Rydym
yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu edrych ar ôl stondinau, helpu efo
gweithgareddau ee crefftau, stiwardio mewn digwyddiadau cyffredinol o amgylch
Gogledd Cymru. Mae’r rôl yma yn addas i
berson 18+. Am fwy o fanylion cysylltwch
â Carwyn ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
22/12/2014
NSPCC – Gwasanaeth Ysgolion ChildLine
Rydym angen gwirfoddolwyr i ddosbarthu Gwasanaeth Ysgolion ChildLine i
ysgolion cynradd gyda’r ffocws ar blant rhwng 7 - 11 oed. Bydd y gwirfoddolwyr yn defnyddio
cyflwyniadau a gweithdai yn y dosbarth i godi ymwybyddiaeth plant o sut i gadw
yn ddiogel ee trais a bwlio. Mae angen
siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd a Môn.
Gofynnir i’r gwirfoddolwyr gynnal sesiynau mewn 10 ysgol dros gyfnod o
12 mis. Mae angen i’r ymgeiswyr fod yn
18+. Am fanylion pellach cysylltwch â
Carwyn ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
Both Parents Matter - Golygydd Newyddlen Genedlaethol
Mae
angen wirfoddolwyr i greu a datblygu newyddlen genedlaethol i wirfoddolwyr a
ffrindiau’r elusen. Fydd y person yn
gweithio o adra ar ben ei hun efo cefnogaeth y Rheolwr Cenedlaethol. Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ym
Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
28/11/2014
Ambiwlans Awyr Cymru – Cyfaill Gyrrwr Fan
Mae’r
cyfle yma yn cynnwys casglu a danfon rhoddion o/i gartrefi pobl. Bydd angen cychwyn yn gynnar yn y bore a fydd yn rhaid i’r gwirfoddolwyr fod yn eithaf ffit oherwydd cario
dodrefn.
30/10/2014
Partneriaeth Awyr Agored - Taith gerdded codi sbwriel
Mae’r
Partneriaeth Awyr Agored wedi bod yn gweithio yn agos efo Gwirvol, Cadw Cymru’n
Daclus a RAW Adventures i gynnal digwyddiadau gwirfoddol amgylcheddol i bobl
ifanc rhwng 14-25 oed. Fydd y digwyddiad
yma yn cael ei gynnal unwaith ar 1af-2ail Tachwedd 2014. Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ym
Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
Bws Barbara – Cymorth Gweinyddol
Mae
Bws Barbara yn chwilio am wirfoddolwyr yn ardal Aberdyfi fuasai’n gallu cynnig
cefnogaeth gweinyddol unwaith neu ddwy yr wythnos am 20 i 30 munud, i edrych
dros dogfennau defnyddwyr newydd ac arddangos sut i i ddefnyddio’r belt
diogelwch yn y cerbyd.
Am
fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn - Cynorthwy ydd Siop
Diddordeb
gwirfoddoli mewn siop? Mae Hosbis yn y
Cartref yn chwilio am weithwyr siop i wahanol leoliadau. Buasai’r tasgau yn cynnwys rhyngweithio efo
cwsmeriaid, sortio a phrisio rhoddion, gweithio ar y til, arddangos nwyddau a
chadw’r siop yn daclus. Am fwy o
wybodaeth cysylltwch efo Carwyn ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
02/10/2014
Ymgyrchydd Masnach Deg
Mae angen ymgyrchydd gwirfoddol oed 18+ i ymuno efo’u
grwpiau Masnach Deg cymunedol lleol. Mae
ymgyrchwyr Masnach Deg yn defyddio eu sgiliau i unai weithio tuag at neu cadw
gwobr Masnach Deg y gymuned drwy trefnu digwyddiadu, ymweld ag ysgolion i roi
gwybodaeth ayyb. Mae’r rôl yma’n hyblyg
ond mae’r rhan fwyaf o gyfarfodydd Masnach Deg yn cael eu cynnal gyda’r nos
gyda’r gweithgareddau a digwyddiadau yn cael eu cynnal gyda’r nos neu ar y
penwythnos. Am fanylion pellach
cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Subscribe to:
Posts (Atom)