Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar: 01286 672626 / 01341 422575 neu llenwch y ffurflenCofrestru Diddordeb
21/09/2012
ChildLine Cymru
Darparu Gwasanaeth Ysgolion ChildLine i blant ysgolion cynradd drwy ddefnyddio deunyddiau cyflwyno pwrpasol. Gall hyn helpu plant i ddeall cam-drin yn well a’u galluogi i amddiffyn eu hunain. Hyfforddiant llawn ar gael.
03/08/2012
Cynorthwyo yng Nghaffi Hafan Bangor
Mae Age Cymru Gwynedd a Môn angen gwirfoddolwyr i helpu rheolwraig
Caffi Hafan - y caffi sydd yn ymyl yr orsaf bysiau ym Mangor.Bydd tasgau'r gwirfoddolwyr yn cynnwys
paratoi a gweini diodydd a byrbrydau poeth ac oer, clirio'r byrddau a chadw'r
caffi yn lân a thaclus.
Cyfarfod a Gwrando
Allech chi wneud gwir wahaniaeth i bobl hŷn
(50+) sy'n drwm eu clyw ac sy'n unig yn eu cymunedau? Hoffech chi gyfarfod pobl debyg i chi a chael
sgwrs dros banad? Os felly, dyma gyfle
i chi wirfoddoli gyda "Hear to Meet", sef prosiect newydd sydd er
lles pobl drwm eu clyw ar draws Cymru.
27/07/2012
Gwylwyr yr Arfordir
Mae'r National Coastwatch Institution gyda dwy orsaf wylio (Porthdinllaen a Morfa Bychan), a gorsaf newydd fydd yn agor ym Mhwllheli yn 2013. Mae angen gwirfoddolwyr i'w hyfforddi fel gwylwyr yr arfordir; i helpu gyda thasgau gweinyddol ac i godi arian.
06/07/2012
CYMYDMAEN CYF – CANOLFAN FENTER GONG MEINCIAU
BOTWNNOG
Cwmni
Cymunedol sy’n gweithredu er lles cymunedau Pen Llŷn.
Maent angen cymorth gyda rhedeg ‘Siop Cynhyrchwyr Llŷn 100%’ drwy gyfarch ymwelwyr y
siop, defnyddio til a gosod silffoedd.
RHEILFFORDD FAIRBOURNE
Gwirfoddolwyr
eu hangen i gadw y rheilffordd hanesyddol yma i fynd. Help gyda amrywiaeth o dasgau yn cynnwys codi
arian, caffi, peirianneg, gweinyddu, gwaith ymarferol allan yn yr awyr agored.
27/06/2012
Hafal - Ty Adferiad
Yn cefnogi a grymuso pobl gyda cyflyrau iechyd meddwl dwys.
Cefnogwr gwirfoddol dan hyfforddiant eu hangen i roi help llaw yn Nhy Adferiad ym Mhorthmadog. Fe fydd y wirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant ac yn cymryd rhan mewn amryw o weithgareddau gyda defnyddwyr y gwasanaeth yn ogystal a gwneud gwaith ty cyffredinol.
Cysylltwch heddiw am fwy o fanylion.
Helpu yng Nghaffi Canolfan Cyfiawnder Troseddol, Caernarfon
Mae'r caffi yn cael ei redeg gan Age Cymru er mwyn codi arian i helpu pobl hyn yn ein cymdeithas.
Y gwirfoddolwr i helpu drwy ddarparu bwyd, gweini diodydd poeth ac oer, cleirio byrddau a glanhau y llestri a cadw pobman yn lan a thaclus. Darperir hyfforddiant ar Hylendid Bwyd.