Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

28/06/2017

Gwirfoddolwyr Siop a Chaffi Sad/Sul 4pm- 7pm - RVS, Ysbyty Gwynedd


Mae siopau RVS , caffi a throli yn gwasanaethu cleifion mewn ysbytai, y staff ac ymwelwyr gyda chynhesrwydd ychwanegol o gyfeillgarwch a dealltwriaeth gan in gwirfoddolwyr.

Mae angen gwirfoddolwyr i helpu i redeg y gwasanaeth , gwasanaethu cwsmeriaid, cymryd taliadau wrth y til , paratoi diodydd neu fyrbrydau a bod yn glust i wrando .

Mae gwirfoddolwyr yn sicrhau bod y siop yn cael ei stocio'n briodol ac y caiff ei gadw'n lân a thaclus fel y disgwylir mewn amgylchedd ysbyty. Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

21/06/2017

Aelod o dîm mewn prosiect theatr cymunedol cyfforus – Gisda


Mae Gen i Go’ yw’r prosiect amrywiol a chyffrous sydd wedi bod yn cael ei arwain gan GISDA ers Ionawr 2017. Hyd yma mae wedi cysylltu â phobl o bob oed a chefndir, i gyd â un peth yn gyffredin sef rhywbeth i’w ddweud am Dre.

Ers y cychwyn, nod y prosiect yw i roi llais i bobl Caernarfon a gwneud defnydd creadigol o’r llais yna.  

Uchafbwynt y prosiect fydd darn creadigol sy’n cyfuno theatr, celf a gwaith cymunedol a fydd yn ran o Gŵyl Arall, sy’n digwydd ar 7-9 o Orffennaf. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â ni i greu y digwyddiad arloesol a chreadigol hwn.

Gofynion

Bydd angen i’r gwirfoddolwyr fod yn rhydd i wirfoddoli o’r 3ydd i’r 9fed o Orffennaf
Bydd angen gallu gweithio’n dda mewn tîm
Bydd angen i’r gwirfoddolwyr fod â meddwl agored am beth sy’n creu ‘profiad creadigol bositif’ 

Bydd cinio am ddim bob dydd a lwfans arianol dyddiol ar gael ar gyfer yr holl wirfoddolwyr.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 15+ 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gyrrwyr gwirfoddol bws mini - Castell Penrhyn


Mae gyrrwyr bws mini yn darparu gwasanaeth gwennol ar gyfer ymwelwyr i ac o'r maes parcio. Mae'r gwasanaeth wedi'i anelu'n bennaf at ymwelwyr sy'n cael anhawster cerdded, ond mae'n agored i bawb. Mae'n ymwneud â sicrhau bod ein hymwelwyr yn cael profiad gwych pan fyddant yn dod i ni.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 21+ 

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr casglu caniau codi arian – Hospis Dewi Sant


Mae adran codi arian yr Hosbis yn dibynnu ar haelioni y rhai sy'n rhoi er mwyn cadw drysau'r Hosbis ar agor ar gyfer cleifion lleol. Mae caniau casglu sy'n cael eu gosod yn y gymuned yn codi dros £20,000 ac mae oddeutu 500 o leoedd casglu caniau ar draws cymunedau mewn siopau, caffis a thafarndai.

Mae'r Hosbis yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rôl o gasglu sy'n cael ei bennu gan leoliad daearyddol. Mae croeso i gymryd y rôl hon mewn parau hefyd cyplau a ffrindiau.

Mae'r rol yma yn rheolaidd a bennwyd ymlaen llaw felly bydd taflen rownd casglu yn cael ei ddarparu a chytuno cyn dechrau'r rol.

Lleoliad-Hosbis Dewi Sant, Abbey Road, Llandudno, LL30 2EN ond teithio i leoliadau amrywiol fydd yn cael eu cytuno ar y cyd.

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd Siop – Hospis Dewi Sant – Porthmadog


Helpu yn siop yr Hosbis yn Llandudno - adnewyddu stoc, gweithredu’r til a helpu cwsmeriaid.

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cyflwynydd celf – Castell Penrhyn

Yn rhannol fel arweinydd a stiwardydd, mae cyflwynydd celf wedi'u hyfforddi'n arbennig i siarad ag ymwelwyr am y gosodiad cerfluniol o fewn Castell Penrhyn a grëwyd gan ein Artistiaid Preswyl-  Walker & Bromwich. 

Beth yw'r rol?

• Croesawu ymwelwyr
• Rhannu eich angerdd a diddordeb am gelf gyfoes ac ysbrydoli eraill
• Dysgu mwy am waith cerfluniol mawr Walker a Bromwich
• Helpu ymwelwyr i ddarganfod mwy am y prosiect Artistiaid Preswyl a chelf yng Nghastell Penrhyn 

Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+ 

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Gwyl Undod Hijinx - Theatr Hijinx


Rolau yn cynnwys: 

1. Dydd Llun 5 Mehefin i Gwener 1 Gorffennaf = Dosbarthu Taflenni Rhoi awr i ddosbarthu taflenni yng nghanol dre Caernarfon, siopau lleol, caffis, ac ati.  

2. Dydd Mercher 28 Mehefin - Dydd Sadwrn 1 Gorffennaf - Blaen tŷ -

 Darparu gwybodaeth, gosod arwyddion, dosbarthu rhaglenni a chasglu adwaith cynulleidfaoedd ar gyfer ein holl perfformiadau (tocyn a rhad ac am ddim) yn Galeri Caernarfon. Mae angen gwirfoddolwyr naill ai am yr holl amser neu am berfformiad neu ddau. 

