Mae cynllun Gwirfoddolwyr Ifanc WITH i bobl ifanc rhwng
14-25 oed. Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i
berson ifanc weithio gyda gweithiwr cefnogol gwirfoddol pob dydd Sadwrn rhwng
2pm-4pm i gwblhau tasgau hanfodol i redeg y fferm. Gyda chefnogaeth, bydd gwirfoddolwyr yn
gweithio drwy gwrs gofal ceffylau ymarferol a sgiliau gwirfoddoli. Bydd y cwrs yn galluogi’r person ifanc ennill
sgiliau a phrofiadau maent angen i wirfoddoli yn annibynnol efo WITH neu
fudiadau arall lleol yn y dyfodol. Nid
oes angen profiad blaenorol. Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd
ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
30/08/2016
Gwirfoddolwr Addysg yn yr Awyr Agored – Elfennau Gwyllt
Mae addysg yn ganolig i actifeddau Elfennau Gwyllt. Gall hyn fod drwy rhaglenni Ysgol Coedwg,
sesiynau saethyddiaeth, cynllwyniau chwarae neu actifeddau creft maes i
oedolion. Anelwn i ddysgu gymaint o bobl
yng Ngolgedd Cymru am fyd natur a byw yn iach ac sy'n bosib. I wneud hyn rydym angen help gwirfoddolwyr
brwdfrydig, sydd yn mwynhau dysgu sgiliau newydd yn yr awyr agored a phasio'r
sgiliau yma i bobl eraill. Wrth
wirfoddoli fel hyn, byddwch yn helpu i gadarnhau ein bod yn dosbarthu sesiynau
bydd pobl yn cofio ac yn mwynhau. Am
fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Gwirfoddolwr Safle– Elfennau Gwyllt
Mae Elfennau Gwyllt yn defyddio coetir naturiol ar gyfer
ein digwyddiadau, ac mae angen llawer o waith cynnal a chadw i gadw’r safleodd
yn saff i ddefnyddio yn ystod yn cynlluniau chwarae. Dyna pam mae yna dîm o wirfoddolwyr Elfennau
Gwyllt sydd yn helpu i drefnu ein safleoedd.
Mae’r gwirfoddolwyr yma yn hanfodol i sicrhau fod Elfennau Gwyllt yn
rhedeg sesiynau saff, a fod pawb yn hapus ar ein safleoedd. Am fanylion pellach,
cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Gwirfoddolwr Garddio – Elfennau Gwyllt
Mae yna fwy i Elfnennau Gwyllt na’r Ysgol Goedwig a
cynlluniau chwarae. Rydym yn cydweithio
a’r gymuned lleol i greu priosectau garddio sy’n helpu i gyfoethogi’r gymuned
mewn ffyrdd syml na fysa’n bosib heb y cyfle yma. Mae Elfennau Gwyllt yn berchen ar llain sydd
angen gofal rheolaidd, a hoffwn eich help chi i wneud hyn. Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Gwirfoddolwr Marchnata – Elfennau Gwyllt
Darn o bwrpas Elfennau Gwyllt yw i weithio a pobl
newydd. Mae’n bwysig i ni enill sylw
pobl sydd ddim yn meddwl am ei hunain fel “pobl awyr agored”, a’i denu allan i
fyd natur. I wneud hyn, yr ydym angen
pobl all gysylltu a’r cyhoedd a’i diddori yn ein gwaith. Wyneb i wyneb a dros y we, mae yna angen i ni
gyfathrebu a phobl Gogledd Cymru. Wrth
wirfoddoli yn y rôl yma, byddwch yn helpu Elfennau Gwyllt i gyraedd gymaint o
bobl a phosib, a fod ein digwyddiadau yn cael ei marchnata a hysbysebu yn dda. Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
09/08/2016
Gwirfoddolwr/aig ysgrifenyddol – Royal Voluntary Service
Mae gwirfoddolwyr yn darparu cefnogaeth ysgrifenyddol
hanfodol yn ein swyddfa. Mae hyn yn cynnwys cofnodi data, prosesu anfonebau ,
cymryd cofnodion a chynnal cyflenwadau swyddfa . Mae hon yn rôl gyffrous gyda
chyfleoedd datblygu gyrfa gwych. Mae'r rôl yn hanfodol i ganiatáu datblygu ac
ehangu gwasanaethau'r RVS gan helpu i roi diwedd ar unigrwydd . Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 14+.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Gwirfoddolwyr codi arian– Royal Voluntary Service
Bydd gwirfoddolwyr yn helpu i drefnu cyfleoedd codi arian
gwych yn y gymuned. Mae'r digwyddiadau hyn yn amrywiol iawn a chaiff
gwirfoddolwyr y rhyddid i greu syniadau gyda chefnogaeth lawn gan y tîm rheoli.
