Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

18/02/2016

Arweinwyr Sgowtiaid a Cynorthwy-ydd Beavers (Bangor)


Dyma adran newydd o fewn grŵp sydd eisoes yn bodoli. Mae Beavers ar gyfer merched a bechgyn rhwng 6-8 mlwydd oed. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael megis Arweinwyr Sgowtiaid Beaver neu Cynorthwy-ydd Adran Sgowtiaid Beavers . Mae'r rolau yn cynnwys cynllunio a rhedeg rhaglen amrywiol o gemau a gweithgareddau gyda'r Sgowtiaid Beaver. Darperir hyfforddiant am ddim a gellir ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored. 
 
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com