Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

16/08/2013

Cymorth i Ddioddefwyr Trosedd

Cymorth i Ddioddefwyr yw'r elusen genedlaethol sy'n gweithio gyda dioddefwyr troseddau drwy ddarparu cymorth emosiynol a chyngor ymarferol. Rydym yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr i gynnal Archwiliadau Diogelwch Rhag Tân. A oes gennych sgiliau DIY? byddem yn falch iawn o glywed gennych.  Rhoddir hyfforddiant llawn.