3. Dydd Gwener 30 Mehefin - Diwrnod Ysgolion - Darparu gwybodaeth, gosod arwyddion a chasglu adwaith cynulleidfaoedd. 

4.Dydd Sadwrn 01 Gorffennaf a Dydd Sul 02 Gorffennaf - Stiwardio- Dosbarthu taflenni, annog y gynulleidfa i ymgynnull, edrych ar ôl a ddarparu gwybodaeth i’r gynulleidfa yn ystod perfformiadau. Mae angen gwirfoddolwyr naill ai ar gyfer yr holl benwythnos neu am ran o’r penwythnos.
 
Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr maethu cŵn – Protecting Preloved Border Collies

Rydym yn elusen genedlaethol sy'n darparu diogelwch i gŵn Collies mewn amryw o sefyllfaoedd gwahanol ac sydd angen cartref newydd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein gwefan:

www.protectingprelovedbordercollies.org.uk

Mae angen gofalwyr maeth tymor byr a thymor hir i ddarparu amgylchedd gofalgar ar gyfer ein cŵn tra eu bod yn eu hasesu ar gyfer y lleoliad mwyaf addas ar gyfer eu cartrefi newydd. Mae Profiad blaenorol gyda chŵn Collies yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr grwpiau cefnogaeth – Fertility Network UK


Mae Rhwydwaith Ffrwythlondeb UK yn chwilio am wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn sefydlu grŵp cefnogi yn eich ardal leol. 

Fel Grŵp Gwirfoddolwyr byddwch yn: -
-Gweithredu fel prif gyswllt ar gyfer y grŵp
-Trefnu a chynnal rhestr e-bost ar gyfer mynychwyr y grŵp
-Trefnu siaradwyr ar gyfer cyfarfodydd grŵp
-Llogi ystafelloedd
-Trefnu gweithgareddau cymdeithasol
-Cefnogi a chynghori gwirfoddolwyr grŵp arall
-Cadw at bolisiau a gweithdrefnau Fertility Network UK 

Mae Rhwydwaith Ffrwythlondeb UK yn darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i unrhyw un a effeithir gan faterion ffrwythlondeb. Rydym yn codi ymwybyddiaeth o broblemau ffrwythlondeb ac yn ymgyrchu dros ddarpariaeth deg o driniaeth ffrwythlondeb ledled y DU. Mae croeso i ddynion a merched wneud cais. 

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Llysgennad Mabwysiadu Tun - Action on Hearing Loss


Ydych chi eisiau helpu i godi ymwybyddiaeth ac arian hanfodol? Gallwch fabwysiadu un o'n tuniau casglu a'i roi yn eich cymuned. 

'Mae mabwysiadu' un o'n tuniau casglu yn ffordd hawdd a hyblyg i godi arian hanfodol a gwella bywydau pobl a effeithir gan golli clyw. 

Rhowch eich tun casglu yn eich siop, siop goffi neu ganolfan gymunedol leol ac ein helpu i godi ymwybyddiaeth o Action on Hearing Loss ar yr un pryd â chodi arian a fydd yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i bobl sy'n byw gyda cholled clyw.  

Os hoffech gymryd rhan yn eich ardal leol ac helpu i gefnogi pobl sydd wedi colli eu clyw, holwch am dun casglu heddiw. 

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Siop a Chaffi Dydd Llun 4.30pm-7.30pm- Ysbyty Gwynedd - RVS

Mae siopau RVS , caffi a throli yn gwasanaethu cleifion mewn ysbytai, y staff ac ymwelwyr gyda chynhesrwydd ychwanegol o gyfeillgarwch a dealltwriaeth gan in gwirfoddolwyr.

Mae angen gwirfoddolwyr i helpu i redeg y gwasanaeth , gwasanaethu cwsmeriaid, cymryd taliadau wrth y til , paratoi diodydd neu fyrbrydau a bod yn glust i wrando .

Mae gwirfoddolwyr yn sicrhau bod y siop yn cael ei stocio'n briodol ac y caiff ei gadw'n lân a thaclus fel y disgwylir mewn amgylchedd ysbyty.

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Siop a Chaffi Dydd Llun 1pm-4pm- Ysbyty Gwynedd - RVS


Mae siopau RVS , caffi a throli yn gwasanaethu cleifion mewn ysbytai, y staff ac ymwelwyr gyda chynhesrwydd ychwanegol o gyfeillgarwch a dealltwriaeth gan in gwirfoddolwyr.

Mae angen gwirfoddolwyr i helpu i redeg y gwasanaeth , gwasanaethu cwsmeriaid, cymryd taliadau wrth y til , paratoi diodydd neu fyrbrydau a bod yn glust i wrando .

Mae gwirfoddolwyr yn sicrhau bod y siop yn cael ei stocio'n briodol ac y caiff ei gadw'n lân a thaclus fel y disgwylir mewn amgylchedd ysbyty.

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

07/06/2017

Gwirfoddoli yn y Siop / Caffi– Moelyci

Mae Blas Lôn Las yn gaffi cymunedol a siop. Rydym yn edrych am wirfoddolwyr i helpu i redeg y siop a caffi. Byddwch yn cael cyfle i gwrdd â chyfarch y gymuned leol blaen ty neu gweithio yn y gegin. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cofnodwyr Tywydd - Moelyci


Rydym yn chwilio am rywun i helpu cofnodi'r tywydd yn ein gorsaf dywydd. Mae'n golygu cofnodi un bore yr wythnos. Mae gynom  9+ mlynedd o ddata tywydd hefyd.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

 

Cynorthwy-ydd Garddio - Moelyci


Helpu gyda tyfu llysiau, perlysiau a blodau. Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â'n grŵp i ddysgu am blannu a chynnal planhigion.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com