Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

21/05/2015

Cynorthwy-ydd Digwyddiadau - Castell Penrhyn

Bydd y Cynorthwy-ydd Digwyddiadau yn helpu i drefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau gwahanol yng Nghastell Penrhyn gan gynnwys cynllunio, paratoi, sefydlu a rhedeg gweithgareddau ar y diwrnod. Mae'n ymwneud â chynnig rhywbeth sy'n hwyliog a chofiadwy i ymwelwyr a'u hannog i ddychwelyd a / neu dweud wrth eu ffrindiau amdanom ni.

Singathon Haf- Bangor- Casglwyr Bwced. Tenovus

Mae Gofal Canser Tenovus yn chwilio am lawer o bobl hwyliog a chyfeillgar i wirfoddoli fel casglwyr bwced am ychydig o oriau yn ein Singathon Haf ym Mangor. Bydd Corau a cherddorion yn perfformio drwy gydol y dydd ac rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i sbario awr neu ddwy er mwyn helpu i godi arian gyda ni a mwynhau perfformiadau!


18/05/2015

Prosiect Troseddau Casineb Cymru

Mae Cynllun Cynnal Dioddefwyr yn chwilio am wirfoddolwyr i gael hyfforddiant i gefnogi dioddefwyr a tystion sydd wedi cael eu effeithio gan droseddau casineb.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Hyfforddwyr Chwarae a Chwaraeon - Taith i'r Balcanau Hydref 2015

Ymunwch â'r Tim Chwarae y Byd ar daith o 8 wythnos i'r Balcanau yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc difreintiedig:

Bydd wyth o wirfoddolwyr ynghyd âg Arweinydd Tîm yn cynnal sesiynau chwarae a chwaraeon yn ein sefydliadau partner yn Croatia, Bosnia, Kosovo, Serbia a Romania.  Bydd pob gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant llawn fel Arweinwyr Chwarae.  Byddwch yn cael profiad uniongyrchol mewn elusen ryngwladol.  Byddwch yn archwilio rhanbarth tu hwnt i'r llwybr dwristiaid a byddwch yn elwa o brofiadau mwyaf bythgofiadwy eich bywyd.

Bydd ein taith nesaf yn gadael ym mis Awst / Medi 2015

05/05/2015

Ymddiriedolaeth Archaeoleg Gwynedd - Diwrnod Gwirfoddoli:Gwaith Maes Cofnodi Mynwent

Dyma gyfle i chi helpu ni i gofnodi’r fynwent yn Llanfaglan ar 17 Mai 2015.

Mae’r gwaith cofnodi hyd at hyn wedi cael ei wneud gan bobl ifanc a gwirfoddolwyr gyda chefnogaeth aelodau staff Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Penwythnos yma rydym yn rhoi cyfle i bobl eraill ymuno gyda ni a darfod y gwaith cofnodi. Mi fydd hyfforddiant a chefnogaeth ar gael , does dim angen profiad blaenorol. Mae'r cyfle yn addas i bawb sy'n 14+ oed ac yn addas tuag at oriau Gwirfoddolwyr y Mileniwm.  Cysylltwch gydag Anita.daimond@heneb.co.uk 01248 366970 mor cyntedd ag sydd posib ar gyfer manylion pellach ac i archebu lle.

CitizensOnlineGwynedd - Ffrind Digidol

Mae angen gwirfoddolwyr i helpu aelodau o'r cyhoedd i ddysgu a deall hanfodion y rhyngrwyd-sut i fynd ar-lein, defnyddio peiriannau chwilio, e-bost a defnydd cyffredinol bob dydd. Nid ydym yn chwilio am ddewiniaid technegol, dim ond pobl sy'n mwynhau helpu pobl eraill, ac wedi meistroli defnydd pob dydd or rhyngrwyd. Os ydych yn gyfforddus gydag e-bost, google a mwynhau helpu pobl eraill, yna dyma'r peth i chi. Dim theori, Excel, Word ac ati yn gysylltiedig - yn llym heb fod yn dechnegol.

Hyfforddiant anwytho a chanllawiau.  Addas i wirfoddolwyr 18+ oed.

Am fanylion pellach cysylltwch a Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com