Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

13/09/2016

Gwirfoddolwyr llinell gymorth Cymorth i Ferched Cymru (cyfle i ferched yn unig)



I ddarparu gwasanaeth gyfrinachol, gwybodaeth a chyfeirio ymlaen dros y ffôn i bobl sy’n dioddef camdriniaeth yn y cartref a thrais rhywiol yn ogystal â’r rhai sy’n cysylltu ar eu rhan.
 
Gwerthuso a lleihau y risg i alwyr sy’n dioiddef o gamdriniaeth yn y cartref a thrais rhywiol.
 
Cyfeirio galwyr at wasanaethau cefnogol addas gan ddefnyddio system chwilio am loches Cymorth i Ferched fel mae angen.
 
Cynnal gwybodaeth cywir ar alwadau a dderbynir a chadw at reolau cyfrinachedd a’r Ddeddf Diogelu Data.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+.  Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Mentor – Sported


 
Mae gwirfoddolwyr Sported yn cefnogi ein aelodau ar eu taith i ble maent yn dymuno bod . Drwy ddarparu cefnogaeth ac arweiniad y tu ôl i'r llenni maent yn helpu ein aelodau i ddod yn fwy effeithiol a chynaliadwy; gan eu galluogi i barhau i ddiwallu anghenion pobl ifanc yn eu cymuned . Fel arfer bydd gwirfoddolwr yn cyflawni swyddogaeth o " Mentor " wrth gefnogi Aelod , yn dibynnu ar anghenion penodol yr Aelod hwnnw.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 26+.  Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Allgymorth egin – Fledgling Arts Collective Central


 

Rydym yn chwilio am Wirfoddolwyr ar-lein a fydd yn ymateb i'n haelodau naill ai mewn sgwrs fyw ( archebu ymlaen llaw ) neu drwy arddull negeseuon e-bost.  Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

06/09/2016

Gyrrwr locomotif diesel – Castell Penrhyn


 
1. Gweithredu'r locomotif Ruston i ymwelwyr deithio arno
2. Gwneud gwiriadau diogelwch sylfaenol a gwiriadau lefel hylif cyn gyrru
3. Cadw at ddogfennau gweithdrefn weithredu a diogelwch ar bob adeg
4. Darparu croeso cynnes a chyfeillgar i'r holl ymwelwyr
5. Dod yn gyfarwydd â a dilyn Polisi Iechyd a Diogelwch yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar bob adeg.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwydd Siop – Hospis yn y Cartref


 
Mae'r Hosbis yn rhoi gofal lliniarol i bobl yng ngogledd orllewin Cymru sydd yn dioddef o salwch terfynnol.  Maent yn  awyddus iawn i glywed gan unrhyw un sydd a diddordeb mewn helpu yn eu siopau elusen - er mwyn codi arian i'r achos teilwng yma. 
Bydd y tasgau yn cynnwys delio gyda chwsmeriaid; gwneud trefn a phrisio rhoddion; defnyddio'r til; arddangos y nwyddau; a chadw'r siop yn lân a thaclus.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Clwb Ni – Mencap (16+)


 

Mae Clwb ni Angen gwirfoddolwyr i helpu redeg y clwb sef clwb cymdeithasol i bobl yn Pwllheli hefo anableddau. Mae angen gwirfoddolwyr i helpu wneud gweithgareddau fel arts, canu ac bingo. Mae'r clwb ar agor bob Nos Lun 7-9.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Mentor ‘Through the Gate’ – PACT Cymru


 
Mae Pact yn elusen annibynnol uchel ei barch, yn gweithio ledled Cymru a Lloegr i ddatblygu a darparu amrywiaeth o wasanaethau arloesol drwy ddarparu cymorth ymarferol ac emosiynol i garcharorion, eu teuluoedd ac i gyn-droseddwyr. O ganlyniad i ddatblygu cyfres o bartneriaethau strategol llwyddiannus, mae is-gwmni, Pact Futures, wedi cael ei ddewis yn ddiweddar fel darparwr dewisol o Wasanaethau Ailsefydlu. Mae hyn yn cynnwys darparu cyfuniad o waith achos 1-1 ar gyfer troseddwyr sy'n ailsefydlu o'r carchar i'r gymuned a sesiynau galw heibio /  grwpiau cymorth. Er mwyn cyflwyno'r prosiect hwn rydym yn gofyn am dîm o mentoriaid gwirfoddol "Through the Gate".  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+.  Am fanylion pellach cysylltwch a Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Ymwelwyr cartref- prosiect 'Byw'n Dda gyda Colli Clyw' – Action on Hearing Loss


 
Nod y prosiect yw sicrhau y gall pobl yng Ngogledd Cymru fyw yn dda gyda cholli clyw. Gwneir hyn drwy gefnogi pobl yn eu cartrefi er mwyn dysgu sut i ddefnyddio offer cynorthwyol. Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru ac Action on Hearing Loss felly bydd gwirfoddolwyr yn cael eu cofrestru gyda'r ddau sefydliad.  Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com