Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

30/10/2014

Partneriaeth Awyr Agored - Taith gerdded codi sbwriel


Mae’r Partneriaeth Awyr Agored wedi bod yn gweithio yn agos efo Gwirvol, Cadw Cymru’n Daclus a RAW Adventures i gynnal digwyddiadau gwirfoddol amgylcheddol i bobl ifanc rhwng 14-25 oed.  Fydd y digwyddiad yma yn cael ei gynnal unwaith ar 1af-2ail Tachwedd 2014.  Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com

 

Bws Barbara – Cymorth Gweinyddol


Mae Bws Barbara yn chwilio am wirfoddolwyr yn ardal Aberdyfi fuasai’n gallu cynnig cefnogaeth gweinyddol unwaith neu ddwy yr wythnos am 20 i 30 munud, i edrych dros dogfennau defnyddwyr newydd ac arddangos sut i i ddefnyddio’r belt diogelwch yn y cerbyd. 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com

Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn - Cynorthwy ydd Siop


Diddordeb gwirfoddoli mewn siop?  Mae Hosbis yn y Cartref yn chwilio am weithwyr siop i wahanol leoliadau.  Buasai’r tasgau yn cynnwys rhyngweithio efo cwsmeriaid, sortio a phrisio rhoddion, gweithio ar y til, arddangos nwyddau a chadw’r siop yn daclus.  Am fwy o wybodaeth cysylltwch efo Carwyn ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com

02/10/2014

Ymgyrchydd Masnach Deg


Mae angen ymgyrchydd gwirfoddol oed 18+ i ymuno efo’u grwpiau Masnach Deg cymunedol lleol.  Mae ymgyrchwyr Masnach Deg yn defyddio eu sgiliau i unai weithio tuag at neu cadw gwobr Masnach Deg y gymuned drwy trefnu digwyddiadu, ymweld ag ysgolion i roi gwybodaeth ayyb.  Mae’r rôl yma’n hyblyg ond mae’r rhan fwyaf o gyfarfodydd Masnach Deg yn cael eu cynnal gyda’r nos gyda’r gweithgareddau a digwyddiadau yn cael eu cynnal gyda’r nos neu ar y penwythnos.  Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Asesydd Masnach Deg Ysgol


Mae angen aseswyr gwirfoddol 18 + oed i helpu mwy o ysgolion yn y DU i ennill y wobr boblogaidd Gwobr  Masnach Deg Ysgol.  Prif ddyletswydd yr asesydd yw edrych ar geisiadau ar lein gan ysgolion i weld os maent yn cyrraedd y criteria maen nhw angen i fod yn Ysgol Masnach Deg ac i roi adborth.  Lleolir y cyfle yma o adre ac maen hyblyg.  Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Gwarchodfa Natur


Rydym yn chwilio am wirfoddolwr oed 16+ i weithio mewn grŵp gyda gwirfoddolwyr eraill, i gynorthwyo'r staff cadwraeth gyda’u dyletswyddau o ran rheoli gwarchodfa natur.  Am fanylion pellach cysylltwch efo Carwyn ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com

Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru – Mentor Busnes


Rydym yn chwilio am fentor busnes gwirfoddol oed 18+, i gefnogi pobl ifanc rhwng 18-30 oed, sydd yn ddi-waith ac efo diddordeb fod yn hunain cyflogedig.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com

Citizens Online Gwynedd - Tiwtor Sylfaenol y Rhyngrwyd


Mae angen gwirfoddolwyr 18+ oed i gynorthwyo’r cyhoedd i ddysgu a dallt elfennau sylfaenol y rhyngrwyd - sut i fynd ar-lein, sut i ddefnyddio ‘search engines’, ebost a defnydd cyffredinol pob dydd.  Os rydych yn gyfforddus yn defnyddio e-byst, google ac yn mwynhau helpu eraill, hwn yw’r cyfle i chi!  Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com