Ni yw prif elusen Cymru ar gyfer pobl gydag afiechyd
meddwl difrifol a’u gofalwyr.
Gan gwmpasu pob ardal Gymru, mae Hafal yn sefydliad a
reolir gan y bobl y byddwn yn eu cefnogi: unigolion sydd wedi cael eu
heffeithio gan afiechyd meddwl difrifol.
Sylfaen ein gwasanaethau ar gyfer cleientiaid yw ein
Rhaglen Adferiad unigryw ein hunain. Yn seiliedig ar egwyddorion modern
hunanreolaeth a grymuso, mae’r rhaglen hon yn cynnig ffordd gwbl drefnus i gleientiaid
o gyflawni adferiad drwy ganolbwyntio ar wella pob agwedd ar eu bywyd.
Mae angen gwirfoddolwyr i helpu redeg sesiynau i
ddefnyddwyr ein gwasanaeth ym Mhorthmadog.
Mae sesiynau yn amrywio o: Llythrennedd a rhifedd, sgiliau
cyfrifiadurol, celf a chrefft, gemau, coginio, lliwio i oedolion, grwpiau
cerdded, bore te a coffi, byrbrydau a sgwrsio ( ar gyfer gofalwyr ), codi arian. Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com