Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

02/02/2017

Tywysydd y gegin mewn gwisg fictoriaidd– Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Castell Penrhyn


Bydd Tywysydd y gegin mewn gwisg fictoriaidd yn cynnig croeso cynnes i'n holl ymwelwyr gan eu helpu i archwilio a dysgu mwy am hanes Castell Penrhyn a gwneud yn siŵr eu bod yn cael ymweliad pleserus a chofiadwy. Mae'r rôl yn golygu gwisgo gwisg cyfnod.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Tywysydd Ystafelloedd – Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Castell Penrhyn


Helpu ymwelwyr i fwynhau eu hymweliad i Gastell Penrhyn drwy eu croesawu i'r castell a rhoi gwybodaeth am hanes yr ystafelloedd a'r dodrefn / paentiadau.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Nifer o wahanol gyfleoedd– Elfennau Gwyllt


·         Gwirfoddolwyr Garddio
·         Gwirfoddolwyr Marchnata
·         Gwirfoddolwyr Addysg Awyr Agored
·         Gwirfoddolwyr safle 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Siop a Chaffi – Royal Voluntary Service, Bangor


Mae siopau RVS , caffi a throli yn gwasanaethu cleifion mewn ysbytai, y staff ac ymwelwyr gyda chynhesrwydd ychwanegol o gyfeillgarwch a dealltwriaeth gan in gwirfoddolwyr.  Mae angen gwirfoddolwyr i helpu i redeg y gwasanaeth , gwasanaethu cwsmeriaid, cymryd taliadau wrth y til , paratoi diodydd neu fyrbrydau a bod yn glust i wrando.

Angen gwirfoddolwyr:

Dydd Mercher 3yh – 7yh
Dydd Mercher 11yb – 2.30yh
Dydd Mercher 8yb – 11yb
Dydd Mawrth 4yh – 7.30yh 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

01/02/2017

Men’s Shed– Age Cymru Gwynedd a Môn


Rydym yn awyddus i recriwtio gwirfoddowlyr ar gyfer cynllun newydd 'Men's Shed' yng Nghaernarfon.  Mae 'Men's Shed' yn fenter cenedlaethol sy'n cefnogi dynion. Cynhelir nifer o weithgareddau sydd o ddiordeb i'r dynion e.e. gwaith coed, carddio, celf, LPs a cerdded.  Mae 'Men's Shed' Caernarfon wedi ei lleoli yn Cibyn. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Hyfforddwr Chwaraeon a Chwarae - Alldaith Balcanau Hydref 2017– World at Play


Mae hwn yn gyfle ryngwladol ar gyfer y pobl 18 oed neu'n hŷn i ymuno â'r tim World at Play ar daith  8 wythnos archwiliadol i'r Balcanau a gwneud gwahaniaeth wirioneddol i fywydau pobl dan anfantais.  Mae wyth o wirfoddolwyr ynghyd ag Arweinydd Tîm yn cynnal sesiynau chwarae a chwaraeon datblygiadol yn Croatia, Bosnia, Kosovo a Serbia.  Bydd pob gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant llawn fel Arweinwyr Chwarae.  Byddwch yn cael profiad uniongyrchol mewn gwaith datblygu rhyngwladol.  Byddwch yn archwilio rhanbarth tu hwnt i'r llwybr twristiaid traddodiadol - gallwch gael un o'r profiadau mwyaf bythgofiadwy eich bywyd.  Bydd ein taith nesaf yn gadael ym Medi 2017. 

Gofynnir i chi i godi hyd at £ 700 tuag at gostau eich hun. Mae bwrsariaethau ar gael a gellir cael cymorth tuag at godi arian. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Codwyr arian cymunedol – Leukaemia Care Society

Rydym yn chwilio am bobl ar draws y wlad i wirfoddoli fel Codwyr Arian Cymunedol i ni.  Gall y rôl hon fod yn hyblyg iawn a gallwch wneud cymaint neu gyn lleied o amser sydd gennych. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddowlyr Llyfrgell Ar-lein – Seeing Ear


Gweithio o adref ac yn eich amser eich hun, byddwch yn ein helpu i ychwanegu at ein llyfrau llyfrgell ar-lein. Mae ein llyfrgell ar-lein rhad ac am ddim yn darparu llyfrau mewn fformat hyblyg i gefnogi darllenwyr sydd angen llyfrau mewn fformat hygyrch oherwydd rhesymau megis nam ar y golwg, dyslecsia neu anabledd corfforol. Byddwch yn golygu, steilio a fformatio ffeiliau MS Word a byddwn yn rhoi'r holl hyfforddiant sydd ei angen arnoch ar gyfer hyn sydd unwaith eto gellir ei wneud yn y cartref drwy e-bost i chi.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com