Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

18/02/2016

Gwirfoddolwr Safle - Wild Elements


Mae Elfennau Gwyllt yn defyddio coetir naturiol ar gyfer ein digwyddiadau, ac mae angen llawer o waith cynnal a chadw i gadw’r safleodd yn saff i ddefnyddio yn ystod yn cynlluniau chwarae.  Dyna pam mae yna dîm o wirfoddolwyr Elfennau Gwyllt sydd yn helpu i drefnu ein safleoedd.  Mae’r gwirfoddolwyr yma yn hanfodol i sicrhau fod Elfennau Gwyllt yn rhedeg sesiynau saff, a fod pawb yn hapus ar ein safleoedd. 
 
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddolwr@mantellgwynedd.com

Marchnata - Harlech and Ardudwy Leisure

Person profiadol, egniol, a brwdfrydig sydd eu angen i gydlynnu ac i gydweithio a Rheolwr, a bwrdd y Ganolfan Hamdden  yn Harlech er mwyn meddwl ,paratoi, a bod yn gallu llwyddo yn effeithiol i farchnata y pwll nofio, y wal ddringo ac y caffi gan weithio gyda cyllid bach.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01341 422575 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy gyda gwaith ymchwil - Bron Brawf Cymru


Mae y cyfle hwn yn agored i ferched yn yr oedran 48-52 a fyddai a diddordeb mewn cymeryd rhan  a bod yn rhan o brosiect ymchwil gan Bron Brawf Cymru.
 
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Casglwr Apel Mawr y Cenin Pedr – Marie Curie


Mae Marie Curie yn cynnal nifer o ddigwyddiadau casglu yn yr ardal fel rhan o'u Apêl Fawr Cennin Pedr . Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn gwahanol archfarchnadoedd ac ar y stryd mawr . Er mwyn gwneud y casgliadau hyn yn lwyddiant , rydym yn dibynnu ar bobl i wirfoddoli awr neu ddwy o'u hamser i sefyll gyda'r hambyrddau cennin Pedr a tun casgliad i godi arian fydd yn mynd tuag at cefnogi nyrsys Marie Curie lleol .

·         Tywyn – 26 Mawrth
·         Caernarfon 26 a 28 Mawrth
·         Bangor – 20, 21 and 27 Chwefror a 11 Mawrth
·         Bala – 27 Chwefror a 26 Mawrth
·         Pwllheli – 20th February and 28th March
·         Porthmadog – 26 Chwefror, 20 and 26 Mawrth
·         Dolgellau – 27 Chwefror
·         Barmouth – 26 Mawrth

For further information contact Mantell Gwynedd on 01286 672626/01341 422575 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

26/01/2016

Gwirfoddolwyr 'Headstrong' - Breast Cancer Care Cymru


·    Dangos i gleientiaid sut i wneud y mwyaf o hetiau, sgarffiau, a darnau gwallt fel dewis arall i wigiau
·    Rhoi cyngot i gleientiaid ar sut i ofalu am eu gwallt a chroen y pen yn ystod triniaeth
·    Cynnig cefnogaeth emosiynol priodol i gleientiaid a sicrhau eu bod yn ymwybodol o wasanaethau cenedlaethol a lleol eraill a allai fod yn ddefnyddiol iddynt, gan gynnwys cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill pan fo hynny'n briodol
·    Hyrwyddo HeadStrong a gwasanaethau Gofal Cancr y Fron eraill yn y gymuned leol, gan gynnwys dosbarthu taflenni a rhoi sgyrsiau ac arddangosiadau anffurfiol
·    Sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg yn esmwyth trwy gynorthwyo gyda thasgau gweinyddol

Oedran 18 +
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

 

Gwirfoddolwyr (nifer o rolau) – Cymdeithas MS (Gwynedd a Môn)


Rydym yn chwilio am amrywiaeth o bobl yn bennaf i helpu gyda gwaith gweinyddol, creu cylchlythyrau, hyrwyddo gweithgareddau cangen ar-lein, ymgyrchu a chodi arian. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy'n gallu gweithio ar liwt eu hunain. 

Mae rolau ar gyfer aelodau'r pwyllgor hefyd, gan gynnwys rôl trysorydd sydd angen sgiliau TG ynghyd â'r angen i fynychu cyfarfodydd pwyllgor (a gynhelir ar Ynys Môn gyda'r nos).

Rydym yn agored i awgrymiadau ac yn hapus i fod yn hyblyg i gyd-fynd ag anghenion gwirfoddolwyr. 

Mae hyfforddiant ar gael hefyd.

Oedran 18 +
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwydd mewn caffi – Harlech and Ardudwy Leisure


Cymeryd bwyd allan
Glanhau y byrddau ayyb
Golchi llestri ac eu cadw yn daclus
Gwneud te a coffi
Gweini cwsmeriaid
Defnyddio y til
Glanhau cyffredinol 

Oedran – 16 +
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

19/01/2016

Gwirfoddolwyr Rhwydwaith Gymunedol - RNIB


Ydych yn mwynhau bod yn rhan o'ch cymuned leol? Allwch chi ein helpu i godi ymwybyddiaeth o'n gwaith ac ein helpu i recriwtio gwirfoddolwyr yn eich ardal leol? Rydym angen i chi ymweld â chanolfannau cymunedol, llyfrgelloedd, siopau, eglwysi a digwyddiadau i rhoi taflenni gwybodaeth a phosteri a siarad â phobl am wirfoddoli ar gyfer RNIB.

Beth fyddwch chi'n ei wneud?

Adeiladu perthnasau gydag adwerthwyr lleol; Helpu i drefnu digwyddiadau; Cysylltu â sefydliadau; bod yn wyneb i'r RNIB; Siarad â grwpiau ysgolion, busnesau a codi ymwybyddiaeth o  RNIB. 

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com