Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

29/08/2014

Tŷ Gwydr – Cefnogaeth Gweinyddol


Mae Tŷ Gwydr yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi rhedeg yr adeilad a phrosiectau cymunedol. Maent yn chwilio am 4-6 wirfoddolwr i gychwyn ym mis Hydref.  Mae angen gwirfoddolwyr i:

  • Gwaith derbynfa
  • Dyletswyddau sylfaenol gweinyddol gan gynnwys archebu ystafelloedd
  • Gwaith cynnal a chadw'r adeilad
  • Dyletswyddau glanhau ysgafn
Lleolir y cyfleoedd gwirfoddol yma yn y swyddfa.  Disgwylir lleiafswm o 4 awr yr wythnos a thelir costau teithio a lwfans bwyd.  Rhaid i wirfoddolwyr fod yn 18+ oed.

Diddordeb yn y cyfleoedd gwirfoddol yma?  Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Carwyn neu Gwenllian ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com