Rydym yn edrych i ehangu ein gwaith codi arian. Mae hyn yn hanfodol wrth i ni
ddatblygu ac ehangu ein gwasanaethau gan helpu i roi diwedd ar unigrwydd. Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 14+.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Gwirfoddolwr Hafal
Ni yw prif elusen Cymru ar gyfer pobl gydag afiechyd
meddwl difrifol a’u gofalwyr.
Gan gwmpasu pob ardal Gymru, mae Hafal yn sefydliad a
reolir gan y bobl y byddwn yn eu cefnogi: unigolion sydd wedi cael eu
heffeithio gan afiechyd meddwl difrifol.
Sylfaen ein gwasanaethau ar gyfer cleientiaid yw ein
Rhaglen Adferiad unigryw ein hunain. Yn seiliedig ar egwyddorion modern
hunanreolaeth a grymuso, mae’r rhaglen hon yn cynnig ffordd gwbl drefnus i gleientiaid
o gyflawni adferiad drwy ganolbwyntio ar wella pob agwedd ar eu bywyd.
Mae angen gwirfoddolwyr i helpu redeg sesiynau i
ddefnyddwyr ein gwasanaeth ym Mhorthmadog.
Mae sesiynau yn amrywio o: Llythrennedd a rhifedd, sgiliau
cyfrifiadurol, celf a chrefft, gemau, coginio, lliwio i oedolion, grwpiau
cerdded, bore te a coffi, byrbrydau a sgwrsio ( ar gyfer gofalwyr ), codi arian. Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
04/08/2016
Gwirfoddolwyr Llyfrgell Ar-lein - Seeing Ear
Gweithio o adref ac yn eich amser eich hun, byddwch yn
ein helpu i ychwanegu at ein llyfrau llyfrgell ar-lein. Mae ein llyfrgell
ar-lein rhad ac am ddim yn darparu llyfrau mewn fformat hyblyg i gefnogi
darllenwyr sydd angen llyfrau mewn fformat hygyrch oherwydd rhesymau megis nam
ar y golwg, dyslecsia neu anabledd corfforol. Byddwch yn golygu, steilio a
fformatio ffeiliau MS Word a byddwn yn rhoi'r holl hyfforddiant sydd ei angen
arnoch ar gyfer hyn sydd unwaith eto gellir ei wneud yn y cartref drwy e-bost i
chi. Mae pob llyfr y byddwch yn golygu yn rhoi cyfle i rywun sy'n cael
trafferth â darllen llyfrau cyffredin i gymryd pleser o ddarllen neu yn cael
cyfle teg mewn addysg. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar brosiect newydd
cyffrous sy'n gweithio gydag ysgolion i gefnogi plant sydd angen llyfrau mewn fformat
electronig hwn ac rydym am roi cyfle i gael cyfle teg mewn addysg ac i
ymgysylltu â dysgu pob plentyn.
Am fwy o fanylion am y cyfle yma, cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Arweinydd Tim (Casglaid Mawr 2016) - Diabetes UK Cymru
RYDYM EICH ANGEN CHI
ar Ddydd Gwener 16eg a dydd Sadwrn 17 Medi, 2016 i drefnu casgliad codi
arian ffantastig mewn siop Tesco yn eich ardal chi . Addas i oedran 18+.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286
672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
02/08/2016
Cynorthwy-ydd Siop, Bangor- Ambiwlans Awyr Cymru
Cynorthwyo gyda gwaith siop cyffredinol – gweithio ar y
til, cadw’r siop yn lân ac yn daclus, yn edrych ar ôl stoc, gwasanaethu
cwsmeriaid.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286
672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Subscribe to:
Comments (Atom)