Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

22/07/2014

Mentor Busnes - Prince's Trust Cymru


Mae'r Rhaglen Menter yn cefnogi pobl sy'n ddi-waith rhwng 18-30 oed ac  sydd â diddordeb mewn hunan gyflogaeth, i archwilio a phrofi eu syniadau, ysgrifennu cynlluniau a dechrau eu busnesau eu hunain, neu sicrhau canlyniadau amgen mewn cyflogaeth, addysg, hyfforddiant neu waith.
Rôl y Mentor Busnes fydd rhoi canllawiau i gleientiau, helpu pobl ifanc i ddod o hyd ac i ddeall gwybodaeth, datrys problemau a gweithredu ar gynlluniau gweithredol. Byddwch yn arwain pobl ifanc i ddod o hyd i atebion .
Rôl y mentor busnes hefyd fydd datblygu perthynas waith dda gyda'r bobl ifanc.
Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626