Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

25/10/2016

Clirio Rhododendrons - Y Dref Werdd



Mae’r cyfle yma yn ddigwyddiad un dydd ar y 28 Hydref 2016.  Am fanylion pellach cysylltwch a Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Arweinwyr Sgowtiaid Beaver neu Cynorthwy-ydd Adran Bethesda – Sgowtiaid Cymru


 
Dyma adran newydd o fewn grŵp sydd eisoes yn bodoli. Mae Beavers ar gyfer merched a bechgyn rhwng 6-8 mlwydd oed. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael megis Arweinwyr Sgowtiaid Beaver neu Cynorthwy-ydd Adran Sgowtiaid Beavers . Mae'r rolau yn cynnwys cynllunio a rhedeg rhaglen amrywiol o gemau a gweithgareddau gyda'r Sgowtiaid Beaver. Darperir hyfforddiant am ddim a gellir ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored. Mae'r Sgowtiaid yn ymwneud â chael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, mae'n wych i wella eich CV a gwneud cyfraniad i fywydau pobl ifanc a'r gymuned leol. Bydd y grŵp yn cyfarfod bob dydd Mawrth ym Methesda rhwng 5.45pm - 6:45pm.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwywydd Siop Elusen – Siop Ambiwlans Awyr (Bangor)


 
Rhoi trefn ar stoc.
Prisio a stemio dillad
Defnyddio'r til
Dyletswyddau siop cyffredinol
 
Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Codi Arian – Ambiwlans Awyr Cymru


 
Mae angen gwirfoddolwyr i helpu i werthu cynyrch mewn sioeau lleol a digwyddiadau, archfarchnadau a casgliadau stryd.  Amser i siwtio yr unigolyn.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl 16+ oed.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddolwr@mantellgwynedd.com

Cynorthwyydd Siop – Ambiwlans Awyr Cymru (Tywyn)


 
Cynorthwyo gyda gwaith siop cyffredinol - gweithio ar y til, cadw'r siop yn lân ac yn daclus, yn edrych ar ôl y stoc, gwasanaethu cwsmeriaid.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwyydd Siop – Ambiwlans Awyr Cymru (Caernarfon)


 
Cynorthwyo gyda gwaith siop cyffredinol - gweithio ar y til, cadw'r siop yn lân ac yn daclus, yn edrych ar ôl y stoc, gwasanaethu cwsmeriaid.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cymorth Lleol – YHA (Youth Hostel Organisation)



Gwaith adeiladu a chynnal a chadw.
Garddio - plannu gwelyau blodau, paentio ffensys, tocio gwrychoedd.
Mae nifer o ddigwyddiadau untro wedi'u cynllunio rhwng mis Hydref a mis Chwefror.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.  Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cefnogwr ‘Speak UP’ – Age Connects North Wales Central


 
Cefnogi ac annog pobl hŷn sy’n agored i niwed i gael yr hyder i siarad drostynt eu hunain mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd gan gynnwys cartrefi nyrsio a phreswyl, cartrefi lloches a llety gofal ychwanegol.  Annog ystwythder a hunan-barch ac annog sgiliau hunan eiriolaeth.  Cefnogi pobl hŷn er mwyn sicrhau bod eu hanghenion, eu hawliadau a'u dymuniadau yn cael eu hategu.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com