Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

03/03/2016

Achubiwr Bywyd dan Hyfforddiant - Harlech and Ardudwy Leisure


I gynorthwyo athrawon + achubwyr bywyd ofalu am yr offer.Hyfforddi nofio ac hefyd y cyfle i wella eich hun wrth wneud cwrs NPLQ os ydyw safon nofio yn cael eu gyraedd.  Rôl yn addas i bobl 16+

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com neu 01286 672626

Gwirfoddolwr Garddio - Wild Elements


Mae yna fwy i Elfnennau Gwyllt na’r Ysgol Goedwig a cynlluniau chwarae.  Rydym yn cydweithio a’r gymuned lleol i greu priosectau garddio sy’n helpu i gyfoethogi’r gymuned mewn ffyrdd syml na fysa’n bosib heb y cyfle yma.  Mae Elfennau Gwyllt yn berchen ar llain sydd angen gofal rheolaidd, a hoffwn eich help chi i wneud hyn. 

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com neu drwy ffonio 01286 672626

Gwirfoddolwyr codi arian yn y gymuned - Action on Hearing Loss


Fedrwch chi sbario ychydig oriau i helpu i godi arian hanfodol er mwyn cefnogi pobl â nam ar y clyw? Mae angen gwirfoddolwyr i ddod yn rhan o dîm Codi Arian Cymru ac i helpu gyda'n gweithgareddau codi arian amrywiol. 

Byddwch yn cefnogi pobl yn uniongyrchol sydd â nam ar eu clyw trwy roddion a dderbyniwn. Byddwch yn rhyngweithio gyda'r cyhoedd i dderbyn a diolch rhoddion. Byddwch yn derbyn crys-T a tuniau/bwcedi casglu swyddogol. Bydd cymorth yn cael ei ddarparu gan eich swddog codi arian rhanbarthol. Ni fydd angen i chi gyfrif a bancio arian dan sylw. Bydd treuliau parod yn cael ei dalu yn unol â pholisi Action on Hearing Loss.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl dros 16+ 

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com neu 01286 672626

Arweinydd Taith Feicio (merched) – Beicio Cymru


Byddwch yn ran o brosiect unigrwy i ferched i gael mwy o ferched i feicio - 'Breeze'.

Mae Breeze yn cynnig cyfleoedd hyblyg, diogel, hygyrch a hwyl i reidio beic i ferched. Mae'r teithiau yn rhad ac am ddim, yn gyfeillgar ac yn agored i ferched o bob oed a gallu

Byddwch yn cael eich hyfforddi i fod yn Hyrwyddwr Breeze; gwirfoddolwr benywaidd fydd yn arwain y teithiau beic. Byddwch yn cael eich cefnogi gan Beicio Cymru a darperir cit pencampwr yn ogystal â aelodaeth British Cycling. Disgwylir y byddwch yn cwblhau 12 reidiau y flwyddyn, gall reidiau hyn cyd-fynd pan fyddwch ar gael ac yn lleol i chi.

Gall reidiau amrywio o 3 milltir i 50+ milltir, beth bynnag yr ydych eisiau cynllunio. Mae'r pwyslais ar reidio cymdeithasol ble mae merched yn dod at ei gilydd i gadw'n heini.

Mae’r rôl yn hyblyg i bobl oed 18+ ond gofynir i wirfoddolwyr drefnu 12 reid feicio y flwyddyn. 

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com neu drwy ffonio 01286 672626

Cydlynydd Cymorth Technoleg- RNIB


 Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud technoleg yn hygyrch i bawb? Allech chi gydlynu a chefnogi gwirfoddolwyr yn eich ardal sy'n helpu pobl sydd wedi colli eu golwg gyda eu technoleg? Os oes gennych sgiliau trefnu a chyfathrebu gwych a gyda diddordeb mewn helpu pobl i ddysgu am a defnyddio technoleg, gall hwn fod yn  rôl i chi!

O adref- mae angen mynediad at ffôn ac e-bost.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com neu ffonio 01286 672626

18/02/2016

Gwirfoddolwr Garddio - Wild Elements


Mae yna fwy i Elfnennau Gwyllt na’r Ysgol Goedwig a cynlluniau chwarae.  Rydym yn cydweithio a’r gymuned lleol i greu priosectau garddio sy’n helpu i gyfoethogi’r gymuned mewn ffyrdd syml na fysa’n bosib heb y cyfle yma.  Mae Elfennau Gwyllt yn berchen ar llain sydd angen gofal rheolaidd, a hoffwn eich help chi i wneud hyn.
 
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Marchnata - Wild Elements


Darn o bwrpas Elfennau Gwyllt yw i weithio a pobl newydd.  Mae’n bwysig i ni enill sylw pobl sydd ddim yn meddwl am ei hunain fel “pobl awyr agored”, a’i denu allan i fyd natur.  I wneud hyn, yr ydym angen pobl all gysylltu a’r cyhoedd a’i diddori yn ein gwaith.  Wyneb i wyneb a dros y we, mae yna angen i ni gyfathrebu a phobl Gogledd Cymru.  Wrth wirfoddoli yn y rôl yma, byddwch yn helpu Elfennau Gwyllt i gyraedd gymaint o bobl a phosib, a fod ein digwyddiadau yn cael ei marchnata a hysbysebu yn dda. 
 
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cyfeillydd- Ardal Caernarfon - Royal Air Forces Association


Mae Cyfaill Gwirfoddol yn cynnal ymweliadau ac yn cadw mewn cysylltiad ag aelodau o'r teulu RAF (cleientiaid) ar ran y Gymdeithas RAF. Darparu cwmnïaeth a chymorth sy'n canolbwyntio ar y cleient a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn rhan o'r gymuned ac yn teimlo eu bod yn gysylltiedig yn gymdeithasol i'r teulu RAF ehangach. 
 
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com