Mae Breast Cancer Care Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr 'Headstrong'. Bydd y rôl yn cynnwys:
Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
12/02/2015
Meningitis Now - Gwirfoddolwr casgliadau tun
Mae'r rôl yma yn ein helpu i gasglu rhoddion yr ydym yn derbyn pob
blwyddyn trwy ein tuniau casglu. Mae'r rhoddion hyn yn ein helpu i barhau â'r
gwaith a wnawn.
Fel Cydlynydd Casglu Tun, byddwch yn gyfrifol am gyflwyno tuniau
codi arian Meningitis Now i fusnesau yn
eich ardal leol. Mae hyn yn cynnwys casglu tuniau newydd a gwagio a bancio yr
arian a godwyd. Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Meningitis Now - Gwirfoddolwr/wraig Codi Arian
A
oes gennych ychydig o oriau i'w sbario bob ychydig fisoedd? A hoffech helpu i
godi arian i sefydliad sy'n ymroddedig i achub bywydau ac ailadeiladu dyfodol?
Os
felly, yna mae'r cyfle yma i chi.
13/01/2015
Y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru – Cyfieithydd Gwirfoddol y iaith Gymraeg
Rydym
yn chwilio am wirfoddolwr i gyfieithu deunydd o Saesneg i Gymraeg i gefnogi ein
Cynllun Iaith Cymraeg. A ydych yn siarad
Cymraeg yn rhugl efo sgiliau ysgrifennu ardderchog? Oes gennych lefel A neu radd yn yr iaith
Gymraeg? Oes gennych ddealltwriaeth o’r
sector wirfoddol? Am fwy o fanylion
cysylltwch â Carwyn Humphreys ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
Relate Cymru – Gwirfoddolwyr Canolfan Cyswllt Plant
Rydym
yn chwilio am wirfoddolwyr i fod yn gyfaill a gwirfoddolwyr cefnogol i
wasanaeth cyswllt plant ym Mangor.
Dyletswyddau'r gwirfoddolwyr fydd i baratoi lluniaeth a darparu lleoliad
diogel a niwtral i’r teuluoedd fynychu.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn Humphreys ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
Iechyd Cyhoeddus Cymru - Gwirfoddolwr Cyswllt Sgrinio
A
ydych yn mwynhau cyfarfod pobl newydd, efo amser sbâr? Pam ddim bod yn
wirfoddolwr cyswllt sgrinio? Cynnwys y
rôl ydi gosod stondinau gwybodaeth, mynychu digwyddiadau iechyd a rhannu gwybodaeth
allweddol am sgrinio yn eich cymuned leol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Carwyn Humphreys ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
06/01/2015
Cyswllt a’r Henoed – Gyrrwr Gwirfoddol (14:2)
A oes gennych ddiddordeb mewn dreifio? Rydym yn chwilio am wirfoddolwr i godi 2 neu
3 unigolyn hyn ar bnawn dydd Sul a’u danfon nhw i de parti. Fel y gyrrwr fuasech yn cael gwahoddiad i
fynychu’r parti, lle fuasech yn cael y cyfle i fwynhau’r cwmni o yrwyr eraill a
phobl hyn. Am fanylion pellach am y
cyfle gwirfoddol yma cysylltwch â Carwyn Humphreys ym Mantell Gwynedd ar 01286
672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Cyswllt Llinell Gymorth – Ymddiriedolaeth Goroeswyr Cymru
Mae’r Ymddiriedolaeth Goroeswyr Cymru yn cefnogi
goroeswyr trais rhywiol yng Nghymru.
Rydym yn chwilio i recriwtio wirfoddolwyr i fod yn gyswllt ir linell
gymorth. Fydd y gwirfoddolwyr yn cael
hyfforddiant o safon uchel mewn sgiliau gwrando ayyb. Gellir weithio o gartref neu dod i mewn i’r
swyddfa. Gofynnir i ymgeisiwyr fod yn
18+ oed. Am fwy o fanylion cysylltwch a
Carwyn Humphreys ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Subscribe to:
Posts (Atom)