Mae angen gwirfoddolwyr i helpu redeg sesiynau galw heibio - ble y
bydd aelodau o'r cyhoedd yn galw draw am gyngor neu help gyda phroblem ddigidol
- sut i fynd ar-lein, defnyddio peiriannau chwilio, e-bost a defnydd
cyffredinol bob dydd. Nid ydym yn chwilio am ddewiniaid technegol, dim ond pobl
sy'n mwynhau helpu pobl eraill, ac wedi meistroli defnydd pob dydd o'r
rhyngrwyd. Byddwch yn rhan o dîm a fydd yn rhoi cwpl o oriau o amser yn y
gymuned i ateb ymholiadau cyffredinol ac i gynnig cymorth gyda phroblemau
sylfaenol y bydd dechreuwyr yn dod ar eu traws.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu
gwirfoddoli@mantellgwynedd.com