Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

26/04/2017

Arweinwyr Sgowtiaid a Cynorthwy-ydd Beavers - Caernarfon

Mae Beavers ar gyfer merched a bechgyn rhwng 6-8 mlwydd oed. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael megis Arweinwyr Sgowtiaid Beaver neu Cynorthwy-ydd Adran Sgowtiaid Beavers . Mae'r rolau yn cynnwys cynllunio a rhedeg rhaglen amrywiol o gemau a gweithgareddau gyda'r Sgowtiaid Beaver. Darperir hyfforddiant am ddim a gellir ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored. Mae'r Sgowtiaid yn ymwneud â chael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, mae'n wych i wella eich CV a gwneud cyfraniad i fywydau pobl ifanc a'r gymuned leol.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Arweinwyr Sgowtiaid a Cynorthwy-ydd Beavers

Arweinwyr Sgowtiaid a Cynorthwy-ydd Beavers Bangor

12/04/2017

Mentor 'Positive Steps' - RVS

Mae'r RVS yn chwilio am fentor i gefnogi gwirfoddolwyr 'Positive Steps'.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Mentor / cyfaill gwirfoddol – SOVA ACE (Achieving Change Through Employment)

Rydym yn chwilio am fentoriaid gwirfoddol i weithio gyda'n cleientiau i oresgyn unigedd cymdeithasol a chynyddu integreiddio o fewn y gymuned. Mae llawer o'n cleientiau yn gwynebu rhwystrau ieithyddol a diwylliannol wedi iddynt symud i fyw i'r DU neu'r sawl sydd mewn lloches.

Rôl y gwirfoddolwyr fydd cefnogi'r cleientiau i oresgyn y rhwystrau hyn drwy gyfeillio a chwrdd gyda nhw yn reolaidd mewn lleoliad anffurfiol (e.e caffi ) i ddarparu cefnogaeth chyfle i gymdeithasu.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Grwpiau codi arian lleol – The Lullaby Trust

Rydym yn chwilio am gefnogwyr ymroddedig a brwdfrydig i ymuno gyda ni i ffurfio grwpiau codi arian lleol ar draws y DU!

Bydd y grwpiau yma yn chwarae rhan hanfodol i'n helpu i godi ymwybyddiaeth am The Lullaby Trust a'n negeseuon am gysgu'n fwy diogel ar draws y DU. Ein nod yw haneru achosion o SIDS erbyn 2020. Mae grwpiau lleol mewn sefyllfa gwych i ymgysylltu â'r gymuned ac yn gwybod y ffyrdd gorau o wneud hynny gan ddefnyddio eu rhwydweithiau a'u sgiliau. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Clwb Cinio Bangor – RVS

Mae angen gwirfoddolwyr mewn ar gyfer clwb cinio Bangor. Mae'r rolau hyn yn cynnwys gweini prydau bwyd, cymdeithasu gyda defnyddwyr y gwasanaeth, gan ddarparu lifftiau a chydlynu'r clwb cinio.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr ‘Positive Steps’ – RVS

Bydd gwirfoddolwyr yn ymweld â pherson hŷn er mwyn darparu cwmnïaeth a chefnogaeth ymarferol . Mae'r rol hon wedi ei chreu er mwyn ceisio lleihau unigrwydd ac adeiladu hyder y person hŷn er mwyn gwella eu hansawdd bywyd eu hunain . Rydym yn anelu at ddod â'r gymuned at ei gilydd ac i leihau unigedd. 