Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

12/07/2013

Cadwch Oriel Caffi Croesor ar agor

Peidiwch â cholli ased cymunedol gwerthfawr

Rydym agen pobl frwdfrydig, dynamig, ac ymroddedig i'r pwyllgor ac i wirfoddoli er mwyn cadw Cyfeillion Croesor ar Oriel Caffi Croesor yn fyw.
Cysylltwch a Shelagh ar 01766 770913 neu Ceri ar 07760 232333 am fwy o fanylion.

10/07/2013

Arweinydd grwp - AGRO

Nôd AGRO yw cynnig cymorth trwy weithgarwch, gan adeiladu cyfalaf cymdeithasol a gwella dealltwraeth o amgylch dibyniaeth.

Allwch chi helpu drwy redeg grŵp wythnosol, trefnu gweithgareddau (gyda gweithgareddau ychwanegol ar benwythnosau a gyda'r nos) a hyrwyddo'r grŵp yn eich cymuned leol. Byddwch yn cael eu cefnogi gan Gydlynydd AGRO ac yn derbyn hyfforddiant a rhai costau. Mae profiad personol o adferiad yn hanfodol  ac hefyd sgiliau cyfathrebu.rhagorol.

Cynorthwydd Swyddfa - SNAP Cymru

SNAP Cymru
Yn darparu cyngor a chynhaliaieth i deuluoedd a phlant ag anawsterau dysgu ychwanegol.

Maent angen help yn y swyddfa, llinell gymorth, canolfannau gwybodaeth a chodi arian.  Byddai sgiliau dwyieithrwydd, trwydded yrru, arddull ffôn gartrefor a sgiliau technoleg gwybodaeth yn fanteisiol.  Cewch hyfforddiant cefnogaeth a costau teithio.  Cysylltwch a ni heddiw am fwy o wybodaeth.

Cynorthwydd Canolfan Celfyddydau

BOCS CELF - y nôd yw sefydlu canolbwynt ar gyfer rhagoriaeth mewn celf gyfoes ifanc trwy ddarparu gofod i arddangos, cyfnewid syniadau, rhannu sgiliau ac ymgysylltu â'r gymuned leol.

Gallwch gymryd rhan drwy groesawu ymwelwyr i'r oriel ac ymateb i gwestiynau. Cynorthwyo mewn gweithdai a hefyd gyda gosod / newid  arddangosfeydd.