Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

21/11/2012

Arweinydd Gwirfoddol Taith Dywys Archeolegol

Darganfod chwedlau ac archeoleg yn Dinas Emrys

Cewch ddysgu am hanes Dinas Emrys ger Beddgelert ac hyfforddi i fod yn arweinydd ar grwp bychan o bobl.  Byddwch yn cyfleu yr hanes a tywys grwp i'r safle hanesyddol yma.  Darperir hyfforddiant llawn.

05/10/2012

Canolfan Genedlaethol Cadw Gwenyn Cymru

Cynorthwydd ei angen i gwrdd a chyfarch ymwelwyr, helpu gyda trefniadau ymweld a'r cychod gwenyn, arddangos y cynyrch, delio gyda arian a chadw y safle yn lan a thaclus. Sgiliau cyfathrebu da yn angenrheidiol a'r parodrwydd i ddysgu am wenyn a sut i gadw gwenyn. 
(Mae'r cyfle yma wedi ei leoli yn Tal y Cafn, Conwy)

21/09/2012


Cyngor ar Bopeth yn Pwllheli a Dolgellau

Mae Cyngor Ar Bopeth yn helpu pobl ddatrys eu problemau drwy ddarparu cyngor a gwybodaeth yn rhad ac am ddim.  Mae'r gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant llawn ar y system wybodaeth electronig.  Cysylltwch heddiw am fwy o wybodaeth. 

Pwll Nofio Harlech

Gwirfoddolwyr eu hangen i gynorthwyo gyda dysgu nofio, ‘aqua fit’, ‘swm fit’ a dringo i grwpiau o bobl o bob oed.  Hefyd maent angen help yn y caffi.

Achub y Plant

Mae siop Achub y Plant yn y Bermo wir angen gwirfoddolwyr newydd.  Os oes gennych ychydig o oriau i sbario galwch heibio i’n gweld.

ChildLine Cymru

Darparu Gwasanaeth Ysgolion ChildLine i blant ysgolion cynradd drwy ddefnyddio deunyddiau cyflwyno pwrpasol.  Gall hyn helpu plant i ddeall cam-drin yn well a’u galluogi i amddiffyn eu hunain.  Hyfforddiant llawn ar gael.

03/08/2012


Cynorthwyo yng Nghaffi Hafan Bangor

Mae Age Cymru Gwynedd a Môn angen gwirfoddolwyr i helpu rheolwraig Caffi Hafan - y caffi sydd yn ymyl yr orsaf bysiau ym Mangor.   Bydd tasgau'r gwirfoddolwyr yn cynnwys paratoi a gweini diodydd a byrbrydau poeth ac oer, clirio'r byrddau a chadw'r caffi yn lân a thaclus. 


Cyfarfod a Gwrando

Allech chi wneud gwir wahaniaeth i bobl hŷn (50+) sy'n drwm eu clyw ac sy'n unig yn eu cymunedau?  Hoffech chi gyfarfod pobl debyg i chi a chael sgwrs dros banad?    Os felly, dyma gyfle i chi wirfoddoli gyda "Hear to Meet", sef prosiect newydd sydd er lles pobl drwm eu clyw ar draws Cymru.

27/07/2012


Gwylwyr yr Arfordir

Mae'r National Coastwatch Institution  gyda dwy orsaf wylio (Porthdinllaen a Morfa Bychan), a gorsaf newydd fydd yn agor ym Mhwllheli yn 2013.  Mae angen gwirfoddolwyr i'w hyfforddi fel gwylwyr yr arfordir; i helpu gyda thasgau gweinyddol ac i godi arian.

06/07/2012


CYMYDMAEN CYF – CANOLFAN FENTER GONG MEINCIAU BOTWNNOG

Cwmni Cymunedol sy’n gweithredu er lles cymunedau Pen Llŷn.  Maent angen cymorth gyda rhedeg ‘Siop Cynhyrchwyr Llŷn 100%’ drwy gyfarch ymwelwyr y siop, defnyddio til a gosod silffoedd. 

RHEILFFORDD FAIRBOURNE


Gwirfoddolwyr eu hangen i gadw y rheilffordd hanesyddol yma i fynd.  Help gyda amrywiaeth o dasgau yn cynnwys codi arian, caffi, peirianneg, gweinyddu, gwaith ymarferol allan yn yr awyr agored.

27/06/2012


Hafal - Ty Adferiad

Yn cefnogi a grymuso pobl gyda cyflyrau iechyd meddwl dwys.

Cefnogwr gwirfoddol dan hyfforddiant eu hangen i roi help llaw yn Nhy Adferiad ym Mhorthmadog.  Fe fydd y wirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant ac yn cymryd rhan mewn amryw o weithgareddau gyda defnyddwyr y gwasanaeth yn ogystal a gwneud gwaith ty cyffredinol.
Cysylltwch heddiw am fwy o fanylion.

Helpu yng Nghaffi Canolfan Cyfiawnder Troseddol, Caernarfon

Mae'r caffi yn cael ei redeg gan Age Cymru er mwyn codi arian i helpu pobl hyn yn ein cymdeithas.
Y gwirfoddolwr i helpu drwy ddarparu bwyd, gweini diodydd poeth ac oer, cleirio byrddau a glanhau y llestri a cadw pobman yn lan a thaclus. Darperir hyfforddiant ar Hylendid Bwyd.

02/05/2012

GEIDIAU CRICCIETH

Geidiau Criccieth

Mae'r Geidiau yn cyfarfod ar nos Iau a Gwener ar ôl ysgol.  Mae angen arweinydd cynorthwyol a/neu rywun allai helpu gyda gwaith crefft, gemau a gweithgareddau awyr agored.  Darperir Hyfforddiant da iawn.

NYAS (National Youth Advocacy Service)

Ymwelwyr Annibynnol

Mae NYAS yn elusen sydd yn darparu gwybodaeth, cyngor, eiriolaeth a chynrychiolaeth gyfreithiol i blant a phobl ifanc. Mae angen ymwelwyr annibynnol gwirfoddol i gyfeillio plentyn neu berson ifanc mewn gofal gyda'r nod o ddatblygu cyfeillgarwch tymor hir a pherthynas agos gydag oedolion. Byddai gwirfoddolwyr yn fodlon cymryd rhan mewn gweithgareddau o ddewis y plentyn (neu berson ifanc) ac yn ysgrifennu adroddiadau byr am yr ymweliadau.
Darperir hyfforddiant i wirfoddolwyr - sydd gyfwerth â NVQ lefel 3.  Byddai gofyn i'r gwirfoddolwr allu cynnig tua 3 awr y mis. 

07/03/2012

Cyfeillion Ellis Wynne, Harlech

Cyfle gwych i dywys ymwelwyr o amgylch y Lasynys Fawr, Harlech.
Byddwch yn rhugl yn y Gymraeg ac yn hyderus i siarad yn gyhoeddus.  Mae gwybodaeth am Ellis Wynne/hanes Cymru yn fanteisiol ond darperir hyfforddiant o safon uchel ar hanes Elis Wynne.
Amser gofynnol 1-4 y p’nawn. 

20/02/2012

Cymhorthydd Chwarae

Cymhorthydd Chwarae

Mae Fforwm Chwarae Gogledd Orllewin Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i oruchwylio a hwyluso plant (5 - 14) yn chwarae allan - gan gynorthwyo i greu awyrgylch dda a hwyliog. 
Yng Ngwynedd, mae'r cyfleoedd ar gael yng Nghricieth, Caernarfon a Llandderfel ar hyn o bryd.