Gwirfoddoli drwy roi cymorth i gyfoedion dros y ffôn—gwrando a chefnogi drwy
ddefnyddio profiad personol. Hefyd angen - Siaradwyr gwirfoddol I fynychu digwyddiadau a
siarad am eu profiad hwy o’r cancr yma. Cysylltwch am fwy o fanylion ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com.
Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
03/01/2014
DARLLEN AR Y CYD
Hwylusydd Gwirfoddol ar gyfer 'Darllen ar y Cyd'
er mwyn galluogi pobl a phlant i fanteisio ar brofiad rheolaidd o ddarllen. A oes gennych awr neu ddwy i sbario mewn wythnos ac yn byw yn ardal Bangor. Cysylltwch a ni heddiw.
CARTREF HEDD WYN, YR YSGWRN
A oes gennych awr neu ddwy i sbario i dywys ymwelwyr, cynorthwyo ar ddiwrnodau agored a gyda ymchwil hanesyddol. Csysylltwch a ni am fwy o wybodaeth.
CIL DE GWYNEDD
Angen gwirfoddolwyr i helpu yn y swyddfa ym Mhorthmadog gyda ceisiadau grantiau. Profiad yn ddymunol. Cysylltwch heddiw am fwy o fanylion.
GRWP CYMUNEDOL POBL BANGOR
Rydym yn chwilio am bobl i helpu gyda gwahanol rolau o fewn y pwyllgor i ledaenu'r llwyth o drefnu digwyddiadau cymunedol. Cysylltwch a ni os oes gennych awr neu ddwy i sbario.
WILD ELEMENTS
WILD ELEMENTS yn helpu pobl agosau at natur drwy gael hwyl. Gallwch helpu gyda un o'r cyfleoedd canlynol - Cynorthwydd Ysgol Goedwig; Cyfieithydd; Cyfryngau Cymdeithasol. Cysylltwch a ni heddiw.
Subscribe to:
Comments (Atom)