Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

02/10/2014

Citizens Online Gwynedd - Tiwtor Sylfaenol y Rhyngrwyd


Mae angen gwirfoddolwyr 18+ oed i gynorthwyo’r cyhoedd i ddysgu a dallt elfennau sylfaenol y rhyngrwyd - sut i fynd ar-lein, sut i ddefnyddio ‘search engines’, ebost a defnydd cyffredinol pob dydd.  Os rydych yn gyfforddus yn defnyddio e-byst, google ac yn mwynhau helpu eraill, hwn yw’r cyfle i chi!  Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com