Rydym
yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu edrych ar ôl stondinau, helpu efo
gweithgareddau ee crefftau, stiwardio mewn digwyddiadau cyffredinol o amgylch
Gogledd Cymru. Mae’r rôl yma yn addas i
berson 18+. Am fwy o fanylion cysylltwch
â Carwyn ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
22/12/2014
NSPCC – Gwasanaeth Ysgolion ChildLine
Rydym angen gwirfoddolwyr i ddosbarthu Gwasanaeth Ysgolion ChildLine i
ysgolion cynradd gyda’r ffocws ar blant rhwng 7 - 11 oed. Bydd y gwirfoddolwyr yn defnyddio
cyflwyniadau a gweithdai yn y dosbarth i godi ymwybyddiaeth plant o sut i gadw
yn ddiogel ee trais a bwlio. Mae angen
siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd a Môn.
Gofynnir i’r gwirfoddolwyr gynnal sesiynau mewn 10 ysgol dros gyfnod o
12 mis. Mae angen i’r ymgeiswyr fod yn
18+. Am fanylion pellach cysylltwch â
Carwyn ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
Both Parents Matter - Golygydd Newyddlen Genedlaethol
Mae
angen wirfoddolwyr i greu a datblygu newyddlen genedlaethol i wirfoddolwyr a
ffrindiau’r elusen. Fydd y person yn
gweithio o adra ar ben ei hun efo cefnogaeth y Rheolwr Cenedlaethol. Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ym
Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
Subscribe to:
Comments (Atom)