Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

11/09/2013

Y Felin Gylchu - Felinheli

Siop y Felin Gylchu 

A oes gennych amser i roi i'r grwp yma sydd yn rhedeg siop nwyddau ail law.  Grwp prysur sydd yn rhoi eu holl elw i achosion lleol.  Maent yn chwilio am help ar ddydd Iau yn arbennig. Cysylltwch a ni am wybodaeth pellach neu galwch mewn yn y siop am baned a sgwrs. Croeso cynnes i bawb. 

16/08/2013

Digartref Ynys Môn yn helpu pobl digartef i fyw yn ddiogel

Gwirfoddolwyr Aros Dros Nos

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr all ddarparu ystafell wely, pryd o fwyd gyda'r nos a brecwast ar gyfer 1-3 noson fel llety brys ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed. Ad-delir Treuliau. Darperis hyfforddiant a chefnogaeth 24 awr.

SOVA - yn cynyddu cyflogaeth BME yng Nghymru

Rydym yn croesawu diddordeb gan athrawon gwirfoddol i ddysgu Saesneg a TG. Addysgu Saesneg a TG  ar lefel sylfaenol ar sail 1-1 gan gynnwys gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chwilio am swydd. Cysylltwch â ni heddiw am fwy o wybodaeth.

Cymorth i Ddioddefwyr Trosedd

Cymorth i Ddioddefwyr yw'r elusen genedlaethol sy'n gweithio gyda dioddefwyr troseddau drwy ddarparu cymorth emosiynol a chyngor ymarferol. Rydym yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr i gynnal Archwiliadau Diogelwch Rhag Tân. A oes gennych sgiliau DIY? byddem yn falch iawn o glywed gennych.  Rhoddir hyfforddiant llawn.

09/08/2013

HOST UK - Cyfnewid Diwylliannol

Host byr-dymor - Dyddiau neu Penwythnosau Cyfnewid Diwylliannol


Gwneud y byd yn ychydig mwy cyfeillgar! Treuliwch ddiwrnod neu benwythnos gyda myfyriwr rhyngwladol/oedolion, dysgu am eu diwylliant, gan ddangos eich ardal leol iddynt ac yn eu gwahodd i brofi eich bywyd cartref eich hun.  Cysylltwch a ni heddiw am fwy o fanylion.

Canolfan Tan y Maen, Blaenau Ffestiniog

Hwyluso Gwasanaeth Galw Heibio


Dyletswyddau yn cynnwys croesawu pobl, helpu gyda gweithgareddau fel celf a chrefft, ychydig o waith derbynfa.Gweini diod a byrbrydau. Hefyd maen't yn cynnig cefnogaeth a chyngor ar broblemau sydd yn effeithio rhai defnyddwyr gwasanaeth.

06/08/2013

ASH CYMRU

      Arweinwyr Gwirfoddol Ardal – Gwynedd

ASH Cymru yw’r prif sefydliad gwirfoddol yng Nghymru sy'n mynd i’r afael â defnyddio tybaco

Dylgwylir i chi:
•             Ddysgu am nodau a diben The Filter ac ASH Cymru (www.thefilterwales.org /  www.ashwales.org.uk ).
•             Bod yn esiampl i bobl ifanc a gwirfoddolwyr eraill yn eich cymuned.
•             Codi ymwybyddiaeth o The Filter lle bo’n bosibl.

•             Helpu i recriwtio a chydgysylltu gwirfoddolwyr lleol.

12/07/2013

Cadwch Oriel Caffi Croesor ar agor

Peidiwch â cholli ased cymunedol gwerthfawr

Rydym agen pobl frwdfrydig, dynamig, ac ymroddedig i'r pwyllgor ac i wirfoddoli er mwyn cadw Cyfeillion Croesor ar Oriel Caffi Croesor yn fyw.
Cysylltwch a Shelagh ar 01766 770913 neu Ceri ar 07760 232333 am fwy o fanylion.

10/07/2013

Arweinydd grwp - AGRO

Nôd AGRO yw cynnig cymorth trwy weithgarwch, gan adeiladu cyfalaf cymdeithasol a gwella dealltwraeth o amgylch dibyniaeth.

Allwch chi helpu drwy redeg grŵp wythnosol, trefnu gweithgareddau (gyda gweithgareddau ychwanegol ar benwythnosau a gyda'r nos) a hyrwyddo'r grŵp yn eich cymuned leol. Byddwch yn cael eu cefnogi gan Gydlynydd AGRO ac yn derbyn hyfforddiant a rhai costau. Mae profiad personol o adferiad yn hanfodol  ac hefyd sgiliau cyfathrebu.rhagorol.

Cynorthwydd Swyddfa - SNAP Cymru

SNAP Cymru
Yn darparu cyngor a chynhaliaieth i deuluoedd a phlant ag anawsterau dysgu ychwanegol.

Maent angen help yn y swyddfa, llinell gymorth, canolfannau gwybodaeth a chodi arian.  Byddai sgiliau dwyieithrwydd, trwydded yrru, arddull ffôn gartrefor a sgiliau technoleg gwybodaeth yn fanteisiol.  Cewch hyfforddiant cefnogaeth a costau teithio.  Cysylltwch a ni heddiw am fwy o wybodaeth.

Cynorthwydd Canolfan Celfyddydau

BOCS CELF - y nôd yw sefydlu canolbwynt ar gyfer rhagoriaeth mewn celf gyfoes ifanc trwy ddarparu gofod i arddangos, cyfnewid syniadau, rhannu sgiliau ac ymgysylltu â'r gymuned leol.

Gallwch gymryd rhan drwy groesawu ymwelwyr i'r oriel ac ymateb i gwestiynau. Cynorthwyo mewn gweithdai a hefyd gyda gosod / newid  arddangosfeydd.

19/04/2013

Rainbows, Brownies, Guides


Cymhorthyddion ac arweinwyr grwpiau 


Bydd y cyfle hwn yn addas i wirfoddolwr brwdfrydig sy'n mwynhau gweithio gyda phobl ifanc.  Fel cynorthwy-ydd neu arweinydd byddwch yn helpu gyda gwaith crefft ac amryw o weithgareddau eraill ac yn derbyn hyfforddiant llawn.  Mae dau grwp angen help - Grwp Llanberis  sy'n cyfarfod ar nos Wener rhwng 6 a 7.15pm a Grwp Maesgeirchen sydd yn cyfarfod pnawn dydd Mawrth o 4pm ymlaen.

15/02/2013

Canolfan Llwybrau Ni

Gofalu am ddisgyblion a phroblem ymddygiad wrth iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau tu allan i'r ganolfan.  Y gallu i siarad cymraeg yn ddymunol.