Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar: 01286 672626 / 01341 422575 neu llenwch y ffurflenCofrestru Diddordeb
Nôd AGRO yw cynnig cymorth trwy weithgarwch, gan adeiladu cyfalaf cymdeithasol a gwella dealltwraeth o amgylch dibyniaeth. Allwch chi helpu drwy redeg grŵp wythnosol, trefnu gweithgareddau (gyda gweithgareddau ychwanegol ar benwythnosau a gyda'r nos) a hyrwyddo'r grŵp yn eich cymuned leol. Byddwch yn cael eu cefnogi gan Gydlynydd AGRO ac yn derbyn hyfforddiant a rhai costau. Mae profiad personol o adferiad yn hanfodol ac hefyd sgiliau cyfathrebu.rhagorol.
SNAP Cymru Yn darparu cyngor a chynhaliaieth i deuluoedd a phlant ag anawsterau dysgu ychwanegol. Maent angen help yn y swyddfa, llinell gymorth, canolfannau gwybodaeth a chodi arian. Byddai sgiliau dwyieithrwydd, trwydded yrru, arddull ffôn gartrefor a sgiliau technoleg gwybodaeth yn fanteisiol. Cewch hyfforddiant cefnogaeth a costau teithio. Cysylltwch a ni heddiw am fwy o wybodaeth.
BOCS CELF - y nôd yw sefydlu canolbwynt ar gyfer rhagoriaeth mewn celf gyfoes ifanc trwy ddarparu gofod i arddangos, cyfnewid syniadau, rhannu sgiliau ac ymgysylltu â'r gymuned leol. Gallwch gymryd rhan drwy groesawu ymwelwyr i'r oriel ac ymateb i gwestiynau. Cynorthwyo mewn gweithdai a hefyd gyda gosod / newid arddangosfeydd.
Bydd y cyfle hwn yn addas i wirfoddolwr brwdfrydig sy'n mwynhau gweithio gyda phobl ifanc. Fel cynorthwy-ydd neu arweinydd byddwch yn helpu gyda gwaith crefft ac amryw o weithgareddau eraill ac yn derbyn hyfforddiant llawn. Mae dau grwp angen help - Grwp Llanberis sy'n cyfarfod ar nos Wener rhwng 6 a 7.15pm a Grwp Maesgeirchen sydd yn cyfarfod pnawn dydd Mawrth o 4pm ymlaen.
Cewch ddysgu am hanes Dinas Emrys ger Beddgelert ac hyfforddi i fod yn arweinydd ar grwp bychan o bobl. Byddwch yn cyfleu yr hanes a tywys grwp i'r safle hanesyddol yma. Darperir hyfforddiant llawn.
05/10/2012
Canolfan Genedlaethol Cadw Gwenyn Cymru
Cynorthwydd ei angen i gwrdd a chyfarch ymwelwyr, helpu gyda trefniadau ymweld a'r cychod gwenyn, arddangos y cynyrch, delio gyda arian a chadw y safle yn lan a thaclus. Sgiliau cyfathrebu da yn angenrheidiol a'r parodrwydd i ddysgu am wenyn a sut i gadw gwenyn. (Mae'r cyfle yma wedi ei leoli yn Tal y Cafn, Conwy)