Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch รข Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

21/09/2012


Cyngor ar Bopeth yn Pwllheli a Dolgellau

Mae Cyngor Ar Bopeth yn helpu pobl ddatrys eu problemau drwy ddarparu cyngor a gwybodaeth yn rhad ac am ddim.  Mae'r gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant llawn ar y system wybodaeth electronig.  Cysylltwch heddiw am fwy o wybodaeth. 

Pwll Nofio Harlech

Gwirfoddolwyr eu hangen i gynorthwyo gyda dysgu nofio, ‘aqua fit’, ‘swm fit’ a dringo i grwpiau o bobl o bob oed.  Hefyd maent angen help yn y caffi.

Achub y Plant

Mae siop Achub y Plant yn y Bermo wir angen gwirfoddolwyr newydd.  Os oes gennych ychydig o oriau i sbario galwch heibio i’n gweld.

ChildLine Cymru

Darparu Gwasanaeth Ysgolion ChildLine i blant ysgolion cynradd drwy ddefnyddio deunyddiau cyflwyno pwrpasol.  Gall hyn helpu plant i ddeall cam-drin yn well a’u galluogi i amddiffyn eu hunain.  Hyfforddiant llawn ar gael.