Mae Action on Hearing Loss yn chwilio am wirfoddolwyr i
roi cefnogaeth a chyngor i ddefnyddwyr teclyn clyw, eu teuluoedd, gofalwyr,
grwpiau cymunedol ac i bobl broffesiynol.
Gofynnir i’r gwirfoddolwr gynnal sesiynau am 3 awr yr wythnos mewn
ysbytai, canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd ayyb. Mae’r rôl yn addas i bobl 18+ oed. Efo diddordeb? Cysylltwch efo Carwyn
Humphreys ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com