Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

19/09/2014

Marie Curie Cancer Care - Ysgrifennydd grŵp codi arian


Lleolir y cyfle yma yn y gymuned.  Rhai o’r prif ddyletswyddau fydd:  gwaith gweinyddol, gwaith cyfrifiadurol, cymryd nodiadau  a rhannu gwybodaeth ar ôl cyfarfodydd.  Mae’r cyfle yma yn addas i unigolion 18 oed neu drosodd. 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com

Byd Mary Jones World - Cynorthwyo i redeg canolfan ymwelwyr


Mae Byd Mary Jones yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo i redeg y ganolfan ymwelwyr.

Y tasgau fydd - Cynorthwyo i agor a chau’r ganolfan. I weithio ar y til. Dangos ymwelwyr o amgylch y ganolfan ac ateb unrhyw gwestiynau.
Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com