Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

10/03/2015

CAB Gwynedd a Môn - Ymgynghorydd gwirfoddol (16oed +)


Mae Cyngor ar Bopeth (CAB) yn delio gyda nifer o agweddau. Y rhai mwyaf cyffredin mae pobl yn eu hwynebu sy'n dod i'r canolfannau cynghori yw dyled, budd-daliadau, materion cwsmeriaid, tai a chyflogaeth.
Bydd cynghorwyr gwirfoddol yn:
1. cyfweld cleientiaid
2.Helpu drwy drafod gyda asiantaethau eraill megis credydwyr neu darparwyr gwasanaethau
3.Ysgrifennu llythrau
4. Gwneud galwadau ffôn ar ran y cleientiau
5. Cyfeirio at asiantaethau eraill
Ni fydd cynghorwyr gwirfoddol yn cyfweld cleientiaid ar eu pen eu hunain am y 4 mis cyntaf- byddant yn cysgodi gwirfoddolwyr profiadol yn y lle cyntaf drwy ddelio â chleientiaid.