gall y gwirfoddolwyr drefnu amrywiol weithgareddau yn y lleoliad neu wahodd unigolyn arall i ddod i wneud gwaith crefft neu roi sgwrs.  Am fwy o fanylion cysylltwch a Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

12/02/2015

Hwylusydd Grwp Cefnogi Bipolar


Mae Bipolar UK yn chwilio am wirfoddolwyr i hwyluso Grwp Cefnogi Bipolar yng ngogledd sir Gwynedd. Er mwyn bod yn hwylusydd grwp, bydd angen i wirfoddolwyr unai wedi cael diagnosis Bipolar uniongyrchol eu hunain neu wedi cael profiad a gwybodaeth am rywun sydd gyda Bipolar.

Mae Grwpiau Cefnogi Bipolar UK ar gyfer unigolion sydd gyda bipolar gan gynnwys cyn ac ar ôl diagnosis, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Mae grŵp cefnogi yn cynnig amgylchedd diogel lle gall pobl ddysgu mwy am bipolar, rhannu gwybodaeth ac elwa o gefnogaeth cyfoed. Mae'r Grwpiau Cefnogi yn cyfarfod unwaith y mis am 2 awr.

Bydd angen i wirfoddolwyr dderbyn gwiriad DBS manwl cyn dechrau gwirfoddoli.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

 

Breast Cancer Care Cymru - Gwirfoddolwyr 'Headstrong' (18+ oed)

Mae Breast Cancer Care Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr 'Headstrong'.  Bydd y rôl yn cynnwys:

Meningitis Now - Gwirfoddolwr casgliadau tun


Mae'r rôl yma yn ein helpu i gasglu rhoddion yr ydym yn derbyn pob blwyddyn trwy ein tuniau casglu. Mae'r rhoddion hyn yn ein helpu i barhau â'r gwaith a wnawn.

Fel Cydlynydd Casglu Tun, byddwch yn gyfrifol am gyflwyno tuniau codi arian Meningitis Now  i fusnesau yn eich ardal leol. Mae hyn yn cynnwys casglu tuniau newydd a gwagio a bancio yr arian a godwyd.  Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Meningitis Now - Gwirfoddolwr/wraig Codi Arian


A oes gennych ychydig o oriau i'w sbario bob ychydig fisoedd? A hoffech helpu i godi arian i sefydliad sy'n ymroddedig i achub bywydau ac ailadeiladu dyfodol?
 
Os felly, yna mae'r cyfle yma i chi.