Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

02/05/2012

NYAS (National Youth Advocacy Service)

Ymwelwyr Annibynnol

Mae NYAS yn elusen sydd yn darparu gwybodaeth, cyngor, eiriolaeth a chynrychiolaeth gyfreithiol i blant a phobl ifanc. Mae angen ymwelwyr annibynnol gwirfoddol i gyfeillio plentyn neu berson ifanc mewn gofal gyda'r nod o ddatblygu cyfeillgarwch tymor hir a pherthynas agos gydag oedolion. Byddai gwirfoddolwyr yn fodlon cymryd rhan mewn gweithgareddau o ddewis y plentyn (neu berson ifanc) ac yn ysgrifennu adroddiadau byr am yr ymweliadau.
Darperir hyfforddiant i wirfoddolwyr - sydd gyfwerth â NVQ lefel 3.  Byddai gofyn i'r gwirfoddolwr allu cynnig tua 3 awr y mis.