Lleolir
y cyfle yma o adra gyda rhywfaint o deithio yng Nghymru. Y Swyddog Datblygu Aelodau fydd y prif
gyswllt i Making Music yn yr ardal.
Y prif ddyletswyddau fydd croesawu aelodau newydd, gyrru
ymholiadau ymlaen, gweithio efo rheolwr llinell i ddilyn fyny darpar aelodau,
chwilio am bartneriaethau lleol a chyfleoedd addas o fudd i aelodau (fel
gwyliau lleol a lleoliadau). Mae’r rôl
yma yn hyblyg a disgwylir i’r person wirfoddoli am o leiaf 4 awr yr wythnos.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
26/08/2014
22/08/2014
Royal Voluntary Service - Angen gwirfoddolwr i wneud gwaith gweinyddol, marchnata/PR ayyb
Mae'r RVS yn chwilio am wirfoddolwyr i drefnu digwyddiadau. Y prif ddyletswyddau fydd: chwilio am leoliadau addas i gynnal digwyddiadau, marchnata, cyhoeddusrwydd, paratoi gwahoddiadau ayyb.
Am fwy o fanylion am y cyfle yma cysylltwch â Carwyn ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Am fwy o fanylion am y cyfle yma cysylltwch â Carwyn ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
31/07/2014
22/07/2014
Cymhorthi mewn gweithgareddau syrcas a chelf
Mae Cimera yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i redeg gweithgareddau syrcas a celfyddydol (drama,
dawns, cerddoriaeth, celf, carnifal ayyb).
Cynhorthwy'r bobl ifanc sy'n cymered rhan yn y
gweithgareddau.
Am fwy o fanylion cysylltwch a Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu ebostio carwyn@mantellgwynedd.com
Marshal gwirfoddol ar gyfer ras hanner marathon Eryri dydd Sadwrn 25 Hydref 2014
Mae Tenovus yn codi miloedd o bunnoedd bob blwyddyn trwy
ddigwyddiadau rhedeg. Cafodd Marathon Eryri ei bleidleisio fel y Marathon gorau
yn y DU, ond mae hefyd yn cael ei ystyried yn un o'r rhai mwyaf anodd! Gall
cyfranogwyr ddisgwyl nid yn unig golygfeydd hardd, ond hefyd yn trefniadau o'r
radd flaenaf a lletygarwch lleol cynnes. Mae angen gwirfoddolwyr i gynorthwyo
gyda gorsafoedd diodydd dŵr Tenovus ac hefyd mewn mannau i annog a llonni ar y
rhedwyr ar hyd y llwybr Hanner Marathon i helpu greu presenoldeb gwych ar gyfer
y cyfranogwyr ras.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Cynorthwy-ydd Siop Elusen
Subscribe to:
Posts (Atom)